English icon English
women together-2

“Mae trais gan ddynion ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi effeithio ar fywydau menywod mewn modd cyson ac eang ers rhy hir o lawer.”

“The constant and pervasive effects of male violence and gender inequality have conditioned women’s lives for far too long.”

Dylai sgyrsiau ynglŷn ag atebolrwydd am drais yn erbyn menywod ganolbwyntio ar ymddygiad y cyflawnwyr yn lle ymddygiad y dioddefwyr yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wrth i'r byd gofio Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod.

Heddiw [Dydd Iau 25 Tachwedd] yw Diwrnod y Rhuban Gwyn hefyd, sy'n dechrau 16 diwrnod o weithredu gyda'r nod o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod. Mae hynny'n cynnwys gofyn i ddynion a bechgyn herio ymddygiad camdriniol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau, eu cydweithwyr a'u cymunedau.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Rwy am anfon neges glir nad oes cyfrifoldeb ar fenywod i newid eu hymddygiad, y rhai sy'n cam-drin ddylai newid eu hymddygiad. Mae trais gan ddynion ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi effeithio ar fywydau menywod mewn modd cyson ac eang ers rhy hir o lawer.

“Nod Diwrnod y Rhuban Gwyn a'r 16 diwrnod o weithredu yw grymuso dynion a bechgyn i herio ymddygiadau amhriodol, pan fo'n ddiogel i wneud hynny, a chynnig cymorth. Mae angen gweithredu ar y ddwy ochr er mwyn mynd i'r afael â thrais gan ddynion, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod; rhaid i ni gefnogi goroeswyr a dwyn cyflawnwyr i gyfrif, ond rhaid i ni hefyd sicrhau newid gwirioneddol mewn ymddygiad.

“Dim ond drwy wneud hynny y gallwn ni sicrhau diwylliant o gydraddoldeb a pharch mewn gwirionedd - rhywbeth y mae angen i bob un ohonon ni ei feithrin er mwyn gwneud yn siŵr bod modd i bob unigolyn fyw heb ofn.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), Llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

“Mae pob math o drais yn erbyn menywod yn parhau'n bla erchyll yn ein cymunedau. Mae'n ffaith syfrdanol bod dwy fenyw yn cael eu lladd bob wythnos gan bartner neu gyn-bartner, a bod 10,000 o fenywod yn cael eu cam-drin yn rhywiol bob wythnos yng Nghymru a Lloegr. Rhaid i bob un ohonon ni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i roi terfyn ar yr ymddygiadau ffiaidd hyn. Mae'r sector llywodraeth leol wedi ymrwymo'n llwyr i weithio tuag at wireddu'r uchelgais hwn.

“Bob blwyddyn, mae Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod yn rhoi cyfle i bob un ohonon ni ystyried y ffordd yr ydyn ni'n ymddwyn. Does dim esgus yn y byd dros gyfiawnhau unrhyw drais neu gamdriniaeth o'r fath. Rwy'n annog pawb ym mhob un o'n cymunedau i ddangos eu cefnogaeth drwy dyngu Llw y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni trais yn erbyn menywod, na gwneud esgus am drais gan ddynion yn erbyn menywod, na chadw'n ddistaw amdano. Gallwn ni sefyll gyda'n gilydd a chodi'n llais, i ddangos nad oes lle yn ein cymdeithas i ymddygiadau ffiaidd o'r fath.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi'r Adroddiad Cynnydd Blynyddol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2020 i 2021 heddiw. Bwriedir hefyd lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y ffordd y gall Cymru gryfhau ei Strategaeth Genedlaethol ar gyfer y pum mlynedd nesaf ar 7ed Rhagfyr 2021.

Bydd hyn yn canolbwyntio ar drais yn erbyn menywod ar ein strydoedd ac yn y gweithle yn ogystal â'r cartref, er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.