English icon English

Llywodraeth Cymru am weld 'rhagor o fynediad i gefn gwlad i bawb' wrth i aelodau newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dyngu llw

Welsh Government seeks ‘greater access to the countryside for all’ as new members to Brecon Beacons National Park Authority are sworn in

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi pedwar aelod arbenigol newydd yn aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys pobl o gefndiroedd du, anabl a LHDTCi+. Y nod wrth wneud hynny yw sicrhau bod pob llais yn cael ei gynrychioli yng nghynlluniau’r Awdurdod a bod camau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur yn cael eu cymryd 'ar y cyd'

Gyda chopa mynydd uchaf De Cymru, Pen-y-Fan, yn gefnlen iddi, cyfarfu’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, â'r aelodau newydd er mwyn amlinellu’i disgwyliadau a chlywed am weledigaeth yr Awdurdod. Mae wedi nodi pum cenhadaeth sy’n ganolog i waith y Parc: hinsawdd, natur, dŵr, pobl a lleoedd.

Ar ôl dychwelyd yn ddiweddar o drafodaethau byd-eang COP15 ar fioamrywiaeth, a gynhaliwyd gan y Cenhedloedd Unedig ym Montreal, Canada, apeliodd y Gweinidog unwaith eto ar y parciau cenedlaethol i helpu i gyrraedd targed 30 erbyn 30, sydd am ddiogelu 30% o’n tir a’n moroedd erbyn 2030. Mae 20% o dir Cymru yn barciau cenedlaethol ond bernir ar hyn o bryd mai dim ond 10% o'r wlad sy'n cael ei rheoli’n effeithiol er budd natur.

Ar ôl i’r mater gael sylw yn y gymuned LHDTCi+, ym maes cydraddoldeb rhywiol ac yn y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, hoeliwyd sylw ar y diffyg amrywiaeth yn y sector cadwraeth, a chwestiynwyd hefyd a yw cefn gwlad o fewn cyrraedd i'r bobl hynny nad ydynt yn byw yn yr ardaloedd hynny.

Dr. Yvonne Howard-Bunt, un o'r pedwar aelod a benodwyd o’r newydd, yw'r fenyw ddu gyntaf i wasanaethu ar Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru. Creodd ei CV gryn argraff gan fod ganddi brofiad ym maes cynhwysiant, datrys gwrthdaro, y celfyddydau a natur, a dyna a sicrhaodd y swydd iddi. Dywedodd Howard-Bunt:

"Er y dylai pob un ohonon ni ofalu am ein parciau cenedlaethol a chael cyfle i’w mwynhau yn gyfnewid am hynny, mae yna lawer o bobl sy’ ddim yn gweld bod ymweld â nhw yn opsiwn iddyn nhw. Drwy roi sylw i’r parciau, drwy groesawu pobl iddyn nhw a thrwy addysgu, gallwn ni symud ’mlaen a deall ein gilydd a sicrhau bod cefn gwlad ar gael i bawb."

Aeth ymlaen i ddweud: "Wrth ddod i oed yn Swydd Efrog, roeddwn i’n teimlo fel rhywun oedd ar y cyrion oherwydd lliw fy nghroen a’m gwallt Affro. Roedd fy nghyd-ddisgyblion am gyffwrdd â fy ngwallt drwy'r amser a bydden nhw’n dweud wrthyf fy mod i wedi cael fy mabwysiadu oherwydd bod fy mam yn wyn.

 "Cafodd fy mam hefyd ei chau allan mewn ffyrdd ofnadwy. Roedd pobl yn cau drysau’n glep yn ei hwyneb ac yn poeri ati. Pan fydden ni allan yn gyhoeddus, byddwn i'n tynnu’i sylw drwy wneud synau peswch yn lle galw am 'mam'. Byddwn i'n ceisio’i hamddiffyn drwy wadu mod i’n perthyn iddi.

"Er mwyn dianc, byddwn i'n mynd allan i edrych ar y pryfaid a'r creaduriaid bach ac i ysgrifennu barddoniaeth. Roeddwn i'n gallu gweld pob peth byw yn brwydro am ei einioes ac yn ymladd i gael ei wynt, ac roeddwn i'n gallu gweld sut roedd hynny'n berthnasol i bobl hefyd. Dim ond trïo dod i ben mae pawb. Mae byd natur yn ddi-drefn ac yn hardd, ond mae’n gwbl gysylltiedig – mae'n ysgwyd llaw ar draws y byd.

"Mae dianc i'n parciau cenedlaethol yn rhoi'r ateb tymor byr sydd ei angen arnon ni er mwyn cael heddwch mewnol, ond bydd gofalu amdanyn nhw gyda'n gilydd a gwella’u cyflwr yn gwella’n hiechyd a’n lles ni hefyd ac yn ein llonni. Mewn cyfnod lle mae llawer o argyfyngau'n ein hwynebu ni i gyd, oes unrhyw beth gwell inni anelu ato?"

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

"Mae gan bawb o bob credo, lliw, rhyw a gallu yr hawl i gael mynd i’n mannau hardd a helpu i’w rheoli, ac rydyn ni mor lwcus o’r holl gyfoeth ohonyn nhw sydd gennym yma yng Nghymru. Hoffwn i longyfarch yr holl aelodau newydd, pob un ohonyn nhw â phrofiadau bywyd gwerthfawr a gwahanol, wrth iddyn nhw ysgwyddo’u swyddi newydd, sy’n rhai cyffrous ond heriol.

"Mae gan Barciau Cenedlaethol ran fawr i'w chwarae wrth helpu i gyrraedd ein targed 30 erbyn 30, lle rydyn ni am weld 30% o'n tir a'n moroedd yng Nghymru yn cael eu hystyried yn 'bositif o ran natur' erbyn 2030. Mae’n byd naturiol yn dirywio’n gyflym, sy’n golygu ein bod bellach ar drywydd lle bydd miliwn o rywogaethau wedi diflannu cyn 2050, ac mae hynny’n bygwth ein hiechyd a’r bywyd rydyn ni’n gyfarwydd ag ef ar y ddaear ar hyn o bryd'.

"Er mwyn gwireddu’n huchelgais, mae angen inni fynd ati mewn ffordd radical sy’n canolbwyntio ar bobl i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth, gan wneud yn siŵr bod pob llais yn cael ei gynrychioli a’n bod yn cymryd pob cam radical posibl gyda’n gilydd. Mae Bannau Brycheiniog yn arwain ymdrech Un Tîm Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur cysylltiedig, a dw i’n edrych ’mlaen at weld y trawsnewidiad dw i’n gwybod y gall y Parc ei sicrhau."

Dywedodd yr Athro John Hunt, gwyddonydd newid hinsawdd, daearegwr ac unigolyn anabl sydd wedi goroesi strôc:

"Mae potensial mawr i wella hygyrchedd a chynwysoldeb ymhlith ymwelwyr â Bannau Brycheiniog, ac mae'n anrhydedd imi gael rhannu fy mhrofiad bywyd fel aelod o’r gymuned LHDTCi+ sy’n anabl ar ôl goroesi strôc er mwyn helpu i arwain y gwaith hwnnw. A minnau’n wyddonydd newid hinsawdd ac yn ddaearegwr, dw i'n edrych ’mlaen at weld sut gallwn ni addysgu’n hymwelwyr a chael cymorth defnyddwyr y parc – barcutwyr, pysgotwyr, ogofwyr, heicwyr, pobl ar dripiau undydd – yn ein hymdrechion gwyddonol. Gall pob cymuned ein helpu i ddeall tirwedd y parc, sy'n newid yn gyson. Gyda'n gilydd, gallwn ni sicrhau bod y Parc yn gwneud ei orau glas wrth inni fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur."

Dywedodd Craig Stephenson, a gafodd OBE yn ddiweddar am ei waith ym maes amrywiaeth, a enillodd deitl y sefydliad mwyaf cynhwysol yn y DU o ran LHDTCi+ i’r Senedd yn 2018:

"Mae cael fy mhenodi'n aelod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ddechrau gwych i 2023. ’Dyw  gwaith un o sefydliadau cenedlaethol Cymru erioed wedi bod mor bwysig. Dw i’n gobeithio defnyddio’r profiad eang sydd gennyf ym maes ymgysylltu â'r cyhoedd, llywodraethu a chynhwysiant ar lefel byrddau mewn sefydliadau cyhoeddus ac yn y  trydydd sector yng ngwaith yr Awdurdod wrth inni wynebu'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau."

Dywedodd Dr Liz Bickerton, academydd y maes datblygu gwledig a fagwyd ar fferm yn Ne Cymru:

"Mae Bannau Brycheiniog yn lle arbennig dw i wedi bod yn gyfarwydd ag ef ac yn ei garu gydol fy oes. Dw i'n croesawu'r cyfle hwn i roi rhywbeth yn ôl drwy helpu i greu sefydliad hyderus, uchelgeisiol a blaengar sy'n cefnogi’i gymunedau ac sydd, ar yr un pryd, yn gwarchod ei nodweddion arbennig ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol."

Cymru oedd y rhan gyntaf o'r DU i ddatgan argyfwng natur yn 2021 ac argyfwng hinsawdd yn 2019, Ers hynny, mae’r argyfyngau hynny wedi cael lle blaenllaw a chanolog yn yr holl benderfyniadau ar draws portffolios y llywodraeth, boed yn iechyd, trafnidiaeth neu’n addysg.