Newyddion
Canfuwyd 84 eitem, yn dangos tudalen 1 o 7
Y Senedd yn pasio Bil i ddiwygio'r system trethi lleol yng Nghymru
Heddiw (16 Gorffennaf 2024), mae Bil i ddiwygio'r system trethi lleol yng Nghymru, gan gynnwys ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, wedi'i basio gan y Senedd.
Canllaw i bobl ifanc i'r Gyllideb
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi animeiddiad arloesol ar wariant cyhoeddus, a gydgynhyrchwyd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.
“Dim arian newydd i Gymru.” – y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans
Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn fater o bryder mawr bod y Canghellor wedi anwybyddu galwadau i roi cymorth i’r bobl dlotaf, ac wedi gwrthod rhoi cyllid i’r gwasanaethau rheng flaen sydd bwysicaf i bobl.
Y Gweinidog Cyllid yn annog y Canghellor i flaenoriaethu gwariant ar wasanaethau cyhoeddus a'r rhai mwyaf agored i niwed
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar Jeremy Hunt i gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac i helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd yn yr argyfwng costau byw.
“Mae'r Gyllideb hon wedi'i chynllunio i ddiogelu'r gwasanaethau craidd rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.”– Y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans
Mae Cyllideb Derfynol Cymru ar gyfer 2024 i 2025 wedi'i chyhoeddi heddiw [Dydd Mawrth 27 Chwefror], wrth i chwyddiant uchel barhau i erydu cyllid cyhoeddus ac wrth i ddewisiadau anodd gael eu gwneud i ddiogelu gwasanaethau craidd.
Cyllid ychwanegol i uwchraddio cyfarpar a gwasanaethau digidol GIG Cymru
Bydd y GIG yn elwa ar £10m o gyllid cyfalaf ychwanegol i uwchraddio cyfarpar sganio a seilwaith digidol.
Tata a'r gyllideb yn brif bynciau trafod wrth i Weinidogion gwrdd
Mae Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, wedi cwrdd â Phrif Ysgrifennydd Llywodraeth y DU i'r Trysorlys a'i phryderon am y gyllideb a'r diswyddiadau enbydus sy'n cael eu bygwth yn Tata oedd y prif bynciau trafod. [Dydd Iau 25 Ionawr]
Cynnydd o 3.1% yng nghyllid llywodraeth leol
Y flwyddyn nesaf, bydd cynnydd yn y cyllid y mae cynghorau Cymru yn ei dderbyn.
Cyllideb i Ddiogelu'r Gwasanaethau sydd Bwysicaf i Chi
Mae'r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau rheng flaen sy'n cael eu rhedeg gan gynghorau, gan gynnwys ysgolion a gofal cymdeithasol, wrth wraidd Cyllideb ddrafft 2024-25, meddai'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans heddiw [dydd Mawrth 19 Rhagfyr].
Llinell dros nos - Cyllideb ddrafft Cymru ar gyfer 2024-2025
Bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau rheng flaen y cynghorau, gan gynnwys ysgolion a gofal cymdeithasol, wrth wraidd Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach heddiw [dydd Mawrth 19 Rhagfyr].
Dim rhyddhad i ysgolion ac ysbytai Cymru – Rebecca Evans ar Ddatganiad yr Hydref
“Nid Datganiad yr Hydref gawson ni gan y Canghellor heddiw – rhoddodd inni restr hirfaith o raglenni peilot byrdymor, ambell brosiect dethol a rhagor o gyni,” meddai Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn ei hymateb.
Llywodraeth Cymru yn galw am weithredu ystyrlon yn Natganiad yr Hydref
Heddiw, [dydd Sadwrn 18 Tachwedd] mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi cymorth ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a darparu cyllid teg i Gymru yn Natganiad yr Hydref.