English icon English

Pryder am y broses o ddewis Cadeirydd nesaf Ofcom

Concern over process to select next Chair of Ofcom

Mynegwyd pryderon dwys ar y cyd gan Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru ynghylch y broses o ddewis Cadeirydd nesaf Ofcom, a sut y gallai gael effaith andwyol ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.

Mewn llythyr at Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Nadine Dorries, mae Gweinidogion o'r Alban a Chymru wedi gofyn am gael eu cynnwys yn y broses a rôl sy'n sicrhau bod yr ymgeisydd a ddewiswyd yn "rhywun sy'n gallu gweithio'n ddiduedd ac yn annibynnol er budd yr holl genhedloedd."

Fe'i llofnodwyd gan Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth yr Alban Angus Robertson a'r Ysgrifennydd Cyllid a'r Economi Kate Forbes a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden, a'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Lee Waters.

Mae'n dweud bod y ddwy lywodraeth yn "bryderus iawn am y diffyg didueddrwydd a thryloywder canfyddedig o'r prosesau penodi presennol yn Ofcom."

Mae'r llythyr yn ychwanegu:

"O ystyried pwysigrwydd darlledu gwasanaeth cyhoeddus i'n cenhedloedd, a'r effaith wirioneddol ar ein cenhedloedd o unrhyw benderfyniad ar ddewis Cadeirydd Ofcom nad yw'n dryloyw nac yn ddiduedd, rydym yn eich annog i'n cynnwys yn llawn yn y broses fel sy'n iawn i ddiogelu system sydd mor bwysig i'r cyhoedd yng Nghymru a'r Alban a'r DU gyfan."