Treblu cyllid addysg gerddoriaeth i £13.5m
Funding for music education trebled to the tune of £13.5m
Bydd pob plentyn yn cael y cyfle i fanteisio ar addysg gerddoriaeth fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, a fydd yn helpu i sicrhau nad yw un plentyn ar ei golled oherwydd diffyg arian.
Treblu cyllid addysg gerddoriaeth i £13.5m
Bydd pob plentyn yn cael y cyfle i fanteisio ar addysg gerddoriaeth fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, a fydd yn helpu i sicrhau nad yw un plentyn ar ei golled oherwydd diffyg arian.
Wrth i’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddorol yng Nghymru gael ei gyhoeddi, mae’r Gweinidog Addysg wedi cadarnhau y caiff cyllid ei dreblu, gan fuddsoddi £13.5m dros y tair blynedd nesaf.
Bydd y cynllun yn sicrhau bod mynediad at addysg gerddoriaeth yn decach ac yn fwy cyson ledled Cymru, gyda ffocws penodol ar ddysgwyr o gartrefi incwm isel a’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd cefnogaeth ar gael i blant a phobl ifanc fanteisio ar wersi cerddoriaeth a gwella eu sgiliau, ac i ddysgwyr o gefndir difreintiedig a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gael ymuno ag ensembles cerddoriaeth.
Mae’r cynllun yn cynnwys nifer o raglenni gwaith allweddol, megis:
- Adolygiad o delerau ac amodau tiwtoriaid cerddoriaeth, i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg a’u cydnabod yn briodol
- Rhaglen ‘Profiadau Cyntaf’ i gynnig o leiaf hanner tymor o sesiynau blasu gydag offerynnau cerdd i blant cynradd, dan arweinyddiaeth ymarferwyr medrus sydd wedi’u hyfforddi
- Menter ‘Creu Cerddoriaeth Gydag Eraill’, gan gynnwys cyfleoedd i blant a phobl ifanc ysgolion uwchradd i gael profiad yn y diwydiant drwy weithio ochr yn ochr â cherddorion a diwydiannau creadigol
- Cronfa genedlaethol newydd o offerynnau a chyfarpar er mwyn rhannu’r adnoddau hyn ledled Cymru.
Caiff y rhaglenni hyn eu rhoi ar waith o fis Medi 2022, gan gefnogi ysgolion a lleoliadau i roi’r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc o 3 i 16 oed i ddysgu chwarae offeryn yn ogystal â chanu a chreu cerddoriaeth yn ein hysgolion a’n cymunedau.
Bydd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn gweithredu fel canolbwynt, a bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydlynu rhaglenni’r Gwasanaeth gydag amrywiaeth eang o sefydliadau. Bydd yn helpu ysgolion a lleoliadau i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a darparu cyfleoedd mwy amrywiol i blant a phobl ifanc i gael profiad o gerddoriaeth y tu allan i ysgolion a lleoliadau.
Ymwelodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, ag Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol San Joseff yn Abertawe i weld clwstwr o blant cynradd yn cymryd rhan mewn sesiwn gydchwarae dan arweiniad Gwasanaeth Cerddoriaeth Abertawe.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Mae sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yng Nghymru yn ymrwymiad pwysig yn ein Rhaglen Lywodraethu, a dw i wrth fy modd ein bod ni’n cyflawni’r addewid hwn.
“Roedd dysgu chwarae offeryn yn elfen ffurfiannol yn fy magwraeth i, a ddylai diffyg arian ddim bod yn rhwystr i unrhyw berson ifanc sydd am ddysgu chwarae cerddoriaeth. Rydyn ni’n ffodus yng Nghymru bod gyda ni draddodiad cryf o ensembles ar lefel ysgol, sir a chenedlaethol, ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein plant a’n pobl ifanc yn gallu chwarae rhan lawn yn y rhain. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion ac o fewn y gymuned i feithrin ein doniau cerddorol ifanc.”
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Ein gweledigaeth yw y bydd pob plentyn a pherson ifanc ledled Cymru, beth bynnag ei gefndir, yn cael y cyfle i ddysgu chwarae offeryn.
“Dw i’n cofio mor bwysig oedd gallu cael gwersi cerddoriaeth pan oeddwn i yn yr ysgol, dysgu’r bariton a chwarae mewn ensembles pres. Dw i am wneud yn siŵr bod pawb yn cael y cyfle i gael gwersi cerddoriaeth – yn rhy aml y dyddiau hyn, mae’r cyfle i ddysgu offeryn a datblygu sgiliau cerddorol yn cael ei gyfyngu gan gost a ph’un a yw rhieni yn gallu ei fforddio. Felly rydyn ni’n gwneud y buddsoddiad sylweddol hwn i ddarparu amrywiol weithgareddau i’n plant a’n pobl ifanc, fel y cân nhw ddysgu am y llawenydd sy’n dod o gerddoriaeth a chael profiad ohono.
“Bydd datblygu’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn sicrhau ein bod ni’n meithrin ein cenhedlaeth nesaf ac yn parhau i greu talent newydd yng Nghymru y gallwn ei arddangos gerbron y byd.”
Dywedodd Prif Weithredwr CLlLC, Chris Llewelyn:
“Mae cael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r gwasanaeth hollbwysig hwn i blant ledled Cymru yn destun balchder inni. Mae llawer o deuluoedd yng Nghymru yn methu â fforddio offeryn cerdd, a bydd y cyllid hwn yn mynd ffordd bell i agor drysau i blant ledled Cymru, gan roi’r cyfle iddyn nhw ddysgu chwarae offeryn.
“Mae chwarae offeryn a darllen cerddoriaeth yn sgil bwysig iawn i blentyn, ac mae cerddoriaeth yn dod â llawenydd aruthrol iddyn nhw. Mae awdurdodau lleol yn dweud y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i blant ledled Cymru gael gafael ar offerynnau, ac y bydd y cynllun hwn yn datblygu llawer o gerddorion talentog i’r dyfodol, ac yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau cerddorol.”
Nodiadau i olygyddion
The National Plan for Music Education in Wales will be published here on Tuesday 17th May
The Welsh Government’s Programme for Government 2021-2026 includes a commitment to ‘Establish a National Music Service’.
Since 2018/19, current baseline Welsh Government funding for music services and music ensembles support has been £1.5m per annum. This announcement is for an additional £3m funding per annum, taking the overall level of funding for music education provision to £4.5m per financial year for the next three years.
£6.82m in funding to provide additional music resources to schools was announced by the Education and Welsh Language Minister Jeremy Miles in December 2021.