English icon English

Newyddion

Canfuwyd 91 eitem, yn dangos tudalen 1 o 8

Welsh Government

Hwb o £39m i deithwyr bysiau yng Nghymru

Heddiw (dydd Gwener, 15 Mawrth) mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi cyhoeddi y bydd y gefnogaeth i'r diwydiant bysiau yng Nghymru yn parhau, gan gadarnhau £39m ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Welsh Government

Hwb o £1m gan Lywodraeth Cymru i rwydwaith o glybiau ceir ar gyfer cysylltu cymunedau gwledig

Mae'r Dirprwy Weinidog Hinsawdd Lee Waters wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru buddsoddi £1m i greu rhwydwaith o glybiau ceir ar gyfer cysylltu cymunedau gwledig.

Daw'r cam fel rhan o gynlluniau i gyrraedd targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau carbon gyda'r nod o sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, teithiau cerdded a beicio yn cyfrif am 45% o deithiau erbyn 2040.

Mae cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar gamau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cymryd i wella hygyrchedd o fewn cymunedau gwledig, fel y gwasanaeth bws Fflecsi . sy'n ymateb i'r galw.

Bydd y cynlluniau ar gyfer clybiau ceir, sy'n darparu ffordd hawdd a fforddiadwy i bobl rannu manteision defnyddio car, heb y gost o fod yn berchen ar un, yn cael eu gweithredu mewn cymunedau gwledig ledled Cymru gan gynnwys y Drenewydd, Llanidloes, Y Trallwng, Machynlleth, Crymych, Cwmllynfell, Cilgeti, Llanymddyfri a Llandrindod.

Wrth siarad ar ymweliad ag un o'r clybiau ceir sydd newydd ei ariannu yn Llandeilo, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:

Er mwyn cyrraedd ein targedau o ran allyriadau carbon cyfreithiol, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, teithiau cerdded a beicio yn cyfrif am 45% o deithiau erbyn 2040 (i fyny o 32% yn 2021).

Bydd cyflawni hyn mewn ardaloedd gwledig yn gofyn am ddull gwahanol i'r hyn a fydd yn cael ei wneud yn y rhan fwyaf o ardaloedd trefol.

Mae clybiau ceir yn ffordd hawdd a fforddiadwy i bobl rannu'r defnydd o gar heb y costau sydd ynghlwm wrth fod yn berchen ar un.

"Bydd y cyllid a gyhoeddir heddiw yn creu rhwydwaith o glybiau ceir mewn cymunedau gwledig ledled Cymru ac edrychaf ymlaen at weld y gwahaniaeth gwirioneddol y bydd yn ei wneud o ran ehangu opsiynau trafnidiaeth a lleihau ein hallyriadau carbon dros amser."

DM with T22 bus - front on-2

Dirprwy Weinidog yn mapio'r camau nesaf ar gyfer bysiau yng Nghymru

Heddiw, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi amlinellu'r camau nesaf ar gyfer diwygio'r bysiau yng Nghymru.

Welsh Government

Y ffaith bod cerbydau'n gyrru’n arafach ar ffyrdd 20mya yn 'drobwynt' medd y Dirprwy Weinidog

Mae data a gyhoeddwyd heddiw am y terfyn 20mya newydd yn dangos bod cerbydau'n gyrru 4mya yn arafach ar gyfartaledd ar briffyrdd ers i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya gael ei gyflwyno'n genedlaethol.

Dyfi Bridge WG 31.01.24

Pont newydd dros afon Dyfi yn ‘symbol gweladwy’ o ddyfodol adeiladu ffyrdd yng Nghymru

Mae pont newydd a adeiladwyd ger Machynlleth wedi cael ei disgrifio fel symbol gweladwy o sut y bydd Cymru'n ‘codi'r bar’ o ran adeiladu ffyrdd.

Welsh Government

Gwaith ffordd hanfodol i'w wneud ar yr A55

Cynghorir modurwyr i gynllunio ymlaen llaw cyn iddynt deithio gan y bydd gwaith ffordd mawr yn dechrau a lonydd yn cael eu cau ar yr A55 rhwng cyffordd 36, Cyfnewidfa Warren a ffin Cymru/Lloegr ddiwedd mis Ionawr, fydd yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth.

Welsh Government

Cynllun newydd yn gosod y llwybr i adferiad wrth i Gymru wynebu argyfwng natur

“Mae angen i ni fanteisio ar bob cyfle i helpu natur ac rydyn ni am ddefnyddio’n tir o gwmpas ein rhwydwaith ffyrdd i’w helpu i ymadfer.”

Welsh Government

Mae plant o bob rhan o Gymru yn croesawu’r terfyn cyflymder 20mya newydd ar eu ffordd i’r ysgol

Mae taith plant i’r ysgol bore yma yn edrych ac yn teimlo’n wahanol, yn dilyn cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd o 20mya.

Welsh Government

Neges Sbaen i Gymru ar derfynau cyflymder is ddyddiau cyn cyflwyno 20mya

"Bydd rhai ofnau ymlaen llaw, ond bydd popeth yn dod yn normal yn gyflym ac yna bydd popeth yn dechrau gwella.

Welsh Government

Prif Weinidog Cymru yn gweld yr effaith gadarnhaol y mae 20mya yn ei chael yn Saint-y-brid

Heddiw (dydd Iau, 7 Medi), ymwelodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ag un o'r ardaloedd cyntaf yng Nghymru i dreialu'r terfyn 20mya diofyn newydd i ddysgu mwy am effaith y "newid sylweddol mwyaf mewn diogelwch cymunedol mewn cenhedlaeth".

pont menai menai bridge still-2

Rhagor o waith i ddechrau heddiw ar Bont Menai

Bydd y gwaith yn dechrau heddiw (Medi 4ydd) i atgyweirio Pont Menai i sicrhau ei bod yn cael ei hadfer yn barhaol mewn pryd ar gyfer ei phen-blwydd yn 200 oed.

 

Welsh Government

'Damweiniau traffig ar y ffyrdd yw'r achos mwyaf o anaf i blant,' meddai ymgynghorydd brys pediatrig yn ysbyty plant Cymru "

Yn syml, mae lleihau cyflymder yn achub bywydau! Bob blwyddyn yng Nghymru, rydym yn gweld yr effeithiau dinistriol y mae gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yn eu cael ar blant a'u teuluoedd. Nhw yw'r achos unigol mwyaf o anafiadau difrifol i blant sydd fel arfer yn cerdded neu'n beicio."