English icon English

Y ffaith bod cerbydau'n gyrru’n arafach ar ffyrdd 20mya yn 'drobwynt' medd y Dirprwy Weinidog

Reduced speeds on 20mph roads a ‘turning point’ says Deputy Minister

Mae data a gyhoeddwyd heddiw am y terfyn 20mya newydd yn dangos bod cerbydau'n gyrru 4mya yn arafach ar gyfartaledd ar briffyrdd ers i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya gael ei gyflwyno'n genedlaethol.

Roedd y data, a gasglwyd gan Trafnidiaeth Cymru, yn monitro cyflymder miliynau o gerbydau mewn naw cymuned wahanol ledled Cymru cyn ac ar ôl i'r terfyn gael ei roi ar waith.

Mae’r data a gasglwyd yn dangos gostyngiad yn y cyflymder o 4mya ar gyfartaledd – o 28.9mya i 24.8mya – ar briffyrdd – ac mae hynny'n dystiolaeth glir bod pethau’n symud i'r cyfeiriad cywir.

Mae ymchwil yn dangos bod cysylltiad clir rhwng gyrru’n arafach a gostwng nifer gwrthdrawiadau a’r nifer sy’n cael eu hanafu. Ar ffyrdd trefol, am bob 1mya o ostyngiad yn y cyflymder, ceir 6% o ostyngiad yn nifer y gwrthdrawiadau.

Mae'r duedd hon ar i lawr yn y cyflymder yn cael ei hategu hefyd gan y data yn yr adroddiad monitro terfynol, a gafodd ei gyhoeddi hefyd heddiw, am yr ardaloedd lle cafodd y terfyn o 20mya ei gyflwyno gyntaf.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth:

"Mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw yn dystiolaeth glir bod cyflymderau cyfartalog yn gostwng ar ffyrdd ledled Cymru.

"Rydyn ni'n gwybod hefyd, ar sail data a gyhoeddwyd gan Gan Bwyll  yn gynharach yn y mis, bod 97% o yrwyr yn cydymffurfio â'r terfyn cyflymder arafach newydd – mae ymddygiad ac agweddau at y terfyn 20mya yn dechrau newid.

"Mae gennym gryn ffordd i fynd eto, ond mae'n galonogol gweld bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir. Mae pob gostyngiad o 1mya mewn cyflymder yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol – felly mae hwn yn drobwynt go iawn.

"Mae'r dystiolaeth ryngwladol yn glir, mae gyrru ar gyflymder is yn achub bywydau – mae llai o wrthdrawiadau, llai o farwolaethau, a llai o anafiadau difrifol, gan leihau'r trallod i unigolion a'u teuluoedd a hefyd yr effaith enfawr ar y GIG a'r gwasanaethau brys eraill."

Wrth sôn am yr ystadegau diweddaraf, ychwanegodd Ross Moorlock, Prif Weithredwr yr elusen diogelwch ffyrdd  Brake:  

"Mae'n galonogol gweld bod y terfyn cyflymder newydd o 20mya wedi arwain at ostwng cyflymder cyffredinol ar y ffyrdd hyn.

"Bob dydd, mae pump o bobl yn marw ar ffyrdd y DU ac mae cyflymder yn ffactor ym mhob damwain. Po gyflymaf y byddwn ni'n gyrru, y mwyaf yw'r risg o gael damwain, a'r caletaf y bydd y gwrthdrawiad os cawn ni ddamwain.

"Rydyn ni'n gwybod bod damweiniau ffordd yn cael effaith erchyll ar deuluoedd a chymunedau. Yn anffodus, rydyn ni'n gweld hynny'n uniongyrchol bob dydd drwy waith ein Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Dioddefwyr ar y Ffyrdd. Y llynedd, rhoddodd y Gwasanaeth hwnnw gefnogaeth i dros 1,500 o deuluoedd a oedd wedi cael profedigaeth oherwydd damwain ffordd neu wedi dioddef anafiadau trychinebus a newidiodd eu bywydau.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd llywodraethau ac awdurdodau lleol ar draws y DU yn dilyn esiampl Cymru ac yn mabwysiadu terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd lle mae pobl a cherbydau'n cymysgu."

Ochr yn ochr â'r data cenedlaethol a gyhoeddwyd heddiw, cafodd adroddiad cychwynnol y Tîm Adolygu annibynnol, sy'n edrych ar esemptiadau i'r terfyn diofyn o 20mya, ei gyhoeddi hefyd. Mae'r adroddiad yn cynnwys cyfres o ganfyddiadau cynnar ac argymhellion cychwynnol.

Wrth siarad am waith y tîm adolygu annibynnol, dywedodd Arweinydd CLlLC, Andrew Morgan:

"Mae arweinwyr cynghorau yn croesawu'r adolygiad o’r gweithredu ac o'r canllawiau cyfredol. Byddan nhw'n eu helpu i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer eu cymunedau. Mae cynghorau am fod yn rhan o’r adolygiad er mwyn gwneud yn siŵr bod y terfyn cyflymder iawn ar y strydoedd iawn.

"Er ei bod yn ymddangos bod yna rai ffyrdd lle nad yw'r terfyn cyflymder yn gywir, a bod angen i’r awdurdodau lleol ailedrych arno, rydyn ni wedi clywed gan rai cynghorau bod gwahaniaethau positif wedi cael eu gweld o ran cyflymder a diogelwch ar eu strydoedd, yn enwedig ymhlith pobl agored i niwed."