Canolfan a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn ‘trawsnewid bywydau’
The Welsh Government-supported drop in centre ‘transforming lives’
Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi siarad am ei phrofiad o gyfarfod â phobl sydd ar ‘siwrneiau gobaith’ mewn canolfan galw heibio newydd yng Nghastell-nedd.
Roedd y Gweinidog yn siarad yn dilyn ei hymweliad â Chanolfan Mynegiadau Newydd ac Adferiad Craidd Byddin yr Iachawdwriaeth yng nghanol tref Castell-nedd.
Ar ôl tair blynedd o waith cynllunio, agorodd y ganolfan yn swyddogol ym mis Tachwedd 2021 ac mae bellach yn darparu gwasanaethau galw heibio i bobl mewn angen.
Caiff y gwasanaethau hyn eu darparu drwy gymorth sawl asiantaeth sy’n cynnwys cyngor ar faterion tai, gwasanaethau cwnsela, cymorth budd-daliadau a gofal meddygol.
Mae’r ganolfan hefyd yn rhoi cyfleoedd i gleientiaid gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o gymorth iddynt fagu hyder a datblygu eu gallu i fyw yn annibynnol.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: “Mae wedi bod yn braf iawn cael ymweld â’r Hafan heddiw i weld yr holl wasanaethau y gellir eu darparu i bobl yma yng Nghastell-nedd.
“Roedd yn wych cael cyfarfod â chymaint o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth a chlywed am eu siwrneiau.
“Maen nhw wedi datblygu o fod yn bobl ddigartref i bobl sydd bellach â llety ac sy’n gallu cael gafael ar yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnynt i gadw pethau felly.
“Mae’r Hafan yn darparu’r holl wasanaethau y gallwch chi feddwl amdanynt i helpu pobl gyda’r siwrneiau hynny ac rydyn ni’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru, gan gydweithio ag awdurdodau lleol, yn gallu cefnogi prosiectau fel hyn ledled Cymru.”
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Hafan drwy ei Grant Cymorth Tai sy’n cael ei ddyrannu i’r awdurdod lleol. Mae’r grant hwn yn ariannu swydd llawn amser yn yr Hafan.
Mae deiliad y swydd yn gweithio gydag Agored i ddatblygu a darparu cyrsiau hyfforddiant gan gynnwys coginio, cyllidebu a rheoli straen.
Mae’r cyrsiau yn cefnogi pobl i fagu mwy o hyder ac annibyniaeth.
Rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Rhagfyr 2022, cynhaliodd yr Hafan 42 o gyrsiau achrededig Agored Cymru a mwy na 50 o gyrsiau Dysgu Uniongyrchol gan ddyrannu tystysgrifau i’r rhai a gymerodd ran.
Dywedodd Dysgwr yn yr Hafan, Shaun Hughes, dywedodd: "Mae gan Yr Hafan amgylchedd diogel a chroesawgar. Mae’r cyrsiau wedi fy helpu i feithrin gwell dealltwriaeth am fi fy hun. Dw i wedi datblygu llawer o hyder mewn sawl agwedd ar fy mywyd megis sgiliau coginio, rheoli straen yn ogystal â gwybod ei bod yn iawn i ofyn am help."
Dywedodd Dysgwr yn yr Hafan, Courtney Williams, "Mae’r Hafan wedi fy helpu’n fawr i ddelio â’r straen rwy’n ei deimlo a nifer o bethau eraill. Mae’r cyrsiau mor ddefnyddiol o ran ymdopi â bywyd bob dydd. Mae’r staff mor groesawgar ac yn wirioneddol yn bobl anhygoel sy’n creu amgylchedd ymlaciol, cynnes a braf yno. Mae’r cyrsiau yn parhau i fy helpu’n fawr a dw i’n edrych ymlaen at fynd i’r Hafan bob wythnos."
Dywedodd Neil Duquemin, Uwch-gapten Byddin yr Iachawdwriaeth:
“Ers sefydlu’r ganolfan ym misoedd gwaethaf COVID yn 2020 – pan yr oedd mor anodd ar lawer i gael gafael ar y cymorth roeddent ei angen – hyd at y gwasanaeth galw heibio ffyniannus sydd ohoni heddiw, mae wedi bod yn bleser gallu dangos i’r Gweinidog sut y mae Byddin yr Iachawdwriaeth a’n partneriaid yn trawsnewid bywydau nifer o’r rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed yng Nghastell-nedd.
“Mae gan Byddin yr Iachawdwriaeth hanes cyfoethog o gynnig cymorth ledled Cymru, gan gynnig cefnogaeth a chymorth i’r rhai hynny sydd fwyaf mewn angen. Mae’r cyllid ychwanegol rydyn ni’n ei gael ar gyfer prosiectau fel Yr Hafan yn ein galluogi i gael gafael ar y staff a’r strwythur arbenigol a hynny er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau i’n cleientiaid ac i’r gymuned gyfan. Yn llythrennol, mae’r lle hwn yn helpu i achub bywydau.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Llewelyn, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Aelod Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol:
"Mae canolfan yr Hafan yn darparu gwasanaeth hanfodol i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.
"Gyda chymorth gwasanaethau aml-asiantaeth a gweithwyr proffesiynol ymroddedig, mae'r rhai mewn angen yn gallu cael amrywiaeth o wasanaethau cymorth mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.
"Mae'r cyngor yn falch o gefnogi'r fenter yma a gweld yr effaith gadarnhaol mae'n ei gael ar fywydau'r rhai sy'n defnyddio’r gwasanaethau."
ENDS