Dylai dinasyddion yr UE gael cynnig prawf o’u statws ar bapur
Physical proof of status should be offered to EU citizens
Mae llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnig dogfen bapur i ddinasyddion yr UE i brofi eu statws sefydlog neu gyn-sefydlog.
Ar hyn o bryd, nid oes gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi sicrhau statws preswylydd sefydlog neu statws cyn-sefydlog unrhyw ddogfennau papur i brofi bod ganddynt yr hawl i fyw yn y Deyrnas Unedig ac mae hyn wedi bod yn achosi problemau o ran cyflogaeth dinasyddion a’u gallu i gael mynediad at wasanaethau.
Mae llythyr ar y cyd gan weinidogion yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn nodi ei bod yn destun pryder iddynt o hyd mai llwyfan digidol yn unig y mae’r Swyddfa Gartref yn ei gynnig ar gyfer tystiolaeth.
Mae’r llythyr hwn at Kevin Foster, Gweinidog y DU dros Ymfudo Diogel a Chyfreithiol, wedi’i lofnodi gan Weinidog Ewrop yr Alban Jenny Gilruth, Gweinidog Cymdeithasol Cymru Jane Hutt, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon Paul Givan a'r Dirprwy Brif Weinidog Michelle O'Neill.
Mae'n nodi bod y Gweinidogion yn pryderu'n fawr bod prawf o statws digidol yn unig ar gyfer ymgeiswyr am statws preswylydd sefydlog yn gwahaniaethu'n anuniongyrchol yn erbyn amryw ddinasyddion sy'n agored i niwed a allai ei chael yn anodd cael mynediad at eu statws.
Mae'r llythyr yn annog Llywodraeth y DU i sefydlu system ddeuol yn lle hynny, er mwyn cael gwared ar yr hyn sy’n rhwystro mynediad ond gan sicrhau ar yr un pryd bod system ddigidol gyfleus ar gael i’r rhai hynny sy’n gallu ei defnyddio.
Mae’r llythyr yn gorffen fel hyn:
"Unwaith eto, rydym yn eich annog i roi'r dewis i ddinasyddion yr UE sy'n gwneud eu cartref yma i ofyn am brawf ar bapur o'u statws, gan roi terfyn ar y dull gweithredu hwn sy’n allgáu pobl.”