English icon English

Neges Sbaen i Gymru ar derfynau cyflymder is ddyddiau cyn cyflwyno 20mya

Spain’s message to Wales on lower speed limits days ahead of 20mph roll out

"Bydd rhai ofnau ymlaen llaw, ond bydd popeth yn dod yn normal yn gyflym ac yna bydd popeth yn dechrau gwella.

Dyna'r neges i bobl Cymru gan un o'r bobl allweddol y tu ôl i weld Sbaen yn symud i derfyn cyflymder o 30km / h.

Álvaro Gómez Mendez yw Pennaeth Arsyllfa Diogelwch y Ffyrdd Genedlaethol yn Sbaen a chwaraeodd ran allweddol pan newidiodd y wlad y terfyn cyflymder ar y mwyafrif o'i ffyrdd i 30km / h yn 2019.

Ers hynny, mae Sbaen wedi nodi 20% yn llai o farwolaethau ar ffyrdd trefol, gyda marwolaethau wedi gostwng 34% ar gyfer beicwyr a 24% ar gyfer cerddwyr.

Cofnododd Mr Gómez y neges ddyddiau yn unig cyn i strydoedd Cymru sydd â terfyn cyflymder o 30mya ar hyn o bryd newid i 20mya.

Daw'r symud, sydd wedi'i ddisgrifio fel y 'newid sylweddol mwyaf mewn diogelwch cymunedol mewn cenhedlaeth' i rym ddydd Sul yma (Medi 17).

Meddai Mr Gómez:

"Y prif darged i ni oedd lleihau nifer y digwyddiadau difrifol ac angheuol yn ninasoedd Sbaen.

"Mae wyth o bob deg marwolaeth mewn dinasoedd yn ddefnyddwyr ffyrdd bregus ac mae hyn yn cynnwys cerddwyr, beicwyr, beicwyr modur a defnyddwyr e-sgwteri.

"Mae cyflymder yn allweddol i leihau risg. Mae gennym boblogaeth hŷn yn Sbaen ac roeddem yn poeni am nifer y cerddwyr a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn damweiniau ffordd.

"Chawson ni ddim achosion difrifol o awdurdodau lleol yn gor-weithredu. Aeth popeth yn dda. Mae gyrwyr a defnyddwyr ffyrdd Sbaen a beicwyr a cherddwyr yn gyfforddus iawn gyda'r terfyn newydd.

"Y brif neges i bobl Cymru yw y gallwch wneud hyn.

"Bydd rhai ofnau ymlaen llaw ond ein profiad ni a phrofiad dinasoedd eraill ar draws y byd yw unwaith y caiff pethau eu gwneud, byddant yn dod yn normal yn gyflym.

"Does dim oedi mawr, does dim tagfeydd does dim cynnydd mewn llygredd.

"Mae popeth yn dod yn normal ac mae popeth yn gwella."

Daw'r newid yng Nghymru ar ôl pedair blynedd o waith gydag awdurdodau lleol, yr heddlu ac arbenigwyr diogelwch ar y ffyrdd i gynllunio newid yn y gyfraith, gan wneud Cymru y genedl gyntaf yn y DU i ailosod y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd lleol.

Mae ymchwil yn dangos y gallai'r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya arbed £92m y flwyddyn trwy leihau nifer y marwolaethau ac anafiadau. Gallai hefyd helpu i leihau'r pwysau ar y GIG yn sgil gostyngiad mewn anafiadau o ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.

Dros y degawd cyntaf, amcangyfrifir y bydd terfyn cyflymder is yn arbed hyd at 100 o fywydau ac 20,000 o anafusion.