English icon English

Mis i fynd cyn cyflwyno gwaharddiad plastig untro yng Nghymru

One month to go before single use plastics ban is introduced in Wales

Mae mis i fynd cyn y bydd nifer o eitemau plastig untro yn cael eu gwahardd rhag eu gwerthu ledled Cymru.

Ym mis Rhagfyr 2022, bu Cymru yn arloesol drwy fod y wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu yn erbyn rhestr fanwl o blastigau untro pan gymeradwyodd y Senedd ddeddfwriaeth i wahardd gwerthu cynhyrchion untro diangen i ddefnyddwyr.

Daw hyn i rym ddydd Llun, 30 Hydref pan fydd yr eitemau canlynol yn cael eu gwahardd rhag eu gwerthu ledled y wlad:

  • Platiau plastig untro
  • Cwpanau plastig untro
  • Troellwyr diodydd plastig untro  
  • Cwpanau wedi'u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
  • Cynwysyddion bwyd tecawê wedi'u gwneud o polystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
  • Ffyn balŵn plastig untro
  • Ffyn cotwm coesyn plastig untro
  • Gwellt yfed plastig untro *

Mae'r gyfraith newydd yn gam allweddol o ran lleihau llif gwastraff plastig niweidiol i amgylchedd Cymru ac mae'n cael ei chyflwyno yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill.

Bydd yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol orfodi'r drosedd o gyflenwi neu gynnig cyflenwi'r eitemau hyn sy'n aml yn creu sbwriel - hyd yn oed pan fyddant yn rhad ac am ddim.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn cael ei hystyried y trydydd wlad orau yn y byd am ailgylchu domestig ac mae'r gyfraith newydd yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd camau uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, "Mae hon yn foment falch i Gymru wrth i ni gymryd cam arall ymlaen i ddileu plastig o'n traethau, ein strydoedd a'n safleoedd tirlenwi.

"Os ydym i gyd yn cymryd agwedd 'Tîm Cymru' ac yn ceisio ailddefnyddio, ailgylchu ac atgyweirio mwy, bydd yn helpu i greu dyfodol gwyrddach i genedlaethau i ddod.

"Mae plastigau untro yn cael eu taflu heb feddwl, gan achosi niwed i fywyd gwyllt a'n hamgylchedd.

"Mae'r gwaharddiadau hyn yn adeiladu ar weithredoedd cymunedau ledled Cymru sy'n lleihau eu dibyniaeth ar blastig untro diangen.

"Rydym yn gofyn i fusnesau a sefydliadau baratoi eu hunain ar gyfer y newid drwy leihau eu lefelau stoc, ailgylchu stoc presennol ac ystyried newid i ddewisiadau amgen y gellir eu hailddefnyddio - a lle nad yw hyn yn bosibl, edrych ar ddewisiadau amgen nad ydynt yn rhai plastig."

Bydd ail gam y gwaharddiad yn cynnwys bagiau plastig untro, caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynwysyddion bwyd a chynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy. Bydd hyn yn dod i rym cyn diwedd tymor y Senedd.

Mae Prifysgol De Cymru wedi mynd ati’n flaengar i leihau'r defnydd o blastigau untro ers 2018.

Dywedodd y Pennaeth Lletygarwch, Jason Edwards: "Cymerwyd camau bach yn y dechrau, a arweiniodd wedyn at gamau mwy wrth i ni dyfu'n fwy hyderus gyda'r atebion roedden ni'n eu datblygu i gyflawni ein nodau.

"Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi cyflwyno ystod o gynhyrchion fforddiadwy y gellir eu hailddefnyddio fel blychau salad a blychau prydau poeth y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer cludfwyd, cynwysyddion cawl, cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio, wedi cyflwyno gwydrau ger ffynhonnau dŵr ac ychwanegu opsiynau o ran llestri ar gyfer y cwsmeriaid hynny sy'n anghofio eu cwpanau y gellir eu hailddefnyddio.

"Lle nad oeddem yn gallu cynnig cynnyrch y gellir ei ailddefnyddio i'n cwsmeriaid, gwnaethom edrych ar sut y gallem wella ein cynnyrch defnydd sengl i fod yn fwy moesegol.

"Roedd yr atebion yn cynnwys defnyddio bocsys colynnog ar gyfer cludfwyd yn lle bocsys polystyren, defnyddio cyllyll pren yn lle rhai plastig, defnyddio gwellt papur yn lle gwellt plastig a chynnig sawsiau mewn potiau papur yn hytrach na sachets.

"Ni chawsom unrhyw adborth negyddol wrth lansio'r ardoll, ond fe wnaethon ni sicrhau ein bod ni'n cynnig dewisiadau amgen addas y gellir eu hailddefnyddio i helpu cwsmeriaid osgoi'r tâl yma yn y lle cyntaf. " Rydym wedi dysgu bod pobl ifanc yn gefnogol ac yn parhau i fod yn gefnogol i newid."

Diwedd