English icon English

Cynllun newydd yn gosod y llwybr i adferiad wrth i Gymru wynebu argyfwng natur

New plan sets out road to recovery as Wales faces nature crisis

“Mae angen i ni fanteisio ar bob cyfle i helpu natur ac rydyn ni am ddefnyddio’n tir o gwmpas ein rhwydwaith ffyrdd i’w helpu i ymadfer.”

Dyna eiriau'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wrth iddo lansio strategaeth newydd a fydd yn sicrhau bod ymdrin â'r argyfwng natur yn ystyriaeth hollbwysig wrth weithredu ffyrdd Cymru.

Lansiwyd Llwybr Newydd i Natur – y Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru gan y Dirprwy Weinidog ar ymweliad â chilfan Plas Newydd ar yr A483 ger Tycroes.

Mae'n un o 200 o safleoedd ar draws y rhwydwaith ffyrdd strategol yng Nghymru lle mae bioamrywiaeth yn cael ei rheoli.

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae blodau gwyllt fel tegeirian cors y de, tegeirian brych, y gribell felen, carpiog y gors, corn glas a llygad-llo mawr wedi'u gweld fwyfwy ar y safle o ganlyniad i'r reolaeth honno.

Mae tamaid y cythraul hefyd wedi'i blannu yno i helpu i gefnogi un o boblogaethau cryf olaf y glöyn byw brodorol, Britheg y Gors, sy'n byw gerllaw.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:

“Mae angen i ni fanteisio ar bob cyfle i helpu natur ac rydyn ni am ddefnyddio’n tir o gwmpas ein rhwydwaith ffyrdd i’w helpu i ymadfer.”

"Ni ddylai gwaith rheoli a gwella ein ffyrdd fod ar draul ein hamgylchedd mwyach.

"Yn anffodus, rydym wedi gweld dirywiad amlwg yn ein rhywogaethau brodorol yng Nghymru, gyda gostyngiad o 20% ar gyfartaledd yn y 30 mlynedd diwethaf yn unig, ac mae angen i bob un ohonom wneud rhywbeth am hynny.

"Gall y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru chwarae ei ran yn bendant ac mae'r strategaeth newydd hon yn gam pwysig i'r cyfeiriad cywir ond ni allwn weithredu ar ein pennau ein hunain.

"Rhaid i ni adeiladu ar ein gwaith gyda'n partneriaid, a chyda'n gilydd gallwn gyflawni er budd natur yng Nghymru."

Datblygwyd y Cynllun Gweithredu Adfer Natur mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol gan gynnwys cydweithwyr ym maes Polisi Natur, Tasglu Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru, yr Asiantau Cefnffyrdd, Trafnidiaeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Coed Cadw a Plantlife.