Llywodraeth Cymru yn dathlu Diwrnod Aer Glân gyda hwb o £58m i deithio llesol
Welsh Government celebrates Clean Air Day with £58m boost for active travel
Bydd mwy na £58m yn cael ei fuddsoddi mewn ffyrdd i'n helpu i ddewis cerdded a beicio ar gyfer teithiau lleol, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, heddiw (dydd Iau, 15 Mehefin).
Wrth siarad ar Ddiwrnod Aer Glân, amlinellodd y Dirprwy Weinidog â chyfrifoldeb am drafnidiaeth sut y byddai'r buddsoddiad enfawr yn ariannu llwybrau teithio llesol newydd a gwell ledled Cymru.
Ers 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu cyllid teithio llesol o £15m i £70m - sydd bellach dros £22 i bob person yng Nghymru, o'i gymharu â gwariant penodol ar deithio llesol yn Lloegr o tua £1 y pen yn yr un cyfnod.
Roedd y Dirprwy Weinidog yn siarad ar ymweliad â Sir y Fflint lle gwelodd drosto ei hun sut oedd pobl yn manteisio i'r eithaf ar lwybr teithio llesol newydd Sandy Lane i Saltney Ferry.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters: "Mae cerdded a beicio yn cynnig ymateb ymarferol a hanfodol i helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau amgylcheddol ac iechyd.
"Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn rhoi pwysau arnom i ddarparu rhwydweithiau teithio llesol o ansawdd uchel sy'n annog mwy a mwy o bobl i gerdded a beicio yn rheolaidd ar gyfer teithiau yn lle defnyddio car.
"Mae'r cyllid heddiw yn fuddsoddiad sylweddol arall a fydd yn ein helpu i gyflawni cynlluniau uchelgeisiol ledled Cymru sydd wedi'u cynllunio i gysylltu pobl â’u hoff leoedd a’r lleoedd y mae angen iddyn nhw fynd iddyn nhw."
Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer gwasanaethau stryd a’r strategaeth drafnidiaeth ranbarthol:
“Rwy’n falch iawn o dderbyn cadarnhad ynghylch cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y ddau gynllun pwysig hyn ym maes Llwybrau Diogel mewn Cymunedau sy’n anelu at wella hygyrchedd o fewn Treffynnon a’r Fflint. Nod y cynigion hyn yw gwella’r amodau ar gyfer cerdded a beicio drwy leihau cyflymder traffig, rhoi mwy o flaenoriaeth i gerddwyr ac ehangu troedffyrdd. Trwy ychwanegu seilwaith gwyrdd bydd yr ardaloedd hyn yn creu amgylchedd deniadol a diogel a fydd yn annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn fwy aml.”
Bydd y £58m newydd yn golygu adeiladu 37 o lwybrau teithio llesol newydd a datblygiad manwl o 22 arall.
Bydd hefyd yn cael ei wario ar 30 o gynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau awdurdodau lleol, gyda £3m ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol.
Hefyd, fel rhan o'r gronfa hon, bydd pob un o'r 22 awdurdod lleol yn derbyn isafswm o £500k y gellir ei ddefnyddio ar gyfer datblygu cynlluniau a gwaith llai yn y dyfodol megis mannau croesi newydd, gwaith hyrwyddo a safleoedd parcio newydd ar gyfer beiciau.
Gallwch weld dadansoddiad llawn o’r cyllid yma: Cynlluniau sy’n cael eu hariannu yn 2023 i 2024 | LLYW.CYMRU