English icon English

Newyddion

Canfuwyd 91 eitem, yn dangos tudalen 8 o 8

HDM3-2

Cip tu ôl i’r llenni ar y cyfnod twf yn y byd teledu yng Nghymru a His Dark Materials 3

Gyda nifer cynyddol o gynyrchiadau teledu'n dewis cael eu lleoli yng Nghymru dros yr haf, cafodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, daith tu ôl i'r llenni yn Wolf Studios Wales yn ddiweddar. Gwelodd â’i llygaid ei hun y manteision i economi Cymru, a’r twf mewn cyflogaeth leol, y mae’r ymchwydd ym myd cynhyrchu teledu wedi’i greu i'r sector creadigol yng Nghaerdydd a thu hwnt.

library -4

Llywodraeth Cymru yn chwilio am Lywydd newydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi agor y broses recriwtio ar gyfer swydd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru o fis Ionawr 2022

WGhero-2

Profiad Realiti Estynedig rhyngwladol newydd yn dod i Gymru

Ddydd Gwener 20 Awst, bydd tîm o bobl greadigol, gan gynnwys partneriaid o Gymru, yn lansio 'Fix Up The City' - y profiad Realiti Estynedig (AR) dinesig cyntaf erioed yn seiliedig ar y ddeuawd eiconig Wallace &Gromit – yng Nghaerdydd, San Francisco a Bryste.

llanberis-2

Dirprwy Weinidog yn diolch am yr ymdrech i baratoi'r cais am enwebiad Safle Treftadaeth y Byd

Wrth i Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO ymgynnull yn Fuzhou, Tsieina, yn rhithwir, ar-lein am y tro cyntaf yn ei hanes, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yr wythnos hon ar y cais i ddyfarnu Statws Safle Treftadaeth y Byd i dirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru.

plas Glyn y weddw-2

Gronfa Adferiad Diwylliannol – yn helpu i gynnal y sector treftadaeth

Yn ystod ymweliadau â Gogledd Cymru yr wythnos hon, cyfarfu Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, â'r sawl sydd wedi derbyn cyllid o Gronfa Adferiad Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru – i weld sut mae’r cyllid wedi helpu i gynnal sefydliadau a diogelu swyddi yn ystod cyfnod heriol i'r sector.

DSC52882-2

Creu HAVOC yng Nghymru – ffilm gyffro newydd i Netflix i gael ei ffilmio yr haf hwn.

Bydd prosiect newydd cyffrous y cyfarwyddwr Gareth Evans ar gyfer Netflix, HAVOC, yn cael ei ffilmio yng Nghymru yr haf hwn. Y ffilm gyffro fydd un o'r ffilmiau mwyaf erioed i'w cynhyrchu yng Nghymru, gyda Tom Hardy a Forest Whitaker yn rhan o’r cast.

Artist impression-2

£1.1 miliwn ar gyfer Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd yng Nghymru

Bydd wyth amgueddfa a llyfrgell yn elwa o gyllid o £1.1 miliwn drwy Grantiau Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru.