English icon English
library -4

Llywodraeth Cymru yn chwilio am Lywydd newydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Welsh Government seeks new President for the National Library of Wales

Mae Llywodraeth Cymru wedi agor y broses recriwtio ar gyfer swydd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru o fis Ionawr 2022

Mae hon yn swydd, strategol, ddylanwadol ac uchel ei phroffil yn y sector diwylliannol yng Nghymru.

Bydd y Llywydd newydd yn ymuno â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod cyfnod o newid, wrth i ganfyddiadau'r adolygiad wedi'i deilwra, a gafodd ei gynnal yn 2020, gael sylw ac wrth i'r Llyfrgell ddechrau rhoi ei chynllun strategol pum mlynedd newydd ar gyfer 2021–2026 ar waith.

Mae'r Llywydd yn atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, ac mae'n gyfrifol am berfformiad y Llyfrgell Genedlaethol ac am gyflawni ei blaenoriaethau strategol.

Ar gyfer y cyfnod cyn i'r Llywydd newydd gael ei benodi, mae Ashok Ahir wedi cael ei benodi yn Llywydd Dros Dro newydd Bwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: "Mae Ashok yn gaffaeliad gwerthfawr i'r Bwrdd, a hoffwn i ddiolch iddo fe am gytuno i gyflawni'r rôl wrth inni recriwtio Llywydd newydd.

“Hoffwn i ddiolch hefyd i Meri Huws am ei hymrwymiad fel Llywydd dros dro. Yn ystod ei chyfnod yn y rôl mae Meri wedi bod yn ffrind, eiriolwr a hyrwyddwr y Llyfrgell yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes y sefydliad.

“Diben Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth amrywiol yn hygyrch i bawb at ddibenion dysgu, ymchwilio a mwynhau – ac rydyn ni’n chwilio am unigolyn eithriadol sy'n gallu gwella cyrhaeddiad, dylanwad ac effaith y Llyfrgell yng Nghymru, ledled y DU, ac yn rhyngwladol.”

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol. Rhaid i bob ymgeisydd ddangos ymrwymiad clir i Gymru ddwyieithog. Y dyddiad cae ar gyfer ceisiadau yw 13 Hydref 2021 am 18:00.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn recriwtio Is-lywydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Nodiadau i olygyddion

  • Rhoddodd Meri Huws y gorau i’w rolau fel Llywydd dros dro, Is-lywydd ac Ymddiriedolwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gynnar ym mis Awst.
  • Mae Ashok Ahir yn arweinydd sector cyhoeddus profiadol a chanddo gefndir eang yn y celfyddydau, diwylliant a’r diwydiannau creadigol. Ar hyn o bryd fe yw Llywydd a Chadeirydd Bwrdd Rheoli Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru ers cryn amser. Ac yntau yn arbenigwr mewn llywodraethu, gwleidyddiaeth a’r cyfryngau, ac yn meddu ar wybodaeth arbenigol o faterion datganoledig yn y DU, mae hefyd yn aelod o bwyllgorau cynghorol British Council Cymru a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru.