English icon English
Budget 22-23 C

Cyllideb i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach

Budget to build stronger, fairer, greener Wales

Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru Rebecca Evans wedi cyhoeddi cyllideb ar gyfer y tair blynedd nesaf i “gefnogi Cymru heddiw ac i lunio Cymru yfory”

Cefnogi’r Rhaglen Lywodraethu, ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ymateb i argyfyngau’r hinsawdd a natur a chreu Cymru decach – dyma’r mesurau sy’n sail i’r gyllideb.

Dros y tair blynedd nesaf, i’w alluogi i roi gofal iechyd sy’n effeithiol, o ansawdd uchel ac yn gynaliadwy, a’i helpu i barhau i ymateb i’r pandemig ac i ymadfer ohono, caiff £1.3bn o gyllid uniongyrchol ychwanegol ei neilltuo i GIG Cymru.

Bydd awdurdodau lleol yn derbyn bron £0.75bn o arian ychwanegol i ariannu ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau hanfodol eraill.  Yn 2022-23, caiff rhagor na £250m ei neilltuo ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys £180m fel rhan o setliad llywodraeth leol, £45m o fuddsoddi uniongyrchol a £50m ar gyfer cyfalaf gofal cymdeithasol ychwanegol.

I helpu Cymru i ymateb i argyfyngau’r hinsawdd a natur, caiff £160m o refeniw ychwanegol ei neilltuo i dargedu buddsoddiad gwyrdd a chaiff £1.8bn ei neilltuo fel buddsoddiad cyfalaf.  Bydd hynny’n cynnwys cyllid i gefnogi’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i goedwig genedlaethol ac i fioamrywiaeth, teithio llesol, yr economi gylchol, ynni adnewyddadwy, llifogydd a datgarboneiddio tai.  Caiff £1.6bn o gyfalaf ei fuddsoddi i ddarparu tai o ansawdd da, gan gynnwys £1bn ar gyfer tai cymdeithasol a £375m ar gyfer diogelwch adeiladau.

Bydd y gyllideb yn mynd i’r afael hefyd ag anghydraddoldeb ac yn buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol trwy £320m ychwanegol i barhau â’r rhaglen tymor hir o ddiwygio dysgu ac addysg.  Bydd hyn yn cynnwys £30 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gofal plant a’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar; £40 miliwn ar gyfer Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf; £90 miliwn ar gyfer prydau ysgol am ddim; £64.5 miliwn ar gyfer rhaglenni ehangach i ddiwygio ysgolion a’r cwricwlwm; a £63.5 miliwn yn y ddarpariaeth ôl-16 oed. Ar ben hynny, neilltuir £900m o gyfalaf i wella ansawdd adeiladau ysgolion trwy raglen ysgolion yr 21ain ganrif.

Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn elwa hefyd ar £61m ychwanegol yn y Gwarant i Bobl Ifanc a chymorth cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, prentisiaethau ac i ehangu’r Cyfrifon Dysgu Personol.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Bydd y gyllideb hon yn cefnogi Cymru heddiw ac yn llunio Cymru yfory.  Bydd yn cefnogi’n gwasanaethau cyhoeddus i fod yn gryfach, yn helpu Cymru ymhellach i lawr y llwybr i fod yn wlad sero net ac yn creu gwlad decach gyda chydraddoldeb yn sylfaen iddi.

“Rydyn ni’n dal i weithredu mewn cyd-destun ariannol anodd, gyda’n cyllideb bron £3bn yn is na phe bai wedi cynyddu yn unol â’r economi ers 2010-11. Mewn termau real, bu llai na hanner y cant o gynnydd yn y cyllid refeniw rhwng 2022-23 a 2024-25, ac mae cyllid cyfalaf yn cwympo o ran termau arian parod bob blwyddyn yng nghyfnod yr Adolygiad Gwariant – 11% yn is mewn termau real yn 2024-25 nag yn y flwyddyn gyfredol.

“Ni wnaeth Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU gyflawni dros Gymru a darperir y gyllideb hon yng nghyd-destun hynny.  Er bod dewisiadau anodd i’w gwneud yn y dyfodol, rydym wedi gallu darparu cyllid fydd yn caniatáu i Gymru godi i wynebu’r heriau o’n blaenau â’i thraed wedi’u gwreiddio yn y gwerthoedd unigryw Cymreig o gyfiawnder amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

“Lle nad oedd gan yr Adolygiad Gwariant unrhyw beth i’w ddweud am argyfyngau’r hinsawdd a natur, rydyn ni’n gweithredu.  Lle nad oedd yr Adolygiad Gwariant yn cynnig help i wneud tomenni glo’n ddiogel, rydyn ni’n camu i’r adwy.  A lle nad oedd yr Adolygiad Gwariant yn ceisio unioni’r anghydraddoldeb rhwng y rhanbarthau, rydyn ni’n buddsoddi ym mhob rhan o Gymru ac yn buddsoddi i daclo anghydraddoldeb mewn ffordd ystyrlon. 

“Dyma gyllideb i roi hwb i gychwyn gwireddu ein Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol a dewr ac rwy’n falch o gael ei chyhoeddi a gosod y sylfeini ar gyfer ein hadferiad ac i’n symud i fod yn Gymru gryfach, decach a gwyrddach.”

Bydd cymorth economaidd ychwanegol ar gael i fusnesau, gyda’r rheini yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael 50% o ryddhad o’u hardrethi annomestig yn 2022-23.  Bydd y pecyn hwn o £116 miliwn o gymorth, o’i gyfuno â’r cynllun rhyddhad ardrethi parhaol presennol, yn sicrhau y bydd dros 85,000 eiddo yn cael eu cefnogi yn 2022-23.  Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £20m ar ben y cyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU, ac mae’n dilyn y cymorth ardrethi busnes a roddwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n fwy na’r hyn a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU yn y flwyddyn ariannol hon.  Mae £35m arall wedi’i gadarnhau i rewi lluosydd ardrethi annomestig 2022-23, gan sicrhau na fydd cynnydd yn yr ardrethi y bydd busnesau’n eu talu.

Mae Llywodraeth Cymru’n neilltuo arian hefyd i helpu i wneud tomenni glo’n ddiogel ac i dalu am eu hadfer, eu cyweirio a’u hailbwrpasu, gyda £4.5m yn ychwanegol a buddsoddiad cyfalaf o £44.4m.  Mae’n dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â neilltuo ei harian ei hun i hyn yn Adolygiad Gwariant mis Hydref.

Mae’r gyllideb yn cynnwys arian i gefnogi’r ymrwymiadau yn y Cytundeb Cydweithredu a lofnodwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru a bydd yn cyflawni’r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu newydd.