Newyddion
Canfuwyd 111 eitem, yn dangos tudalen 10 o 10
“Rwy’n frwd dros sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn ystyried y Diwydiannau Creadigol yn ddewis hygyrch a boddhaus ar gyfer gyrfa” – Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.
Mae’r Diwydiannau Creadigol yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiwylliant ac economi Cymru, gyda throsiant o £2.2 biliwn a gweithlu o 56,000 o bobl cyn COVID-19.
Cip tu ôl i’r llenni ar y cyfnod twf yn y byd teledu yng Nghymru a His Dark Materials 3
Gyda nifer cynyddol o gynyrchiadau teledu'n dewis cael eu lleoli yng Nghymru dros yr haf, cafodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, daith tu ôl i'r llenni yn Wolf Studios Wales yn ddiweddar. Gwelodd â’i llygaid ei hun y manteision i economi Cymru, a’r twf mewn cyflogaeth leol, y mae’r ymchwydd ym myd cynhyrchu teledu wedi’i greu i'r sector creadigol yng Nghaerdydd a thu hwnt.
Llywodraeth Cymru yn chwilio am Lywydd newydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi agor y broses recriwtio ar gyfer swydd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru o fis Ionawr 2022