English icon English

Y Gweinidog Cyllid yn annog y Canghellor i flaenoriaethu gwariant ar wasanaethau cyhoeddus a'r rhai mwyaf agored i niwed

Finance Minister urges Chancellor to prioritise spending on public services and the most vulnerable

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar Jeremy Hunt i gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac i helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd yn yr argyfwng costau byw.

Wrth siarad cyn cyhoeddi Cyllideb y DU ddydd Mercher yma, dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:

"Rhaid i'r Canghellor flaenoriaethu gwneud y buddsoddiad hollbwysig sydd ei angen ar y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Mae hyn yn cynnwys mwy o gyllid ar gyfer costau cyflog a phensiynau sector cyhoeddus. Rydym wedi gwneud penderfyniadau anodd yng Nghymru i flaenoriaethu cyllid ar gyfer y gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl. Mewn cyferbyniad, yn seiliedig ar gynlluniau gwario presennol Llywodraeth y DU, ei bwriad yw cwtogi cyllid ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Lloegr mewn termau real y flwyddyn nesaf.

"Mae'r penderfyniad i beidio â chynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn Natganiad yr Hydref wedi golygu bod ysbytai, ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill wedi wynebu pwysau anferth, gan effeithio'n ddifrifol ar gynaliadwyedd y gwasanaethau hynny ar gyfer y dyfodol. Rhaid gwrthdroi hyn.

"Nid yw’r argyfwng costau byw wedi diflannu. Ar ôl degawd o ddiwygiadau lles, nid yw rhwyd ddiogelwch nawdd cymdeithasol bellach yn ddigonol. Dylai Llywodraeth y DU wrando ar alwadau a wnaed ers tro gan Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymddiriedolaeth Trussell a rhoi Gwarant Hanfodion ar waith ar frys. Byddai hyn yn golygu y byddai lwfans safonol Credyd Cynhwysol yn cael ei osod ar lefel sy'n sicrhau bod pobl yn gallu talu eu costau hanfodol."

"Er i’r Canghellor honni bod Cyllideb y llynedd yn ‘Gyllideb ar gyfer twf’, mae’r economi bellach yn llai nag a oedd yr adeg hon y llynedd. Mae angen ymdrechion brys i ddarparu'r amodau i roi hwb i gynhyrchiant a chreu amgylchedd ar gyfer buddsoddi i gefnogi safonau byw a gwasanaethau cyhoeddus.

"Mewn cam unigryw yr wythnos ddiwethaf, daeth pob plaid yn y Senedd ynghyd i gyflwyno cynnig yn galw yn unfrydol ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidebol. Y flwyddyn nesaf (2024-25) bydd ein terfynau benthyca a chronfeydd wrth gefn werth bron i chwarter (23%) yn llai mewn termau real na phan gawsant eu cyflwyno yn 2018-19. Byddai'r hyblygrwydd hwn yn cefnogi mwy o fuddsoddiad, gan gynnwys drwy'r llif o brosiectau sydd gennym yn barod i'w rhoi ar waith drwy ein Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru."