English icon English

“Mae'r Gyllideb hon wedi'i chynllunio i ddiogelu'r gwasanaethau craidd rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.”– Y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans

“This Budget is designed to protect the core services we all rely on.”– Finance Minister Rebecca Evans

Mae Cyllideb Derfynol Cymru ar gyfer 2024 i 2025 wedi'i chyhoeddi heddiw [Dydd Mawrth 27 Chwefror], wrth i chwyddiant uchel barhau i erydu cyllid cyhoeddus ac wrth i ddewisiadau anodd gael eu gwneud i ddiogelu gwasanaethau craidd.

Mae'r Gyllideb Derfynol hon yn diweddaru cynigion y Gyllideb Ddrafft a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Roedd rhaid i'r cynigion hynny gymryd i ystyriaeth y sefyllfa ariannol anoddaf sydd wedi'i hwynebu ers datganoli, gydag effaith chwyddiant cyson uchel yn golygu bod y gyllideb yn werth £1.3bn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021.

A hithau'n siarad mewn cynhadledd i'r wasg heddiw, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

“Mae ein cynigion i'r gyllideb ar gyfer 2024 i 25 wedi'u cynllunio i ddiogelu'r gwasanaethau craidd rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw, cyn belled â phosibl.

‌“Rydyn ni wedi ailstrwythuro ein cynlluniau gwario i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau rheng flaen y GIG; i setliad llywodraeth leol, i ddiogelu cyllid ar gyfer ysgolion, ac i gynnal taliadau BPS i ffermwyr y flwyddyn nesaf.

“Er y byddwn yn gwario mwy yn y meysydd craidd hyn, mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu blwyddyn anodd iawn wrth iddyn nhw reoli'r pwysau deublyg sef galw a chostau cynyddol.”

Aeth y Gweinidog ymlaen:

‌“Fel rheol, dydyn ni ddim yn gwneud llawer o newidiadau rhwng y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Derfynol, ond y tro hwn rydyn ni'n gwneud mwy o newidiadau nag arfer. Y rheswm dros hynny yw bod Llywodraeth y DU yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi rhoi rhagor o fanylion inni o'r diwedd am y cyllid canlyniadol y byddwn yn ei gael o ganlyniad i benderfyniadau y mae wedi'u gwneud i gynyddu gwariant mewn meysydd datganoledig yn Lloegr yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

“Mae'r wybodaeth hon wedi dod i law yn hwyr iawn yn y flwyddyn. Mae'r refeniw ychwanegol yn swm o £231m, sef tua dwy ran o dair o'n capasiti wrth gefn.

‌“Pe baen ni wedi cael yr wybodaeth hon pan oeddem yn rheoli ein sefyllfa anodd yn ystod y flwyddyn gallen ni fod wedi gwneud rhai dewisiadau gwahanol eleni, ac osgoi gwneud rhai o'r penderfyniadau anoddach. Er hynny, mae'n golygu ein bod yn gallu gwneud bron £190m o ddyraniadau ychwanegol yn y Gyllideb Derfynol ar gyfer y flwyddyn nesaf.”

Mae'r dyraniadau ychwanegol yn canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae'r pwysau mwyaf difrifol, neu le na fyddai gostyngiadau wedi'u gwneud pe bai Llywodraeth y DU wedi bod yn fwy agored gyda'r wybodaeth am gyllid. 

Mae'r Gyllideb Derfynol yn dyrannu:

  • £14.4m ar gyfer llywodraeth leol i'w helpu i dalu am bwysau mewn gofal cymdeithasol ac ysgolion. Rydym hefyd yn gwrthdroi'r toriadau a wnaed i grant y gweithlu gofal cymdeithasol ac i'r grant plant a chymunedau.
  • £10m i gryfhau rhaglenni prentisiaeth a chyflogadwyedd, gan sicrhau cymorth i weithwyr dur os bydd Tata yn bwrw ymlaen â'u cynlluniau i gau'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot.
  • £40m o gyllid cyfalaf newydd i gefnogi'r GIG.
  • £30m ar gyfer Morglawdd Caergybi.
  • £20m i helpu busnesau bach a chanolig i ddiogelu eu busnesau yn y dyfodol.
  • Nifer o ddyraniadau cyfalaf Trafodiadau Ariannol, gan gynnwys hyd at £20m i fwrw ymlaen â chynigion tai, parhau i gefnogi tai cymdeithasol ychwanegol i helpu i fynd i'r afael â digartrefedd, a'r costau anuniongyrchol cysylltiedig gan gynnwys canlyniadau gwaeth ym maes iechyd, cyflogaeth ac addysg.

Siaradodd y Gweinidog hefyd am yr angen am fwy o hyblygrwydd cyllidebol, sydd eisoes ar gael i'r Alban. Byddai'r hyblygrwydd gwell hwn yn sicrhau bod gan Gymru'r offer a'r ymreolaeth i ddefnyddio ei harian yn y ffordd orau bosibl, gan ddiwallu anghenion a blaenoriaethau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yma yn well.

Cynhelir dadl ar yr hyblygrwydd gwell hwn yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw [dydd Mawrth 27 Chwefror].

Bydd y Gyllideb Derfynol yn cael ei thrafod yn y Senedd ddydd Mawrth 5 Mawrth.