English icon English

Zombies, dreigiau a hwb i'r economi – 5 mlynedd o Gymru Greadigol

Zombies, dragons and a twelve-fold ROI – 5 years of Creative Wales

Mae Cymru Greadigol, asiantaeth fewnol Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a thyfu diwydiannau creadigol y genedl, yn dathlu ei phen-blwydd yn 5 oed ar ôl hanner degawd cyffrous ond heriol i'r sector.

Ers ei sefydlu yn 2020, mae Cymru Greadigol wedi bod yn falch o gefnogi ystod o lwyddiannau rhyngwladol ar draws y sectorau creadigol – o gefnogi cwmnïau gemau cartref sydd wedi cyrraedd brig y siart ffrydio byd-eang, i ffilmiau Hollywood a ffilmiwyd yng Nghymru gan ddefnyddio talent leol.

Rhagwelir y bydd y £28.6m o gyllid cynhyrchu y mae Cymru Greadigol wedi'i fuddsoddi hyd yma yn dod â £342m o wariant ychwanegol i economi Cymru, sy'n golygu am bob £1 sy'n cael ei buddsoddi yn y sector sgrin, mae Cymru Greadigol wedi gweld bron i £12 yn cael ei fuddsoddi yn economi Cymru.

Y sectorau â blaenoriaeth - teledu a ffilm, cerddoriaeth, gemau, animeiddio a chyhoeddi - yw asgwrn cefn y diwydiant ffyniannus hwn a wnaed yng Nghymru, gan gyflogi ar y cyd dros 35,000 o unigolion dawnus.

Mae'r sector yng Nghymru yn parhau i dyfu ei enw da rhyngwladol am ragoriaeth. Dyma 5 peth y mae Cymru Greadigol wedi bod yn falch o fod yn rhan ohonynt yn ystod ei 5 mlynedd gyntaf.

1. Mae rhai o sioeau teledu a ffilmiau gorau'r DU yn cael eu gwneud yng Nghymru

O House of the Dragon HBO i’r gomedi/drama Sex Education ar Netflix a Young Sherlock a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar Amazon mae rhai rhaglenni teledu llwyddiannus iawn wedi cael eu ffilmio yng Nghymru diolch i gefnogaeth Cymru Greadigol.

A hynny heb sôn am ein cwmni cynhyrchu byd-eang ein hunain, Bad Wolf, sydd eleni yn nodi deng mlynedd o ddarparu swyddi cynaliadwy a chyfleoedd hyfforddi o'u canolfan yng Nghaerdydd ac a fydd yn rhyddhau eu drama ddiweddaraf Dope Girls yn fuan.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd Bad Wolf, Jane Tranter:

"Hoffwn longyfarch Cymru Greadigol ar ei phen-blwydd yn 5 oed!  Mae Bad Wolf yn falch o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud mewn partneriaeth â Cymru Greadigol dros y 5 mlynedd diwethaf. 

"Pan benderfynon ni sefydlu Bad Wolf yng Nghymru 10 mlynedd yn ôl, roedd hynny gyda'r nod o helpu i greu diwydiant teledu cynaliadwy yma a fyddai'n creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi 365 diwrnod y flwyddyn.  Ers ei sefydlu, mae Cymru Greadigol wedi bod yn bartner beiddgar a ffyddlon wrth helpu i gyflawni'r nod hwn."

Ond nid ein sgriniau teledu yn unig sy'n arddangos ein lleoliadau eiconig - mae'r ffilmiau y mae disgwyl mawr amdanynt sef Madfabulous, Mr Burton a ffefryn 2023 y beirniaid, Chuck Chuck Baby i gyd yn hanu o Gymru.

2. Adeiladu gweithlu - mwy na 420 o hyfforddeiaethau a phrentisiaethau hyd yma

Un o brif flaenoriaethau Cymru Greadigol yw helpu'r sector i hyfforddi, uwchsgilio ac amrywio ei weithlu, gan ddarparu cyfleoedd am swyddi o safon i bobl sy'n byw yng Nghymru a helpu i sicrhau dyfodol disglair i'r diwydiant yma. Drwy'r Gronfa Sgiliau Creadigol, mae Cymru Greadigol wedi buddsoddi £3m mewn prosiectau sgiliau sy'n helpu i uwchsgilio'r sectorau â blaenoriaeth. Yn ogystal, ers 2020 mae buddsoddiad ei chronfa gynhyrchu wedi darparu 420 o leoliadau a phrentisiaethau ar gyfer hyfforddeion, gan sicrhau piblinell ffyniannus o weithwyr proffesiynol medrus. A beth bynnag yw'r cynhyrchiad, mae cymorth Cymru Greadigol bob amser yn ddibynnol ar ddefnyddio o leiaf 51% o griw Cymreig.

3. Zombies, ditectifs a môr-ladron ... mae ein dewiniaid digidol wedi gwneud y cyfan

Mae Cymru yn prysur ddod yn bwerdy adrodd straeon, creadigrwydd a thalent yn y diwydiannau gemau ac animeiddio. Mewn gwirionedd, gwnaed un o gemau mwyaf llwyddiannus 2024, Sker Ritual, ei gwneud yma. Daeth y gêm arswyd gothig hon, sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn mewn llên gwerin Gymreig, yn un o’r gemau a werthwyd orau ledled y byd ar PC a chonsol ar ôl ei lansio. A dim ond y dechrau yw hynny: mae ein diwydiant yn llawn gemau ac animeiddiadau anhygoel, gyda chwedlau'r Mabinogion wedi'u hailddychmygu, gemau pêl-droed arloesol a gemau antur - i gyd gan gwmnïau sy'n cael eu cefnogi gan Gymru Greadigol

4. Rhoi gwaith Cymru ar y map

Mae Cymru Greadigol wedi bod yn helpu i roi Cymru ar y llwyfan byd-eang drwy hyrwyddo ein diwydiannau creadigol mewn digwyddiadau rhyngwladol mawr. Mae'r gefnogaeth hon wedi cynnwys cyhoeddwyr cefnogol mewn ffeiriau llyfrau blaenllaw, gan gynnwys Frankfurt a helpu gwneuthurwyr gemau arloesol Cymru i fod yn rhan ganolog o Gynhadledd Datblygwyr Gemau San Francisco i hyrwyddo eu gwaith cyffrous i filoedd o arweinwyr y diwydiant a selogion gemau o bob cwr o'r byd.

5. Cerddoriaeth i'n clustiau, ac i'r rhai sy'n mwynhau yn Texas!

O ddarparu dros £10 miliwn mewn cymorth hanfodol i leoliadau llawr gwlad ledled Cymru, i ddathlu rhagoriaeth gerddorol drwy'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig fawreddog, a hyd yn oed cymryd talent ar draws Môr yr Iwerydd ar gyfer arddangosfa ragorol yn SXSW yn Texas, mae Cymru Greadigol wedi helpu i feithrin a hybu doniau lleisiol a melodig ein cenedl ar lwyfan y byd.

Wedi'u cyhoeddi ddiwedd 2024, mae'r ystadegau diweddaraf ar gyfer y sectorau a gefnogir gan Gymru Greadigol yn dangos bod trosiant blynyddol o £1.5 biliwn wedi'i gynhyrchu yn 2023 yn unig, cynnydd o dros 10% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd uchafbwyntiau eraill yr adroddiad ystadegol hefyd yn dangos bod dros 3,500 o fusnesau creadigol bellach yn gweithredu yng Nghymru, cynnydd o 12% ers 2018.

Dywedodd Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant:

"Mae cenhadaeth Cymru Greadigol yn syml - i wneud ein cenedl yn ganolbwynt sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer creadigrwydd a gwneud hynny drwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth newydd, datblygu sgiliau a darparu buddion economaidd sylweddol i Gymru.

"Er gwaethaf cyfnod heriol i sector y mae heriau fel Covid, streic ysgrifenwyr Hollywood a phrisiau cynyddol wedi effeithio arno, mae'r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn parhau i ffynnu a chyflawni llwyddiannau ledled y byd ac yng Nghymru.

"Dros y 5 mlynedd diwethaf mae Cymru Greadigol wedi bod wrth law i roi'r cymorth sydd ei angen ar y sector, boed hynny'n helpu i ddod â chynyrchiadau byd-eang mawr i Gymru, helpu i adrodd straeon Cymreig dilys drwy ein cwmnïau cynhyrchu annibynnol, buddsoddi mewn lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad neu helpu ein gemau a'n cynyrchiadau i ddatblygu eu syniadau cynnar.

"Rwy'n edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o lwyddiant i'r sector - gan adeiladu ar ein llwyddiannau, ysgogi twf a meithrin, harneisio ac annog piblinell o gyfleoedd a thalent newydd sy'n parhau i ddod i'r amlwg."