Newyddion
Canfuwyd 101 eitem, yn dangos tudalen 1 o 9

Cydnabod yn swyddogol safle sy'n coffáu'r miloedd o fywydau a gollwyd, fel Gardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru
Mae gardd goffa yn Senghennydd, sy'n coffáu'r rhai a fu farw yn y trychineb gwaethaf yn hanes glofeydd Prydain, wedi cael y "gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu" ac wedi ei chydnabod yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru fel Gardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru.

Cyhoeddi teulu o orielau wrth i Teulu agor yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Bydd yr arddangosfa gyntaf fel rhan o brosiect Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru yn agor i'r cyhoedd y penwythnos hwn [Dydd Sadwrn 9 Mawrth].

Ffilm o Gymru yn cael ei dangos yng Ngŵyl Ffilm yr Unol Daleithiau
Bydd ffilm nodwedd newydd a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Ffilm Cymru yn cael ei dangos yn yr ŵyl gerddoriaeth a ffilm ryngwladol fyd-enwog, SXSW yn Austin, Texas yn ddiweddarach yr wythnos hon (8 Mawrth).

Cytundeb pedair blynedd yn sicrhau twf a sefydlogrwydd i Bad Wolf yng Nghymru.
Bydd cytundeb newydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni cynhyrchu arobryn o Gaerdydd, Bad Wolf, yn sicrhau y bydd nifer o ddramâu teledu o safon uchel yn cael eu gwneud yng Nghymru dros y pedair blynedd nesaf.

Hunanbortread Van Gogh yn dod i Gymru am y tro cyntaf
- Bydd y gwaith celf yn rhan o arddangosfa newydd sbon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- Mae’r benthyciad yn nodi diwedd Blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru, sydd wedi cryfhau cysylltiadau diwylliannol, chwaraeon a busnes drwy fwy na 40 o ddigwyddiadau
- Bydd La Parisienne yn teithio i Musée D’Orsay, Paris yn rhan o’r gyfnewidfa gelf

Wythnos Lleoliadau Annibynnol: Cyllid i leoliadau cerdd llawr gwlad ledled Cymru
Mae Porters, y lleoliad adnabyddus a phoblogaidd yng Nghaerdydd, newydd gael bywyd newydd ar ôl symud i adeilad newydd yng nghanol y ddinas.

Datgelu cynlluniau ar gyfer cofrestru statudol a chynllun trwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru
Mae cynlluniau i gyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer pob llety ymwelwyr yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden heddiw (dydd Mawrth, 9 Ionawr) gyda disgwyl i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno i'r Senedd cyn diwedd y flwyddyn.

Abaty eiconig Tyndyrn yn ymddangos ar raglen Digging for Britain y BBC
Bydd rhaglen uchelgeisiol Cadw o waith cadwraeth hanfodol bum mlynedd o hyd yn Abaty eiconig Tyndyrn yn ganolbwynt Digging for Britain ar BBC2 ddydd Iau 4 Ionawr.

Cymorth gan Cymru Greadigol yn arwain at dros £200 miliwn i economi Cymru
Mae datblygiad diwydiannau creadigol Cymru yn cael ei gydnabod yn helaeth fel un o lwyddiannau economaidd mawr y wlad, ac mae darlledu'r ddrama newydd 'Men Up' heddiw (dydd Gwener, 29 Rhagfyr), yn uchafbwynt priodol ar gyfer blwyddyn lwyddiannus arall.

Ysgol y Castell yn ymweld â'r castell
Cafodd plant o Ysgol y Castell brofiad arbennig ychydig cyn y Nadolig wrth iddyn nhw ymweld â Chastell Caerffili i weld y gwaith cadwraeth sy'n cael ei wneud yn Neuadd Fawr y castell.

Sioe lwyddiannus HBO, House of the Dragon, yn dychwelyd i’r sgrin fach ar ôl ffilmio yng Ngogledd Cymru
Mae’n bosibl y bydd gwylwyr craff yn sylwi ar leoliadau cyfarwydd iawn yn y rhaglun a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer yr ail gyfres o House of the Dragon. Yn sgil cymorth gan Cymru Greadigol, cafodd Gogledd Cymru ei ddefnyddio fel safle ffilmio ar gyfer ail gyfres y sioe lwyddiannus.

Llên gwerin Cymru yn ysbrydoli gêm fideo CGI newydd 'Maid of Sker 2'
Mae cefnogaeth gan gyllid cynhyrchu Cymru Greadigol wedi galluogi cwmni gemau blaenllaw o Gymru Wales Interactive i greu Maid of Sker 2, gêm fideo CGI i ddilyn y gem wreiddiol arobryn.