English icon English

Bydd 'hwb' gwerth £15m yn cynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru

£15m ‘boost’ will increase the number of Welsh electric vehicle charging points

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £15m i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru.

Bydd y cyllid, a gadarnhawyd heddiw gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn cael ei ddefnyddio i helpu awdurdodau lleol i gynyddu nifer y cyfleusterau gwefru cyn i gerbydau tanwydd ffosil gael eu diddymu'n raddol yn 2030.

Mae'r cyllid newydd yn dilyn y £26m sydd eisoes wedi'i fuddsoddi mewn seilwaith gwefru ledled Cymru ers 2021 sydd wedi creu mwy na 1,600 o bwyntiau gwefru - digon ar gyfer un o bob chwe cherbyd trydan batri.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, Lee Waters:

"Mae angen i yrwyr fod â'r hyder i newid i gerbydau trydan wrth i'r galw gynyddu a dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i greu seilwaith cerbydau trydan o ansawdd uchel ledled Cymru.

"Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith hwn yn cael ei gyflawni gan y sector preifat ond ein rôl ni yw hwyluso buddsoddiadau'r sector preifat ledled Cymru a sicrhau mynediad cyfartal.

"Er mwyn helpu gyda hyn, rydym wedi creu tasglu'r sector preifat a fydd yn ymgysylltu â'r farchnad, yn chwalu unrhyw rwystrau rhag buddsoddi ac yn cyflymu'r broses o gyflwyno seilwaith gwefru.

"Mae'r cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn gam arall i'r cyfeiriad cywir ond mae gennym ragor o waith i’w wneud - byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a'r sector preifat fel bod Cymru'n cadw i fyny â'r cynnydd cyflym yn nifer y cerbydau trydan." 

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn ategu'r gronfa Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) sydd eisoes wedi cychwyn llawer o brosiectau Cerbydau Trydan wrth i Lywodraeth Cymru anelu at gyrraedd ei tharged o ddarparu pwyntiau gwefru ar gyfer pob 20 milltir o'r rhwydwaith cefnffyrdd strategol ledled Cymru erbyn 2025.

Mae Cyngor Wrecsam wedi derbyn £1 miliwn i gyflwyno cyfleusterau gwefru cerbydau trydan mewn canolfan wefru yng nghanol y ddinas yn ogystal â safleoedd mewn lleoliadau anghysbell, mwy gwledig ledled y sir. 

Mae Cyngor Caerdydd wedi derbyn £900,000 am y ddwy flynedd nesaf i gyflwyno pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y rhanbarth a darparu seilwaith gwefru cyflym yn depo Ffordd Lamby ar gyfer deuddeg Cerbyd Casglu Sbwriel trydan, fel rhan o fflyd Cyngor Caerdydd o 78 o Gerbydau Casglu Sbwriel.

Mae'r newid hwn yn cefnogi targed y cynghorau o gael fflyd di-allyriadau erbyn 2030, yn unol â Chynllun Cyflawni Carbon Isel Llywodraeth Cymru.

Meddai y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Hinsawdd Cyngor Wrecsam: "Rydym yn falch o dderbyn yr arian hwn a fydd yn ein galluogi i barhau â'n gwaith i helpu pobl i newid i Gerbydau Trydan drwy greu hyb symudedd yng nghanol y ddinas a hefyd gefnogi rhai o'n cymunedau llai a mwy gwledig gyda chyfleusterau i wefru cerbydau trydan lle nad oes modd iddynt barcio oddi ar y ffordd.

"Fel rhan o'r prosiect hwn rydym hefyd yn bwriadu ychwanegu darpariaeth gynyddol i gefnogi teithio llesol a natur.

"Rydym yn awyddus i ddechrau ar y cam pwysig hwn ar y ffordd i leihau trafnidiaeth garbon i Wrecsam."