English icon English
Gymnastic-2

Buddsoddiad o £4.5 miliwn ychwanegol  mewn cyfleusterau chwaraeon yn allweddol er mwyn adfer ar ôl y pandemig – Dawn Bowden

Extra £4.5 million investment in sporting facilities key to recover from pandemic – Dawn Bowden

Y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi,  £4.5 miliwn yn ychwanegol o gyllid cyfalaf ar gyfer cyfleusterau chwaraeon newydd ar draws Cymru, dywedodd y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, heddiw.

Bydd y cyllid cyfalaf ychwanegol yn cefnogi prosiectau a fydd yn cael eu darparu drwy Chwaraeon Cymru i wella cyfleusterau, er mwyn i ragor o bobl gael cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o chwaraeon.

Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyfanswm o £13.2 miliwn o gyllid cyfalaf mewn chwaraeon eleni i gefnogi prosiectau ym mhob cwr o Gymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden: “Mae buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon yn ymrwymiad allweddol yn ein Rhaglen Lywodraethu, ac mae'n hollbwysig i iechyd a lles ein cenedl wrth inni adfer ar ôl y pandemig.

“Mae'r pecyn hwn yn adlewyrchu'r gwerth rydyn ni’n parhau i'w roi ar ein cyfleusterau chwaraeon. Maen nhw’n amgylcheddau sy'n creu cyfleoedd cynhwysol i bobl fwynhau’r manteision corfforol a meddyliol sy’n gysylltiedig â chwaraeon, ac i ryddhau eu potensial ym maes chwaraeon.

Yn ôl Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru: “Os nad oes cyfleusterau ar gael, ’does dim gobaith gyda ni o daro’n nod o roi cyfle i bob un yng Nghymru fod yn gorfforol egnïol, a dyna pam rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cael y cyllid ychwanegol hwn oddi wrth Lywodraeth Cymru.

“Ar ôl inni gynnal proses mynegi diddordeb ddiwedd y llynedd, gwelwyd bod angen yr arian ychwanegol hwn. Caniataodd y broses honno hefyd inni nodi’r prosiectau â blaenoriaeth ac mae’r holl fuddsoddiad wedi cael ei glustnodi erbyn hyn. 

 “Rydyn ni wedi gweithio gyda'r sector i sicrhau bod y buddsoddiad yn cael ei wasgaru’n ddaearyddol a bod amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau yn cael eu cefnogi. Buom yn ystyried yn ofalus hefyd er mwyn ceisio sicrhau y bydd y buddsoddiad o fudd i'r cymunedau hynny sydd ei angen fwyaf."

Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Rydyn ni’n croesawu’r cymorth ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a fydd yn gwella cynifer o fywydau yn feddyliol ac yn gorfforol. Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn deall y grym sydd gan chwaraeon i greu cymdeithas well, ac mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnig gobaith ac yn rhoi goleuni ar gyfer dyfodol disglair.”

Mae llawer o brosiectau ledled Cymru wedi elwa ar gyllid eisoes eleni. Yn rhan o brosiect sy’n werth £2 filiwn, mae Tŷ Chwaraeon, Caerdydd wedi gosod lloriau newydd yn y ganolfan bwrpasol ar gyfer pêl-rwyd a fydd hefyd yn gartref i'r Dreigiau Celtaidd.

Yn y Gogledd, mae swm o £2 filiwn wedi'i glustnodi ar gyfer Felodrom Gogledd Cymru, Sir Ddinbych, er mwyn datblygu felodrom awyr agored newydd.

Ac yng Nghil-y-coed, mae Clwb Gymnasteg Wye Galaxy wedi cael £4,000 dan y gronfa cyllido torfol, Lle ar gyfer Chwaraeon, i helpu gyda’r gwaith o greu caffi newydd yn y clwb a fydd yn cynnal sesiynau Fit and Fed i blant lleol, yn cynnig caffi dementia rheolaidd ac yn rhoi cyfleoedd i bobl ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu gael lleoliadau gwaith.

Dywedodd Carly Hawke, Prif Swyddog Gweithredol Gymnasteg Gwy a Galaxy Cheerleading: "Allwn ni ddim aros i weld y prosiect hwn yn dod yn fyw. Tra'n gwella profiad rhieni a chefnogwyr y clwb, bydd y caffi hefyd yn ganolbwynt i'n cymuned leol sy'n bwysig iawn i ni. 

"Mae’r  rhodd gan Chwaraeon Cymru wedi bod yn hwb i'n gweithgarwch codi arian gan ychwanegu gwerth aruthrol a chynyddu hyder y cyhoedd yn y prosiect, gan eu hannog i gyfrannu hefyd. Rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth - a byddem yn annog unrhyw glybiau lleol sydd angen cymorth codi arian i gysylltu." 

Mae Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23, a gyhoeddwyd ar 21 Rhagfyr, yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf pellach o £24 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon dros y tair blynedd nesaf. Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy Chwaraeon Cymru.