Cymru’n serennu ar y sgrîn gyda chymorth gan gronfa newydd ar gyfer cynyrchiadau
Lights, Camera, Action! New production fund makes Wales star of the screen
Mae Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, wedi cyhoeddi heddiw y bydd mwy o gefnogaeth ar gael i ffilmiau i gael eu gwneud yng Nghymru diolch i becyn ariannu newydd a symlach gan Lywodraeth Cymru a fydd yn helpu i greu swyddi o safon yn y sector ac yn rhoi hwb o o leiaf £12m i economi Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.
Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad yn ystod anerchiad i Uwchgynhadledd Sgrin gyntaf Cymru, a gynhelir yng Nghaerdydd heddiw.
Mae'r gronfa newydd, sy’n ffrwyth cydweithio rhwng asiantaeth greadigol Llywodraeth Cymru sef Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales, ar gael ar gyfer ffilmiau y bwriedir iddynt gael eu dangos mewn theatrau – gyda’r nod penodol o ddatblygu talent a sgiliau.
Bydd y gronfa £1m y flywyddyn yn dechrau derbyn ceisiadau ym mis Gorffennaf, a bydd ar gael am gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd.
Bydd y cytundeb newydd yn arwain at ddull symlach o ariannu, gyda phroses ymgeisio drwy Ffilm Cymru Wales, a fydd yn gweinyddu'r gronfa ar ran Cymru Greadigol.
Bydd hyd at £600,000 ar gael fesul prosiect ar gyfer ffilmiau nodwedd annibynnol y bwriedir eu dangos mewn theatrau, gyda hyd at £400,000 o hyn fel arian grant gan Cymru Greadigol a hyd at £200,000 drwy gronfeydd loteri Ffilm Cymru - y maent yn eu gweinyddu ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd o leiaf £12m yn cael ei sbarduno ar gyfer economi Cymru dros ddwy flynedd gyntaf y trefniant rhwng Cymru Greadigol a Ffilm Cymru, gan roi hwb i gymuned greadigol, cast, criw, gwasanaethau a chyfleusterau o'r radd flaenaf Cymru yn dilyn heriau pandemig COVID-19.
O dan reolaeth Ffilm Cymru, bydd ffocws o hyd ar ffilmiau sy'n cynnwys awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr o Gymru neu sydd wedi'u geni yng Nghymru neu rai sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
"Ers ei sefydlu, mae Cymru Greadigol wedi bod yn adolygu ei dull o wella a chynyddu ei chefnogaeth i gynhyrchiadau teledu a ffilm, ac mae cyllid newydd ar gyfer cynyrchiadau teledu a gemau hefyd ar gael nawr. Mae'r pecyn buddsoddi newydd a gwell hwn ar gyfer ffilm yw’r cam diweddaraf mewn cyfres o well fuddsoddiadau ar gyfer y sector.
"Bydd y dull newydd hwn o gynhyrchu ffilm yn rhoi hwb i’r diwydiant cynhyrchu ffilmiau yng Nghymru, gan ysgogi twf yn nifer ac amrywiaeth y cynyrchiadau a wneir yng Nghymru, tra hefyd yn sicrhau'r effaith economaidd fwyaf posibl ar yr economi leol, yn gwella cyfleoedd cyflogaeth, yn cefnogi datblygiad gweithlu medrus ymhellach, ac yn dangos ymhellach ragoriaeth Cymru ar y sgrin drwy ein talent o'r radd flaenaf, criwiau, cyfleusterau a lleoliadau unigryw.
"Mae'r bartneriaeth unigryw hon rhwng Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales, yn dilyn y Memoranda Cyd-ddealltwriaeth diweddar gyda'r BBC ac S4C, yn enghraifft arall o sut mae ein dull partneriaeth yn sbarduno twf a datblygiad talent o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru."
Croesawodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Ffilm Cymru y datblygiad diweddaraf hwn gan ddweud:
"Ar ôl gweithio'n uniongyrchol gyda gwneuthurwyr ffilmiau annibynnol o Gymru i helpu i wireddu eu prosiectau ffilm nodwedd, rydym yn falch iawn o gydweithio â Cymru Greadigol ar ein hamcanion cyffredin. Bydd y gronfa gynhyrchu yn parhau i ganoli talent Cymru, tra'n symleiddio mynediad at gyllid ac yn teilwra'r cynnig i anghenion cynhyrchwyr a'r sector ehangach."
Mae'r bartneriaeth newydd hon rhwng Ffilm Cymru a Cymru Greadigol yn adeiladu ar sylfaen o gydweithio creadigol ac economaidd sydd eisoes wedi gweld cyd-ariannu adrodd straeon cartref fel drama arfaethedig Euros Lyn sef Dream Horse a drama newydd Mad as Birds Films, The Almond and the Seahorse, a ysgrifennwyd gan Kaite O'Reilly ac a gyd-gyfarwyddwyd gan Celyn Jones.
Nodiadau i olygyddion
Llun: RAW / Warner Bros UK