Y Prentis
I’m an Apprentice….
Fel rhan o raglen prentisiaethau, mae Chloe Koffler, 24 mlwydd oed o Brestatyn, wedi cael profiad o weithio ar yr 21ain gyfres o I’m a Celebrity Get me Out of Here ar ITV – rhywbeth sydd wedi ei hysbrydoli i ddilyn gyrfa yn y byd ffilm a theledu.
Mae cynllun prentisiaid ffilm a theledu Criw yn cael ei redeg gan ddarparwyr hyfforddiant yng Nghymru, sef Sgil Cymru ar ran Grŵp Llandrillo-Menai. Cychwynnodd y grŵp cyntaf o chwe phrentis ar y daith ym mis Hydref eleni. Mae Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r math newydd hwn o brentisiaeth, sy’n agored i bawb sy’n awyddus i weithio y tu ôl i’r llenni ar gynyrchiadau ffilm a theledu.
Yn ystod ei chyfnod ar y cynhyrchiad, bu Chloe yn gweithio gyda’r tîm ‘Covid a’r Gymuned’, a oedd yn cynnwys gwaith yn ymwneud â sicrhau bod y cynhyrchiad yn ddiogel o ran Covid, profi’r criw, cadw llygaid ar arwyddion Covid o amgylch y safle, a chynorthwyo i sicrhau bod y systemau a’r gweithdrefnau Covid yn rhedeg yn ddidrafferth. Roedd digon i gadw’r criw yn brysur, gan fod storm Arwen wedi taro arfordir y Gogledd, ac wedi amharu ar y sioe am rai nosweithiau.
Dywedodd Chloe: “Y tu ôl i’r llenni, roedd pawb yn gweithio gyda’i gilydd i ddelio â’r argyfwng yn effeithlon. Roedd hynny, ynghyd â gwaith tîm proffesiynol a diflino gan bawb ar y safle, wedi caniatáu i’r sioe fynd yn ôl ar yr awyr mewn ychydig ddyddiau.”
Mae Criw yn darparu lleoliadau ar gynyrchiadau amrywiol dros gyfnod o 12 mis, gyda chyflog i gefnogi’r rhai sy’n rhan o’r cynllun wrth iddynt ddysgu. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y Warant i Bobl Ifanc i gynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, ac i gynyddu’r defnydd o radd-brentisiaethau er mwyn rhoi llwybrau mwy hyblyg i bobl gael gafael ar hyfforddiant a gyrfa.
Wrth sôn am ei dyheadau i’r dyfodol, dywedodd Chloe: “Mae cael y cyfle i weithio ar I’m a Celebrity gyda’r tîm ‘Covid a’r Gymuned’ wedi caniatáu i mi gwrdd â phobl o bob adran. Drwy wneud hynny, sylweddolais y byddwn wrth fy modd yn gweithio ym maes sgript. Wedi dweud hynny, rwyf hefyd am gael cymaint o brofiad ag y medraf drwy fy lleoliadau gyda Sgil Cymru. Rwy’n credu y bydd hyn yn fy rhoi mewn sefyllfa dda i gael gyrfa yn y diwydiant ffilm a theledu.”
Mae tri phrentis arall wedi bod yn gweithio yn Rondo Media yng Nghaernarfon. Dywedodd Alwyn Davies, Cyfarwyddwr Cyllid, Rondo Media: “Yma, yn Rondo, rydym yn falch o gael rhoi cyfle i brentisiaid Sgil Cymru, a hynny er mwyn rhoi profiad gwerthfawr iddynt ar gynyrchiadau fel Sgorio a Rownd a Rownd, ond hefyd er mwyn rhoi profiad iddynt o’n cyfleusterau ôl-gynhyrchu a darlledu y tu allan. Mae’n hanfodol ein bod ni, yn y Gogledd, yn manteisio ar dwf y diwydiant a’n bod yn ceisio’n gorau glas i ddatblygu cenhedlaeth newydd o dalent a fydd yn gallu mynd o nerth i nerth mewn gyrfaoedd llwyddiannus yma.”
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: “Rydym eisiau magu hyder pobl ifanc i ganfod swyddi da yn agos i lle maent yn byw, ac mae prentisiaethau yn ffordd wych o wneud hyn. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ni feithrin y dalent a’r sgiliau sydd eu hangen ar y sector hwn yn y dyfodol, fel sector sy’n tyfu’n gyflym. Rwyf eisiau sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn edrych ar y diwydiannau creadigol fel dewis gyrfa hygyrch sy’n rhoi boddhad, gan roi cyfleoedd gwaith i bobl ifanc Cymru yn y dyfodol mewn sector sy’n darparu cynnwys gwerth ei gael, sy’n gwasanaethu pob cynulleidfa ac sy’n allweddol i’n twf economaidd i’r dyfodol.”
Nodiadau i olygyddion
Llun: ITV / Shutterstock.com