Dirprwy Weinidog yn cadarnhau y bydd rhan fwyaf y gwasanaethau bws yn cael eu diogelu diolch i gronfa gwerth £46m
Deputy Minister confirms majority of bus services will be protected thanks to £46m fund
Diolch i gynllun trosglwyddo newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Gwener, 16 Mehefin) bydd rhan fwyaf y gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn cael eu diogelu.
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, fanylion y Gronfa Drosglwyddo ar gyfer Bysiau y bore yma mewn datganiad ar y cyd gyda CLlLC a chwmnïau bysiau.
Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth y byddai'r gronfa'n disodli'r Cynllun Argyfwng ar gyfer y Sector Bysiau sy'n dod i ben ddiwedd mis Gorffennaf.
Meddai’r Dirprwy Weinidog: "Heddiw rwyf wedi cyhoeddi datganiad gyda phartneriaid y diwydiant ac awdurdodau lleol yn nodi rhagor o wybodaeth am ein cefnogaeth ariannol i'r diwydiant bysiau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
O ganlyniad uniongyrchol i’r cyllid hwn gallwn osgoi canslo nifer fawr o wasanaethau ledled Cymru.
"Bydd yn rhoi cymorth ariannol ar unwaith i gwmnïau bysiau yng Nghymru fel y gall y gwasanaethau hanfodol hynny barhau.
"Rydym yn sicrhau bod £46m ar gael o gyllidebau bysiau i gefnogi trefniadau y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau a’r Gronfa Drosglwyddo ar gyfer Bysiau ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan. Bydd y cyllid hwn hefyd yn cynnal gwasanaethau strategol TrawsCymru.
"Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio'n galed gyda Timau Cynllunio y Rhwydwaith Rhanbarthol, a chwmnïau, i gynllunio a chostio rhwydwaith o wasanaethau bysiau y gellir eu darparu pan ddaw'r cyllid brys i ben.
"Bydd y cyllid fydd ar gael yn sicrhau y bydd rhan fwyaf y gwasanaethau presennol yn cael eu diogelu ledled Cymru er y gallai rhai gwasanaethau newid i adlewyrchu patrymau teithio gwahanol yn dilyn y pandemig.
Mae Timau Cynllunio y Rhwydwaith Rhanbarthol yn parhau â'u dadansoddiad manwl o'r rhwydwaith bysiau fydd yn cael ei ddarparu drwy ein Cronfa Drawsnewid ar gyfer Bysiau
"Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud ar fyrder fel bod unrhyw newidiadau posibl i'r rhwydwaith yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi gyda cymaint o rybudd â phosibl.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i ddatblygu model ariannu cynaliadwy tymor hwy sy'n pontio'r bwlch i fasnachfreinio."
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC: "Mae gwaith caled iawn wedi ei wneud ar y cyd gan gynghorau a chwmnïau, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i ddiogelu cymaint o wasanaethau bysiau â phosibl tra bod nifer y teithwyr yn cynyddu.
"Mae'r sefyllfa ariannol wedi bod yn arbennig o heriol oherwydd y cynnydd enfawr mewn costau a’r gostyngiad yn nifer y teithwyr.
"Mae CLlLC yn croesawu cyllid Llywodraeth Cymru ond mae'n cydnabod na allwn amddiffyn pob llwybr
"Bydd y Gronfa Trosglwyddo ar gyfer Bysiau yn ein galluogi i symud i ffwrdd yn raddol o gyllid brys yn ôl at gymysgedd o wasanaethau masnachol ac â chymorth.
"Hoffwn ddiolch i bawb fu'n gweithio i ddod o hyd i ffordd ymlaen a bydd yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog pobl i ddefnyddio'r bysiau fel ein bod yn cadw cymaint o wasanaethau â phosibl."
Meddai Aaron Hill, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr: "Mae'r Gronfa Trosglwyddo ar gyfer Bysiau yn newyddion da i deithwyr bysiau ledled Cymru, gan roi mwy o sicrwydd iddynt ynghylch teithio i'r gwaith, i'r ysgol ac i weld ffrindiau a theulu.
"Mae cwmnïau wedi gweithio'n galed gyda chydweithwyr o fewn yr awdurdodau lleol dros y misoedd diwethaf i nodi'r llwybrau oedd angen cymorth, addasu'r rhwydwaith i batrymau teithio newydd, a diogelu'r gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru.
"Byddwn bellach yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol i ddatblygu gwasanaethau ac annog pobl i fynd yn ôl ar y bysiau"
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cymdeithas Bysiau Cymru, Scott Pearson: "Mae aelodau Cymdeithas Bysiau Cymru yn croesawu'r dull partneriaeth o weithio gyda'r Llywodraeth, a fabwysiadwyd i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn parhau i dderbyn y gwasanaethau bysiau y maent yn dibynnu arnynt yn ddyddiol."