English icon English

Gwaith ffordd hanfodol i'w wneud ar yr A55

Essential road works to take place on A55

Cynghorir modurwyr i gynllunio ymlaen llaw cyn iddynt deithio gan y bydd gwaith ffordd mawr yn dechrau a lonydd yn cael eu cau ar yr A55 rhwng cyffordd 36, Cyfnewidfa Warren a ffin Cymru/Lloegr ddiwedd mis Ionawr, fydd yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth.

Bydd y gwaith i atgyweirio'r baeau concrit gwaelodol a rhoi wyneb newydd ar y ffordd yn dechrau ar y gerbytffordd tua’r dwyrain, ac yna’n cael ei wneud ar yr ochr tua’r gorllewin. Er mwyn paratoi ar gyfer y prif waith, bydd slipffyrdd cyffordd 36A Parc Manwerthu Brychdyn yn cael eu hatgyweirio ac yn cael wyneb newydd. Bydd y gwaith yn dechrau ar 26 Ionawr ac yn dod i ben ar 25 Mawrth.

Bydd wyneb newydd y ffordd yn sicrhau teithiau mwy diogel a thawel i fodurwyr a bydd yn golygu llai o achosion lle bydd angen cau'r ffordd ar gyfer gwneud atgyweiriadau brys ar y rhan hon o'r A55.