Pont newydd dros afon Dyfi yn ‘symbol gweladwy’ o ddyfodol adeiladu ffyrdd yng Nghymru
New Dyfi bridge is a ‘visible symbol’ of the future of road building in Wales
Mae pont newydd a adeiladwyd ger Machynlleth wedi cael ei disgrifio fel symbol gweladwy o sut y bydd Cymru'n ‘codi'r bar’ o ran adeiladu ffyrdd.
Y bont newydd dros afon Dyfi yw un o'r prosiectau cyntaf i'w gwblhau ar ôl ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad ffyrdd annibynnol a gynhaliwyd ym mis Chwefror y llynedd.
Yn ei hymateb i'r adolygiad, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dim ond mewn prosiectau adeiladu ffyrdd yn y dyfodol sydd yn:
- lleihau allyriadau carbon a chefnogi newid o ran trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio
- gwella diogelwch drwy newidiadau ar raddfa fach
- helpu i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd
- darparu cysylltiadau â swyddi ac ardaloedd o weithgarwch economaidd, mewn ffordd sy'n gwneud y defnydd mwyaf posibl o drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.
Aeth argymhellion yr adolygiad ffyrdd ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru ymlaen i ffurfio'r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth lle enwir y bont newydd dros afon Dyfi yn brosiect allweddol.
Agorwyd y bont, a adeiladwyd i gymryd lle strwythur o'r 19eg ganrif sy'n agored i lifogydd, heddiw (dydd Gwener, 2 Chwefror) diolch i £46m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Fe'i disgrifir fel cynllun sy'n gwrthsefyll yr hinsawdd gan nad oedd y Bont ar Ddyfi flaenorol o'r 19eg ganrif wedi'i chynllunio i gario'r traffig presennol ac roedd ar gau yn aml oherwydd llifogydd cyson.
Gan siarad yn ystod agoriad y bont newydd, dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth: “Mae wedi bod yn wych ymweld heddiw i agor y bont newydd hon sy'n symbol gweladwy iawn o'r newidiadau rydym yn eu gwneud a'r ffordd y bydd ffyrdd yn cael eu hadeiladu o hyn ymlaen.
“Mae'r llwybr strategol allweddol hwn yn cysylltu gogledd a de Cymru ac yn darparu cysylltedd ar gyfer gofal iechyd, addysg, cyflogaeth a hamdden.
“Roeddwn yn arbennig o falch o fod ymhlith y grŵp cyntaf o bobl ar feiciau i fanteisio ar y llwybr beicio a cherdded newydd sydd wedi'i integreiddio'n llawn i'r bont newydd, fel rhan o rwydwaith teithio llesol ehangach sy'n cael ei ddatblygu ym Machynlleth a'r cyffiniau.
“Mae hyn yn dangos sut y gallwn ei gwneud hi'n haws cerdded a beicio yng nghefn gwlad Cymru, yn ogystal ag yn ein trefi a'n dinasoedd mwy trefol.”
Cynhaliwyd yr ymweliad i agor y bont newydd dros afon Dyfi bron i flwyddyn ers dyddiad cyhoeddi'r adolygiad ffyrdd sydd wedi denu sylw ledled y byd.
Aeth y Dirprwy Weinidog yn ei flaen: "Mae ein datganiad polisi ffyrdd a gyhoeddwyd y llynedd yn nodi'n glir y byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn ffyrdd newydd a phresennol, ond er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid yn y dyfodol rhaid canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, nid cynyddu capasiti; peidio â chynyddu allyriadau drwy gyflymder cerbydau uwch, a pheidio ag effeithio'n andwyol ar safleoedd ecolegol gwerthfawr.
“Rydym wedi datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur, deddfu i ddiogelu Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'i gwneud yn ofyniad cyfreithiol i gyrraedd Sero Net erbyn 2050.
“Mae'n rhaid i ni fod yn barod i fwrw'r maen i'r wal.”
Ychwanegodd David Parr, Rheolwr Gyfarwyddwr Griffiths: “Rydym yn falch o weld Cynllun Pont ar Ddyfi ar agor i'r cyhoedd.
“Mae'r cynllun wedi bod yn her dechnegol go iawn ond mae'n dyst i'n hymrwymiad i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, gwella mynediad cymunedol at wasanaethau gofal iechyd ac addysg hanfodol, a hynny gan ganolbwyntio ar atebion teithio llesol.
“Drwy ymdrechion ar y cyd, rydym nid yn unig wedi lleihau ein hôl troed carbon o'r gwaith adeiladu ond rydym hefyd wedi buddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol drwy feithrin doniau drwy brentisiaethau.”