Canllaw i bobl ifanc i'r Gyllideb
A young person’s guide to all things Budget
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi animeiddiad arloesol ar wariant cyhoeddus, a gydgynhyrchwyd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.
Crëwyd yr animeiddiad a'r daflen gysylltiedig gan grŵp o bobl ifanc 11 i 25 oed o bob rhan o Gymru, a'u nod yw disgrifio, mewn ffordd sy'n addas i bobl ifanc, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella dewisiadau o ran cyllid a'r ffordd y mae'n codi ac yn gwario arian.
Dros y 18 mis diwethaf, mae aelodau o Fwrdd Prosiect Pobl Ifanc Cymru Ifanc wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru a Thrysorlys Cymru, gan wirfoddoli eu hamser eu hunain i gymryd rhan mewn sesiynau ar-lein gyda'r nos a gweithdai dydd Sadwrn i greu'r adnoddau newydd.
Menter Plant yng Nghymru yw Cymru Ifanc, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Ei chenhadaeth yw gwrando ar bobl ifanc a grymuso eu lleisiau drwy rannu syniadau, rhoi gwybodaeth a newid ymddygiad.
I ddathlu eu gwaith caled, cynhaliwyd digwyddiad lansio ym Mae Caerdydd yn ddiweddar, a chyflwynodd y bobl ifanc eu hanimeiddiad a'u taflen i'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog:
"Mae'r gwaith yma y mae'r bobl ifanc wedi ei gydgynhyrchu yn wych. Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl o bob oed ynghylch sut rydyn ni'n gwario arian cyhoeddus ac yn defnyddio ein pwerau codi trethi.
"Mae'r gwaith yma yn gam sylweddol ymlaen tuag at wneud Cyllideb Cymru a gwaith Trysorlys Cymru yn fwy agored i bawb. Dw i'n gobeithio bod y bobl ifanc dan sylw wedi mwynhau'r broses ac yn edrych ymlaen at weld eu gwaith yn cael ei rannu ledled Cymru dros y misoedd nesaf."
Dywedodd un o'r bobl ifanc, Arthur:
“Mae pobl ifanc yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain, ac maen nhw’n dod â phersbectif ffres i benderfyniadau. Pan fo’u lleisiau nhw yn cario’r un pwys â lleisiau’r oedolion yn yr ystafell, mae’n rhoi’r gallu inni greu cynnyrch terfynol sy’n cwmpasu safbwyntiau amrywiol ac sy’n grymuso pobl ifanc yn y broses – gan roi mynediad inni i’r hyn sy’n hawl sylfaenol.”
Dywedodd Bethany Turner, Swyddog Datblygu gyda Plant yng Nghymru:
“Mae’r prosiect yma wedi bod yn gyfle anhygoel i sicrhau bod llais plant a phobl ifanc yn cael ei glywed ac yn sylfaen i Lywodraeth Cymru weithredu arni. Mae ymroddiad ac ymrwymiad y bobl ifanc drwy gydol y prosiect wedi bod yn ysbrydoliaeth inni, ac mae’n wych gweld bod eu syniadau wedi cael lle mor amlwg yn y cynnyrch terfynol.
“Rydyn ni am ddiolch i’r holl bobl ifanc sydd wedi cyfrannu eu hamser a’u hymdrech i greu’r adnoddau hyn, a diolch i’n cydweithwyr yn nhîm dylunio Llywodraeth Cymru am drin y bobl ifanc a’u syniadau â’r parch y maen nhw’n ei haeddu.”
Mae'r animeiddiad yn seiliedig ar Gynllun Llywodraeth Cymru i Wella'r Gyllideb, a gyhoeddir yn flynyddol ochr yn ochr â dogfennau cyllidebol eraill.