Cyhoeddi penodi Cadeirydd newydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
New Chair for the Local Democracy and Boundary Commission for Wales announced
Heddiw, mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans wedi cyhoeddi bod Beverley Smith wedi’i phenodi yn Gadeirydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer y 22 o brif gynghorau, gan gynnwys nifer y cynghorwyr a wardiau yn ardal pob cyngor.
Mae gan Beverley Smith gefndir cryf ym maes gwasanaethau cyhoeddus ac mae’n gadeirydd ac aelod bwrdd profiadol. Ei rôl ddiweddaraf oedd fel Prif Weithredwr Cyngor Gogledd-orllewin Swydd Gaerlŷr.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:
“Rwy’n falch o benodi Beverley Smith yn Gadeirydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
“Bydd yn rhoi arweiniad cryf i’r Comisiwn wrth iddo ystyried pa welliannau y gellir eu gwneud i’w broses adolygu cyn dechrau’r rhaglen nesaf o adolygiadau etholiadol."
Dywedodd Beverley Smith:
"Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghwm Rhondda ac rwy’n teimlo’n gyffrous a balch o gael y cyfle i ddefnyddio fy mhrofiad a’m sgiliau i weithio gyda’r Prif Weithredwr, Shereen Williams i gefnogi gwaith Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn ystod ei gyfnod nesaf. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn arw at weithio gyda theulu llywodraeth leol Cymru.”
Mae’r penodiad am dymor o bedair blynedd, gan ddechrau ar 1 Chwefror 2022.
Mae’r penodiad hwn wedi cael ei wneud yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.
Bydd Beverley Smith yn cael tâl o £268.91 y diwrnod yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd a bydd y swydd yn galw am ymrwymiad amser o 1 i 2 ddiwrnod y mis.