Newyddion
Canfuwyd 64 eitem, yn dangos tudalen 6 o 6

"Rhaid i Weinidogion y DU barchu datganoli" - Llywodraethau Cymru a’r Alban yn galw am ariannu teg
Pe bai Llywodraeth y DU yn sefydlu porthladdoedd rhydd yn yr Alban a Chymru heb gytundeb y llywodraethau datganoledig, byddai’n tanseilio datganoli, meddai Gweinidogion Cymru a’r Alban.

Ymestyn y cynllun taliadau cymorth £500 ar gyfer hunanynysu
Mae cynllun Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ar gyflogau isel drwy roi £500 iddynt os oes rhaid iddynt hunanynysu, wedi cael ei ymestyn hyd at fis Mawrth 2022.

Gostyngiad ardrethi busnes llawn yn parhau yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru na fydd yn rhaid iddynt dalu unrhyw ardrethi tan fis Ebrill 2022 wrth i ostyngiadau llawn yn Lloegr ddod i ben yfory (1 Gorffennaf).

Galw am gyfarfod cyllid pedair gwlad gyda'r Canghellor
Mae Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys yn galw am gyfarfod brys gydag ef i drafod amrywiol faterion, gan gynnwys adferiad ariannol o’r Coronafeirws (COVID-19).