English icon English

Cwrdd â'r sefydliad sy'n troi bwyd dros ben yn gymorth i'r rhai mewn angen

Meet the organisation turning surplus food into support for those in need

Bob blwyddyn mae tua 400,000 tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yng Nghymru a phe bai dim ond un y cant ohono yn cael ei arbed, gallai gael ei ddefnyddio i ddarparu dros naw miliwn o brydau bwyd.

Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, â sefydliad yng Nghaerdydd sy'n anelu at wneud hynny'n union.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi FareShare Cymru gyda dros £3.9m o gyllid ers 2015.

Yn y cyfnod hwnnw, mae FareShare Cymru wedi ailddosbarthu dros 6,600 tunnell o fwyd bwytadwy a oedd dros ben.

Yn ogystal â lleihau nwyon tŷ gwydr, mae hyn wedi golygu bod dros 15 miliwn o brydau bwyd wedi'u dosbarthu i'r rhai mewn angen ledled Cymru drwy 411 o sefydliadau cymunedol ac elusennau.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: “Mae adeiladu Cymru decach a gwyrddach wrth wraidd popeth a wnawn yn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.

“Mae ein partneriaeth gyda FareShare Cymru yn dyst i'n hymroddiad i fynd i'r afael â thlodi bwyd a lleihau gwastraff bwyd.

“Mae Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes ailgylchu, a heddiw, rwy'n falch o amlinellu ein cynlluniau uchelgeisiol i fanteisio i'r eithaf ar y llwyddiant hwn. Rydym yn canolbwyntio ar dyfu'r economi, creu swyddi cynaliadwy, mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac arbed arian i gymunedau ledled Cymru.”

Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd i FareShare Cymru am eu hymdrechion eithriadol: “Rwy'n hynod ddiolchgar i FareShare Cymru am eu gwaith rhyfeddol yn brwydro yn erbyn tlodi bwyd, lleihau gwastraff bwyd a chefnogi aelodau agored i niwed yn ein cymunedau.

“Roedd clywed profiadau'r gwirfoddolwyr a gweld drosof fy hun sut mae FareShare Cymru yn grymuso unigolion i feithrin sgiliau a chymwysterau ar gyfer cyflogaeth yn yr economi werdd yn wirioneddol ysbrydoledig.

“Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn gyfrifoldeb ar y cyd a thrwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wireddu ein gweledigaeth o Gymru lle mae pawb yn mwynhau bywyd llwyddiannus a llewyrchus.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol FareShare Cymru, Sarah Germain: “Yn FareShare Cymru rydym wedi ymrwymo i droi problem amgylcheddol yn ddatrysiad cymdeithasol. Drwy weithio gyda chyflenwyr yn y diwydiant bwyd, gallwn ailddosbarthu bwyd bwytadwy sydd dros ben i elusennau a grwpiau cymunedol sy'n ei droi'n brydau bwyd i gefnogi eu cymuned leol. Mae hyn yn lleihau gwastraff bwyd, yn arbed arian i elusennau ac yn helpu i fwydo miloedd o bobl bob dydd.

“Ar adeg pan fo un o bob pum oedolyn yn wynebu diffyg diogeledd bwyd, mae'r gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda chyflenwyr bwyd a gwaith aelodau ein helusen yn hanfodol.

“Ochr yn ochr â hyn, rydym yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant ac yn rhedeg ein rhaglen gyflogadwyedd, FareBoost. Ni allem wneud yr hyn a wnawn heb gefnogaeth ein gwirfoddolwyr, staff, cyflenwyr bwyd a chyllidwyr anhygoel ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cymorth dros y 10 mlynedd diwethaf.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Huggard, Adam Rees: “Mae Huggard yn darparu cymorth a llety brys i'r rhai sy'n cysgu allan ac yn ddigartref. Mae darparu mynediad at fwyd da yn rhan hanfodol o hyn.

“FareShare Cymru yw ein partner allweddol wrth wneud hynny’n bosibl. Rydyn ni’n coginio 85 o brydau bwyd y dydd ar gyfartaledd bob dydd o'r flwyddyn.  Prydau bwyd poeth, maethlon ac amrywiol sy'n cael eu paratoi gan gleientiaid ar ein rhaglen hyfforddiant arlwyo ar gyfer eu cyd-gleientiaid. 

“Mae brecwast am ddim a dim ond £2 yw cinio. Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu'r bwyd sydd ei angen ar bobl sy'n byw ar strydoedd Caerdydd i ddechrau'r adferiad o ddigartrefedd mewn amgylchedd diogel a chynnes.”

DIWEDD