Newyddion
Canfuwyd 109 eitem, yn dangos tudalen 1 o 10
£5 miliwn ar gyfer cyrff diwylliant a chwaraeon a Cadw
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £5 miliwn arall i gefnogi ac amddiffyn cyrff diwylliant a chwaraeon hyd braich Cymru a Cadw.
Dros £4.3m ar gyfer prosiectau cymunedol yng Nghymru
Mae eglwys yn Abertawe, clwb pêl-droed yn Sir Ddinbych a chanolfan wirfoddoli ym Mhowys ymhlith y 38 prosiect i dderbyn cyfran o dros £4.3m o gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Dechrau'r gwaith cadwraeth mawr yn Abaty Tyndyrn
Mae cam cyntaf y gwaith cadwraeth i'r capeli yn yr abaty eiconig yn Nhyndyrn wedi dechrau, meddai Cadw.
Casgliadau arallfydol yn Amgueddfa Doc Penfro
Mae Canolfan Treftadaeth Doc Penfro, sy'n adrodd hanes y dref gan gynnwys ei rhan yn creu y Millennium Falcon eiconig ar gyfer Star Wars ym 1979, yn mynd o nerth i nerth diolch i ymroddiad ac ymrwymiad ei gwirfoddolwyr a'i hymddiriedolwyr.
Dysgu Cymraeg gyda llyfrynnau am ddim gan Cadw
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant wedi lansio llyfrynnau newydd rhad ac am ddim a fydd yn helpu dysgwyr Cymraeg ar bob lefel i ddysgu mwy am safleoedd Cadw.
Amser o hyd i roi eich barn ar lunio dyfodol diwylliant yng Nghymru
Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd rhagddi, mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i roi eu barn ar ei gweledigaeth ar gyfer y sector diwylliant, gydag ychydig llai na mis i fynd nes bydd yr ymgynghoriad yn cau.
£3.7m o gyllid ychwanegol i ddiogelu a gwarchod trysorau cenedlaethol Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod sefydliadau diwylliannol Cymru yn cael eu diogelu a'u cadw, gyda £3.2m wedi'i glustnodi yn ystod y flwyddyn ariannol hon er mwyn gwneud gwaith atgyweirio i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Prosiect chwaraeon yn helpu rhagor o fenywod i fod yn egnïol
Mae Sports4All yn cynnig sesiynau gweithgareddau rhad ac am ddim i fenywod yng Nghaerdydd, ac yn annog menywod a merched Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i wella'u lles drwy gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Dweud eich dweud ynghylch creu dyfodol llwyddiannus i ddiwylliant yng Nghymru
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei gweledigaeth ar gyfer y sector diwylliant rhwng 2024 a 2030.
Buddsoddiad o dros £900,000 mewn platfform llyfrgell ddigidol i Gymru
Bydd llyfrgelloedd cyhoeddus yn rhannu platfform llyfrgell ddigidol effeithlon newydd a fydd yn gwneud y gwasanaeth yn fwy cyson ac yn gwella mynediad at lyfrau, e-lyfrau a gwasanaethau llyfrgell eraill.
Amgueddfa Lechi Cymru yn anelu at ddod yn atyniad ymwelwyr o'r radd flaenaf
A hithau'n benwythnos Gŵyl y Banc, mae'r Ysgrifennydd Diwylliant Lesley Griffiths wedi ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis i weld sut mae gwaith ailddatblygu yn anelu at droi'r lleoliad yn atyniad ymwelwyr o'r radd flaenaf, ac mae wedi annog pobl i ymweld.
Prosiect cadwraeth mwyaf Cadw yn datblygu yng Nghastell Caerffili
Mae'r Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, Lesley Griffiths, wedi ymweld â Chastell Caerffili i weld sut mae buddsoddiad o £10m yn un o safleoedd hanesyddol gorau Cymru yn mynd rhagddo.