English icon English

Cynnydd o 3.1% yng nghyllid llywodraeth leol

3.1% rise in local government funding

Y flwyddyn nesaf, bydd cynnydd yn y cyllid y mae cynghorau Cymru yn ei dderbyn.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2024 i 2025.

Bydd cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn cynyddu o 3.1% ar sail tebyg at ei debyg, o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol. Bydd pob awdurdod lleol yn cael cynnydd o 2% o leiaf.

Bydd ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, casgliadau sbwriel ac ailgylchu a gwasanaethau allweddol eraill sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol yn cael cymorth o £5.7 biliwn drwy Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Cymru ac ardrethi annomestig.

Mae'r setliad hwn yn arwydd o ymrwymiad y llywodraeth i ddiogelu'r gwasanaethau rydym i gyd yn dibynnu arnynt o ddydd i ddydd. Mae hyn yn golygu bod rhai penderfyniadau anodd wedi cael eu gwneud i ailgynllunio cynlluniau gwariant yn radical er mwyn canolbwyntio ar y gwasanaethau hyn wrth neilltuo cyllid.

Fel rhan o'r Gyllideb ddrafft ddoe, cafodd cyhoeddiad ei wneud hefyd am becyn cymorth ar gyfer ardrethi annomestig sydd o fudd i bob talwr ardrethi yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid i roi cap o 5% ar y cynnydd yn y lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2024-25. Bydd hyn yn cael ei wneud am gost flynyddol o £18m a bydd yn golygu bod cymorth yn cael ei ddarparu am y bumed flwyddyn yn olynol i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Mewn sefyllfa ariannol arbennig o anodd, rydym wedi edrych eto ar ein cynlluniau gwariant fel y gallwn ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus craidd y rheng flaen sy'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol – gwasanaethau fel ysgolion a gofal cymdeithasol.

“Fel yr eglurais ddoe, nid yw ein setliad cyllid cyffredinol yn ddigonol i fynd i'r afael â'r holl bwysau. Mae hyn wedi golygu gwneud penderfyniadau anodd mewn meysydd eraill yn y gyllideb i fodloni ein haddewid i gynghorau y llynedd o gynnydd o 3.1% yn eu cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Rwy'n gwerthfawrogi'r pwysau y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu ac rwy'n cydnabod hefyd fod y galw am wasanaethau, yn ogystal â chyfraddau chwyddiant sydd wedi bod yn uchel iawn yn ddiweddar, yn golygu y bydd llywodraeth leol yn dal i orfod gwneud penderfyniadau anodd am wasanaethau, sut i arbed adnoddau ac am y dreth gyngor wrth osod eu cyllidebau.

“Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n gilydd i wynebu'r heriau cyffredin hyn a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym yn y ffordd orau bosibl er mwyn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Mae ymgynghoriad chwe wythnos o hyd ar y setliad dros dro wedi agor heddiw, a bydd yn dod i ben ar 31 Ionawr 2024.

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau

Bydd rhagor o fanylion am y setliad yn cael eu hanfon i bob awdurdod lleol a'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru