English icon English

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos Ffyniant Creadigol yng Nghymru sy'n rhoi hwb i'r economi

Latest figures show Creative Boom in Wales boosting the economy

Mae adroddiad yn dangos twf iach ar draws dangosyddion allweddol

Mae'r ystadegau diweddaraf ar gyfer 2023 ar sectorau a gefnogir gan Cymru Greadigol yn dangos bod trosiant blynyddol o £1.5 biliwn wedi cael ei gynhyrchu yn ystod 2023, cynnydd o dros 10% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae uchafbwyntiau eraill yn yr adroddiad ystadegol yn dangos:

  • Bod dros 3,500 o fusnesau bellach yn gweithredu yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, cynnydd o 12% ers 2018
  • Bod dros 35,000 o bobl bellach yn cael eu cyflogi o fewn sectorau â blaenoriaeth Cymru Greadigol, yn ogystal â gweithlu llawrydd sylweddol
  • Bod trosiant blynyddol wedi cynyddu ar gyfer y sectorau Teledu a Ffilm, Gemau, Digidol a Cherddoriaeth

Mae'r diwydiannau creadigol yn cael eu cydnabod yn eang fel un o lwyddiannau mawr Cymru, yn dilyn dros ddegawd o fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru ar ôl nodi eu bod yn cynnig potensial sylweddol i Gymru ar gyfer twf. 

Sefydlwyd Cymru Greadigol gan Lywodraeth Cymru yn 2020, ac mae wedi cefnogi sectorau creadigol â blaenoriaeth i gynnal momentwm a thyfu yn ystod cyfnod arbennig o anwadal i'r economi a'r sector oherwydd heriau diwydiant a byd-eang, gan gynnwys y pandemig.

Mae sawl cynhyrchiad a gefnogir gan Cymru Greadigol wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar fel: cyfres Netflix boblogaidd Sex Education; House of the Dragon gan HBO (rhaghanes i Game of Thrones); Lost Boys & Fairies gan y BBC; ffilm nodwedd sydd wedi ennill BAFTA, sef Chuck Chuck Baby; darlledu Gemau Paralympaidd 2024 o bell o Ganolfan Ddarlledu Cymru yng Nghaerdydd; ac enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eleni, Lemfreck. Mae Wales Interactive, y cwmni gemau o Gymru y tu ôl i'r gêm arswyd Gothig ysgubol boblogaidd Sker Ritual, hefyd wedi derbyn cymorth gan Cymru Greadigol.

Hwb economaidd

Ers iddi gael ei sefydlu, mae cynyrchiadau a gefnogir gan Cymru Greadigol wedi cyfrannu at £313 miliwn disgwyliedig o wariant amodol i economi Cymru (ar bopeth o gyflogaeth a datblygu sgiliau i setiau ffilmio a thwf busnes) drwy fuddsoddiadau gwerth £26.5 miliwn mewn cyllid cynhyrchu yn unig.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans:

"Dylen ni fod yn gweiddi o'r toeau am gryfder a llwyddiant ein diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae'r ffigurau hyn yn dangos yr hyn yr oedden ni eisoes yn ei amau – bod y sectorau ffilm a theledu, cerddoriaeth, gemau, digidol, animeiddio a chyhoeddi bellach yn gyflogwyr pwysig yma, gyda throsiant a swyddi yn tyfu ar gyfradd sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru.

"Yn ogystal â darparu cymorth ariannol, mae gan Cymru Greadigol hanes o gefnogi talent leol a denu prosiectau creadigol rhyngwladol. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi mynd â chwmnïau o Gymru i gynadleddau, gwyliau a ffeiriau masnach mawr yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop, gyda rhagor wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol.

"Roeddwn i wrth fy modd bod adroddiad diweddar gan Ffederasiwn Busnesau Bach yn cynnwys adborth gan y sector ynghylch yr effaith gadarnhaol y mae Cymru Greadigol yn ei chael. Gall busnesau creadigol fod yn sicr y byddwn ni, drwy Cymru Greadigol, yn parhau i weithio'n agos gyda nhw i helpu i sicrhau bod gan y sector ddyfodol bywiog, cynaliadwy ac iach."

Mae'r ffigyrau'n dangos bod 3,595 o fusnesau yn gweithredu yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru erbyn hyn, cynnydd o 11.8% o'u cymharu â ffigyrau 2018 (o'i gymharu â chynnydd o 3.5% yn nifer y busnesau ar draws economi Cymru). Mae'r sectorau â blaenoriaeth a gefnogir gan Cymru Greadigol yn darparu swyddi i 35,100 o bobl yng Nghymru (yn ogystal â gweithwyr llawrydd) – cynnydd o 8% o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol, sydd eto'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru.

Fe wnaeth y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru ar ei ben ei hun ddarparu trosiant o £460 miliwn i Gymru yn ystod 2023. Mae cynyrchiadau llwyddiannus fel House of the Dragon, Men Up a Lost Boys & Fairies wedi arddangos lleoliadau Cymru eto eleni, ac wedi helpu i adeiladu enw da byd-eang Cymru ymhellach fel lle o'r radd flaenaf i wneud rhaglenni teledu a ffilmiau ardderchog.

Eleni fe wnaeth Cymru Greadigol hefyd gefnogi Canolfan Ddarlledu Cymru newydd a fydd yn darparu llu o gynyrchiadau chwaraeon a chynyrchiadau eraill o Gaerdydd dros y tair blynedd nesaf, gyda ffocws gwirioneddol ar adeiladu'r sylfaen sgiliau. Yn ystod y darllediad cyntaf o'r ganolfan ym mis Awst, cafodd miloedd o oriau o ffilm o bell o Gemau Paralympaidd 2024 ym Mharis eu ffrydio o Gaerdydd i wylwyr Channel 4 ar draws ystod o sianeli.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod sectorau digidol a cherddoriaeth Cymru hefyd yn perfformio'n dda. Cynhyrchodd y sector digidol drosiant o £303 miliwn yn 2023, a chynhyrchodd y sector cerddoriaeth £262 miliwn, gyda ffigyrau'n awgrymu bod trosiant y ddau sector wedi cynyddu'n sylweddol o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. 

Hwb sgiliau

Y tu hwnt i'w heffaith economaidd, mae cynyrchiadau a gefnogir gan Cymru Greadigol hefyd yn cyfrannu at ddatblygu gweithlu creadigol Cymreig sy'n fwyfwy medrus ac amrywiol. Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Sgiliau:

"Mae buddsoddiadau Cymru Greadigol bob amser yn cael eu targedu at gryfhau'r diwydiant yn y tymor hir – er enghraifft drwy brentisiaethau a lleoliadau uwchsgilio. Mae'r buddsoddi hwn mewn datblygu sgiliau yn allweddol i gynnal a datblygu diwydiant sydd â chymaint o botensial inni fel cenedl.

"Roeddwn i'n falch iawn o gyhoeddi 17 o dderbynwyr o dan yr ail Gronfa Sgiliau Creadigol fis diwethaf, ar ôl i dros 27,000 o bobl elwa ar y rownd gyntaf, gyda bron i 500 o gyrsiau hyfforddi a 435 o leoliadau uwchsgilio wedi'u darparu. Bydd mentrau fel hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i greu cyfleoedd cyffrous a gwerth chweil yn y sector ffyniannus hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."