Newyddion
Canfuwyd 7 eitem

Cwrdd â'r sefydliad sy'n troi bwyd dros ben yn gymorth i'r rhai mewn angen
Bob blwyddyn mae tua 400,000 tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yng Nghymru a phe bai dim ond un y cant ohono yn cael ei arbed, gallai gael ei ddefnyddio i ddarparu dros naw miliwn o brydau bwyd.

Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi cyllid ar gyfer 16 o Goetiroedd Bach newydd
Mae'r drydedd rownd o gyllid wedi'i dyfarnu i 13 o brosiectau sy'n cefnogi creu 16 o Goetiroedd Bach newydd ledled Cymru.

Blwyddyn arall o safonau dŵr ymdrochi o ansawdd uchel i Gymru
Llwyddodd Cymru i sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel unwaith eto yn 2023 gyda 98% o'r dyfroedd ymdrochi dynodedig yn cyrraedd ein safonau amgylcheddol llym.

Gwaharddiad ar blastig untro yn dod i rym wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyrraedd sero net
Mae nifer o gynhyrchion plastig untro wedi cael eu gwahardd rhag cael eu cyflenwi yng Nghymru heddiw (dydd Llun, Hydref 30).

Mis i fynd cyn cyflwyno gwaharddiad plastig untro yng Nghymru
Mae mis i fynd cyn y bydd nifer o eitemau plastig untro yn cael eu gwahardd rhag eu gwerthu ledled Cymru.

Cyfraddau talu uwch ar gyfer ffermwyr sy’n creu coetir
Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar holl ffermwyr Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy blannu coed wrth i gyfraddau talu uwch ar gyfer creu coetir gael eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Mai 25).

Llywodraeth Cymru am weld 'rhagor o fynediad i gefn gwlad i bawb' wrth i aelodau newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dyngu llw
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi pedwar aelod arbenigol newydd yn aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys pobl o gefndiroedd du, anabl a LHDTCi+. Y nod wrth wneud hynny yw sicrhau bod pob llais yn cael ei gynrychioli yng nghynlluniau’r Awdurdod a bod camau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur yn cael eu cymryd 'ar y cyd'