Ehangu’r defnydd o Bàs COVID y GIG i helpu cadw Cymru ar agor dros y gaeaf
Extension of COVID Pass to help keep Wales open this winter
Yn dechrau heddiw [Dydd Llun 15] bydd angen Pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru.
Mae ymestyn y Pàs COVID yn un o nifer o fesurau sydd wedi’u cryfhau i helpu i gadw pobl yn ddiogel a busnesau ar agor tra bod Cymru'n parhau i fod ar lefel rhybudd sero er bod achosion o coronafeirws yn uchel iawn.
Mae'r canllawiau ar hunanynysu hefyd wedi'u newid ac mae pobl yn cael eu hannog i weithio gartref i helpu i ddod â'r feirws dan reolaeth.
Cafodd estyniad y Pàs ei gymeradwyo gan Aelodau'r Senedd mewn pleidlais ar 9 Tachwedd.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
“Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yng Nghymru yn uchel iawn ar hyn o bryd ac mae angen i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd i ddod â’r niferoedd dan reolaeth.
“Mae ehangu’r defnydd o Bàs COVID y GIG i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yn ffordd arall o gryfhau’r mesurau sydd gennym ar waith i’n diogelu ni i gyd.
“Rwy’n deall yr heriau y mae’r sector hwn wedi’i wynebu yn ystod y pandemig. Serch hynny, nod y mesurau yw cadw’r busnesau hyn ar agor yn ystod misoedd anodd yr hydref a’r gaeaf sydd o’n blaenau. Rydyn ni am wneud popeth y gallwn ni i gadw Cymru ar agor ac yn ddiogel a rhoi hyder i bobl barhau i allu mynd i’r lleoliadau hyn unwaith eto.”
Mae’r sinemâu, y theatrau a’r neuaddau cyngerdd yn lleoliadau o dan do lle mae niferoedd mawr o bobl yn treulio cyfnodau hir o amser yn agos at eu gilydd.
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:
"Cyflwynwyd y Pàs COVID ychydig dros fis yn ôl ar gyfer mynediad i glybiau nos a digwyddiadau dan do ac awyr agored mwy. Mae'r adborth a gawsom yn awgrymu bod y system yn gweithio'n dda.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sectorau sy'n cyflwyno'r Pàs i'w cefnogi."
I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://llyw.cymru/cael-eich-pas-covid-y-gig
Nodiadau i olygyddion
Covid Pass assets available on this link: Published Assets (assetbank-server.com)