“Dim arian newydd i Gymru.” – y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans
“No new money for Wales” - Finance Minister Rebecca Evans
Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn fater o bryder mawr bod y Canghellor wedi anwybyddu galwadau i roi cymorth i’r bobl dlotaf, ac wedi gwrthod rhoi cyllid i’r gwasanaethau rheng flaen sydd bwysicaf i bobl.
Wrth siarad ar ôl i’r Canghellor gyflwyno ei ddatganiad, dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
Unwaith yn rhagor, mae Jeremy Hunt wedi gwrthod yr achos o blaid buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac wedi methu â darparu’r buddsoddiad hanfodol sydd ei angen ar gyfer y gwasanaeth iechyd ac ysgolion.
“Er gwaetha’r setliad gwael a gawsom gan Lywodraeth y DU, rydym ni yng Nghymru wedi gwneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau cynnydd o fwy na 4% i gyllid y gwasanaeth iechyd y flwyddyn nesaf. Dim ond 1% o gynnydd sydd yng ngwariant Llywodraeth y DU ar y GIG yn Lloegr.
“Mae’n amlwg bod economi’r Deyrnas Unedig yn parhau’n ddisymud. Nid yw datganiad y Canghellor wedi llwyddo i gyflwyno cynllun argyhoeddiadol ar gyfer twf sy’n hybu potensial economaidd Cymru o fewn economi decach yn y DU. Mae rhagor o gynlluniau tymor byr wedi’u cyhoeddi, ynghyd â thoriadau treth nad ydynt yn targedu’r bobl fwyaf anghenus, ac mae trothwyon treth incwm wedi’u rhewi. Mae mynd yn ôl at sefyllfa o gyni i wasanaethau cyhoeddus yn dangos difaterwch llwyr Llywodraeth y DU ynghylch rheoli cyllid cyhoeddus yn gyfrifol, ac yn golygu y bydd angen toriadau anymarferol i wariant yn y dyfodol.
“Unwaith eto, ni wrandawodd y Canghellor ar ein galwad am Warant Hanfodion i sicrhau bod pobl sy’n cael Credyd Cynhwysol yn gallu talu eu costau hanfodol. Yn hytrach, mae wedi dewis gwneud toriad o ddwy geiniog i gyfraniadau Yswiriant Gwladol gweithwyr. Mae ymchwil gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus wedi cyfrifo y bydd bron i hanner y budd o’r mesur hwn yn mynd i’r 20% cyfoethocaf o aelwydydd, gyda dim ond 3% yn mynd i bocedi’r rheini sydd eisoes yn dioddef waethaf yn ein cymunedau.
“Mae pob un o gyllidebau’r Ceidwadwyr ers 2014 wedi addo cyflogau uwch, sgiliau uwch neu dwf uwch, ond flwyddyn gyfan ers y ‘gyllideb ar gyfer twf’ mae’r economi a chyflogau wedi crebachu mewn gwirionedd. Pe bai cyflogau wedi cynyddu ar y raddfa a welwyd cyn yr argyfwng ariannol yn 2008, byddai tâl cyfartalog gweithwyr £10,000 yn uwch, yn ôl y Resolution Foundation.
“Ar wahân i ambell i gyhoeddiad bychan, doedd dim byd i Gymru yn y Gyllideb hon. Unwaith eto, anwybyddwyd ein blaenoriaethau allweddol ni i Lywodraeth y DU fuddsoddi i ddiogelu tomenni glo ac ailgategoreiddio HS2.
"Yn olaf, er i bob un o’r pedair plaid yn y Senedd bleidleisio'n unfrydol y dylai Llywodraeth y DU roi hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol i Gymru a fyddai'n golygu bod ein terfynau o ran benthyca a chronfeydd wrth gefn cyffredinol yn cael eu haddasu ar gyfer chwyddiant, a’r terfyn ar ein gallu i dynnu arian o gronfeydd wrth gefn yn cael ei ddiddymu’n barhaol, mae Llywodraeth y DU wedi methu â gweithredu ar y ceisiadau syml a rhesymol hyn.”