English icon English

Eich pasbort i orffennol Cymru

Your passport to Wales’ past

‌Dros y gwyliau hanner tymor fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru sydd ar y gweill mae gemau Nos Galan Gaeaf, pasbortau i antur a dathliadau arswydus.

Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru 2024 yn ddathliad wythnos o hyd o amgueddfeydd ledled Cymru, yn cael ei chynnal o ddydd Sadwrn 26 Hydref tan ddydd Sul 3 Tachwedd gydag ystod eang o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o amgueddfeydd.

Cynhaliwyd yr ŵyl ers 2014 ac mae wedi'i threfnu gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru. Darparwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i 21 amgueddfa ar gyfer digwyddiadau unigol gan gynnwys: gosodwaith Ogof y Ddraig yn Rhaeadr Gwy, treialon Arswyd Calan Gaeaf yn Nyffryn Maes Glas ger Treffynnon, digwyddiad cysgodion a goleuadau ar thema Calan Gaeaf yn oriel Glynn Vivian yn Abertawe, a chrefftau arswydus sy'n gysylltiedig â hanes Calan Gaeaf yng Nghyfarthfa ym Merthyr Tudful.

Gall ymwelwyr hefyd gymryd rhan mewn Her Pasbort yr Amgueddfeydd lle gall plant gael stamp mewn amgueddfeydd sy'n cymryd rhan. Os ydynt yn ymweld ag un amgueddfa mewn hanner tymor, gallant gystadlu mewn raffl er mwyn ennill cit creu cuddfan. Os ydynt yn ymweld â chwe amgueddfa erbyn mis Ebrill, maent yn cael eu cynnwys mewn gwobr i ennill sgwter micro.

Ymwelodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Jack Sargeant, â Pharc Treftadaeth y Rhondda [dydd Mercher 23 Hydref] i edrych ar basbortau eleni ac i weld arddangosfa Aur Du ddigidol newydd y Parc.

Dywedodd:

"Mae'r ŵyl wych hon yn gyfle ardderchog i weld sut y gall cyllid Llywodraeth Cymru, gyda chymorth hanfodol gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, gael effaith wirioneddol ar brofiadau ymwelwyr i hoff amgueddfeydd ein gwlad.

"Rydym yn awyddus i dynnu sylw at y cyfraniadau y mae amgueddfeydd yn eu gwneud ar draws cymunedau Cymru, a chyda chymaint yn cymryd rhan yn yr Ŵyl eleni, mae'n gyfle gwirioneddol i bobl ymweld â'u hamgueddfa leol a chael hwyl yr hanner tymor hwn. 

"Gyda chymaint o amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi'u cynllunio, mae'n siŵr y bydd rhywbeth at ddant pawb."

Dywedodd yr Athro Jane Henderson, aelod o Fwrdd Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru:

"Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn enghraifft wych o berthnasedd ein treftadaeth fel ffocws ar gyfer hwyl i'r teulu, dysgu gydol oes a lles cymdeithasol. Rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn amgueddfeydd Cymru a'u cymunedau, ac yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’n hwythnos gyffrous o ddigwyddiadau. Gobeithiwn y bydd ein hymwelwyr yn ymgymryd â’n her pasbort dwyieithog ac yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn digwyddiadau rhad ac am ddim o fewn mannau cynnes a chlud yn ystod yr hanner tymor ac ymhell i’r dyfodol.”

Fel rhan o Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru, dyfarnwyd dros £130,000 i Barc Treftadaeth y Rhondda y llynedd i ddod â'u harddangosfa ar hanes Cymdeithas Lofaol Cymoedd De Cymru yn fyw mewn 5 iaith, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Mae'r arddangosfa'n cynnwys dros 140 o arteffactau sy'n cael eu harddangos yn ogystal â sgriniau cyffwrdd digidol rhyngweithiol lle y gall ymwelwyr archwilio hanes llafar, clipiau newyddion, llinellau amser, mapiau, ac arteffactau digidol o gyfnod pan oedd glo stêm y Rhondda yn pweru'r byd.