English icon English

£11m ar gyfer prosiectau cadwraeth i helpu bywyd gwyllt Cymru sydd mewn perygl

£11m for conservation projects to help Wales’ endangered wildlife

Heddiw, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi cronfa gwerth £11m i helpu i atal dirywiad bywyd gwyllt Cymru, wrth iddi gwrdd â gwyddonwyr sy'n gweithio i achub yr eog gwyllt. Yn ôl arbenigwyr gallai'r pysgodyn hynafol ddiflannu o afonydd Cymru erbyn 2030.

Enwodd y Gweinidog naw prosiect mawr a 17 prosiect canolig newydd fydd yn elwa ar y rownd ddiweddaraf o gyllid Rhwydweithiau Natur er mwyn cryfhau gwytnwch moroedd, coedwigoedd a glaswelltiroedd sy'n diflannu yng Nghymru.

Mae'r rhain yn gartref i rai o rywogaethau mwyaf eiconig Cymru, gan gynnwys y gylfinir, y dyfrgi a'r dolffin trwyn potel.

Dros ganrifoedd, mae rhwystrau ffisegol fel ffyrdd, gwaith datblygu a thir fferm wedi gadael bywyd gwyllt a phlanhigion yn sownd ar ‘ynysoedd’ di-gysylltiedig, gan rwystro llwybrau mudo ac felly lleihau’r gronfa enynnau ac iechyd eu poblogaethau.

Mae’r cynefinoedd darniog hyn wedi golygu bod eogiaid a rhywogaethau eraill yn ymladd i oroesi.

Mewn ymateb, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Rhaglen Rhwydweithiau Natur i adeiladu ‘coridorau bywyd gwyllt’ ledled Cymru. Cafodd pobl leol eu denu i helpu gyda’r ymdrechion, a galwyd am ddull gweithredu Tîm Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng natur fyd-eang.

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae prosiect ‘Ailgysylltu Afonydd Eog Cymru’,  wedi elwa ar fwy na £600k o rownd gyntaf y Gronfa Rhwydwaith Natur, a ddyfarnodd £7m i 29 o brosiectau.

Ei nod yw cael gwared ar rwystrau ffisegol sydd wedi rhwystro llwybrau mudo ar gyfer eogiaid gwyllt a rhywogaethau eraill yn afonydd Cleddau Wen, Cleddau Ddu, Wysg, Tywi, a Theifi.

Dim ond unwaith mewn oes mae eog gwyllt yn dychwelyd i'r afon lle cawsant eu geni i silio.

Er mwyn gwneud hynny, maen nhw'n gwneud taith epig o'r moroedd i nofio yn erbyn y cerrynt wrth iddynt deithio i fyny'r afon.

Ond erbyn hyn, mae'r pysgodyn hynafol hwn sy’n ymddangos yn aml yn llên gwerin Cymru, yn wynebu cwlfertau, argaeau a choredau sy'n eu trapio mewn ardaloedd is o'r afon.

Wrth ymweld ag Afon Wysg - sydd wedi gweld y gostyngiad mwyaf sylweddol o ran eogiaid a lle mae'r prosiect yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ailgynllunio rhwystrau sy'n helpu pysgod i symud yn rhydd i fyny ac i lawr yr afon, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Rydym i gyd am weld Cymru yr ydym yn falch o'i throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Ar hyn o bryd, maen nhw'n wynebu byd go wahanol os nad ydyn ni'n camu i’r adwy ac yn gweithredu'n gyflym mewn ymdrech Tîm Cymru i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

“Tra bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i warchod eogiaid gwyllt gwerthfawr - bydd afonydd iach, sy'n llifo'n rhydd, o fudd i les corfforol a meddyliol pawb.

“Mae poblogaeth lewyrchus o eogiaid yn dyst i afon lân ac ocsigenedig lle gall rhywogaethau eraill ffynnu ac y gall twristiaeth ffynnu. P'un a ydych chi'n hoffi ymdrochi neu roi eich traed yn y dŵr, yn gwylio adar, yn bysgotwr neu'n mynd ar geufad - mae afon iach yn golygu profiad cefn gwlad sy’n fwy pleserus.”

Dywedodd yr Athro Carlos Garcia de Leaniz, cydlynydd prosiect Ailgysylltu Afonydd Eog Cymru:

 

“Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn ddigon ffodus i fwynhau presenoldeb pysgod mudol eiconig fel yr eog, y sewin, llysywen bendoll y môr, llysywen Ewrop neu'r herlyn am filenia.

“Mae'r rhain yn rhan o ddiwylliant Cymru ac yn rhan annatod o dreftadaeth a chyfalaf naturiol Cymru. Ond mae gan y DU hefyd rai o'r afonydd mwyaf darniog, llygredig, a mwyaf brwnt yn Ewrop, ac mae dyfodol ein pysgod mudol cynhenid bellach dan fygythiad difrifol o ddifodiant. 

“Mae adroddiad diweddar yn nodi os nad oes dim yn cael ei wneud y gall eogiaid ddiflannu o'r rhan fwyaf o afonydd Cymru mewn cyn lleied ag 20 mlynedd neu 30 mlynedd. Ni allwn adael i hynny ddigwydd.

“Bydd ein prosiect [Ailgysylltu Afonydd Eog Cymru] yn adfer 141 km o gynefin  darniog afonydd. Mae afonydd iach yn afonydd sy'n llifo'n rhydd, a'r gobaith yw y bydd y prosiect hwn a mentrau tebyg yn gwneud i'n hafonydd lifo'n rhydd eto ac yn helpu i wrthdroi dirywiad yr eog.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

“Mae'r amrywiaeth drawiadol hon o brosiectau yn dangos uchelgais y Gronfa Rhwydweithiau Natur a maint yr her sy'n ein hwynebu ni i gyd.

“Mae'n flaenoriaeth i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru i warchod yr amgylchedd.

“Dyma pam rydym yn cefnogi mentrau sy'n ein helpu i gyrraedd ein targedau adfer natur cenedlaethol a lliniaru effeithiau newid hinsawdd ar dreftadaeth.

“Drwy bartneriaethau fel hyn, rydym yn buddsoddi mewn gwaith sy'n helpu i atal a gwyrdroi dirywiad a cholli cynefinoedd a rhywogaethau ac yn caniatáu i bobl gysylltu â'n treftadaeth naturiol unigryw.”

Mae’r Rhaglen Rhwydwaith Natur yn allweddol wrth helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni nod 30 erbyn 30 y Cenhedloedd Unedig, sy'n ceisio gwarchod a rheoli 30% o amgylchedd morol y blaned yn effeithiol a 30% o amgylchedd tir y blaned erbyn 2030.

Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn rhaglen a ddarperir mewn partneriaeth gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a CNC i gryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig, sy'n cefnogi adferiad natur gan fynd ati i annog ymgysylltu â'r gymuned.

DIWEDD