English icon English

Cam pwysig tuag at Sero Net a ‘phrosiectau seilwaith arwyddocaol y mae Cymru yn eu haeddu’

Important step towards Net Zero and ‘significant infrastructure projects Wales deserves’

Mae moderneiddio a symleiddio’r prosesau ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith yng Nghymru wrth wraidd bil newydd sy’n cael ei osod gerbron y Senedd heddiw (dydd Llun, 12 Mehefin).

Disgrifiodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, fod y Bil Seilwaith (Cymru) newydd yn 'gam pwysig' tuag at gyflawni targedau ynni adnewyddadwy wrth i Gymru symud tuag at gyflawni ein targed sero net erbyn 2050.

Dywedodd y Gweinidog: "Mae'r Bil hwn yn cyflwyno trefn fodern a symlach ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru, a hynny ar y tir ac yn y môr.

"Mae cael trefn gydsynio effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i gyflawni prosiectau seilwaith pwysig yn amserol yng Nghymru sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, a'n huchelgeisiau sero net.

“Yn ogystal â helpu i wella pa mor gystadleuol yw Cymru a sicrhau ein bod yn wlad ddeniadol i fuddsoddi ac i weithio ynddi, bydd yn cynnig cyfle i’n cymunedau lleol i ymwneud â phroses gydsynio agored a thryloyw a fydd yn helpu i lywio datblygiadau sy’n effeithio arnyn nhw.”

Mae’r cynigion yn y Bil yn cefnogi sawl ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ‘adeiladu economi gryfach a gwyrddach’ ac ‘ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn’.

Aeth y Gweinidog yn ei blaen: "Mae'r angen am y Bil hwn wedi deillio o Ddeddf Cymru 2017, a ddatganolodd bwerau pellach i Gymru ar gyfer cydsynio prosiectau cynhyrchu ynni, llinellau trydan uwchben, porthladdoedd a harbyrau a gwaith seilwaith arall.

"O ganlyniad i'r ffordd y cafodd y pwerau hyn eu datganoli, mae Llywodraeth y DU wedi ein gorfodi i ddefnyddio prosesau cydsynio sydd wedi dyddio nad ydynt yn addas i'r diben.

Mae hyn wedi ein rhoi dan anfantais o gymharu â gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig.

"Mae cael cyfundrefn gydsynio effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i gyflawni prosiectau seilwaith pwysig yn amserol yng Nghymru sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, a'n huchelgeisiau sero net.

"I fynd i'r afael â'r materion hyn, mae'r Bil yn cyflwyno proses gydsynio unedig newydd, a fydd yn berthnasol ar y tir ac yn y môr.

"Bydd yn cynnwys prosiectau o arwyddocâd cenedlaethol y mae gan Weinidogion Cymru gyfrifoldeb am gydsynio iddynt ar hyn o bryd, megis gorsafoedd cynhyrchu ynni ar y tir ac ar y môr, llinellau trydan uwchben sy'n gysylltiedig â gorsafoedd cynhyrchu datganoledig, yn ogystal â gwaith i briffyrdd a rheilffyrdd.

"Drwy ddisodli prosesau cydsynio lluosog gydag un broses, byddwn yn helpu i ddenu'r buddsoddiad hanfodol sydd ei angen arnom, yn enwedig yn y sector ynni adnewyddadwy."

Datblygwyd y Bil gyda sawl nod allweddol mewn cof.

  • Bydd yn sicrhau proses symlach ac unedig a fydd yn helpu datblygwyr i gael mynediad i 'siop un stop' ar gyfer caniatadau, cydsyniadau, trwyddedau a gofynion eraill sy’n cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd o dan gyfundrefnau cydsynio gwahanol.
  • Bydd hefyd yn cynnig proses dryloyw, drylwyr a chyson, a fydd yn caniatáu i gymunedau lleol gymryd rhan yn effeithiol mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, a’u deall yn well.
  • Bydd yn sicrhau bod prosesau cydsynio newydd yn gallu ymateb i heriau'r dyfodol mewn modd amserol drwy fod yn ddigon hyblyg i gynnwys technolegau newydd a rhai sy’n datblygu, yn ogystal ag unrhyw bwerau cydsynio pellach a allai gael eu datganoli i Gymru.

Ychwanegodd y Gweinidog: "Mae cyflawni nodau uchelgeisiol o'r fath yn gofyn am fewnbwn a chydweithio ag ystod eang o randdeiliaid, partïon sydd â buddiant a chymunedau lleol.

Dyna pam mae'r egwyddorion y mae'r Bil yn ceisio deddfu ar eu cyfer wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn a'u datblygu drwy drafod a chyfathrebu’n barhaus â rhanddeiliaid allweddol.

"Mae hyn wedi ein galluogi i fesur yr awydd am broses gydsynio newydd yng Nghymru a rhoi cyfle i randdeiliaid, gan gynnwys y cyhoedd yn ehangach, i helpu i lunio'r broses er budd pawb sy'n gysylltiedig.

"Rwy'n credu y bydd y Bil hwn yn cyflwyno proses gydsynio ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol y mae Cymru'n eu haeddu."