Newyddion
Canfuwyd 91 eitem, yn dangos tudalen 6 o 8

Wolf – drama ias a chyffro oriau brig newydd gan BBC One, sydd â’i gwreiddiau yng Nghymru
Mae drama ias a chyffro oriau brig newydd gan BBC One yn cael ei ffilmio ar draws De Cymru. Heddiw, cafodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, gipolwg y tu ôl i’r camerâu yn stiwdios eiconig Enfys yng Nghaerdydd – a chyfarfu â’r hyfforddeion sy’n gweithio ar y cynhyrchiad.

Nofio am ddim yng Nghymru ar gyfer y Lluoedd Arfog
Ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cynllun Nofio am Ddim ar gyfer y Lluoedd Arfog yn parhau.

Ras yn erbyn amser i ddadorchuddio’r gorffennol
Heddiw, ymwelodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, â Phorth y Rhaw, Tyddewi, lle mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn arwain tîm i ddysgu mwy am y safle – sy'n cael ei golli'n gyflym i'r môr oherwydd erydu arfordirol.

Cymru’n serennu ar y sgrîn gyda chymorth gan gronfa newydd ar gyfer cynyrchiadau
Mae Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, wedi cyhoeddi heddiw y bydd mwy o gefnogaeth ar gael i ffilmiau i gael eu gwneud yng Nghymru diolch i becyn ariannu newydd a symlach gan Lywodraeth Cymru a fydd yn helpu i greu swyddi o safon yn y sector ac yn rhoi hwb o o leiaf £12m i economi Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

Cyhoeddi Panel Arbenigol ar Ddatganoli Darlledu
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi aelodau panel arbenigol newydd i baratoi'r ffordd ar gyfer datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru.

Dros £750,000 ar gyfer llyfrgelloedd, amgueddfeydd yng Nghymru
Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi ymweld ag Amgueddfa Caerdydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd i gyhoeddi cyllid gwerth ychydig dros £750,000 i helpu llyfrgelloedd ac amgueddfeydd lleol i ddatblygu eu cyfleusterau a’u gwasanaethau.

Cynlluniau newydd i helpu ffoaduriaid a phobl o Wcráin i integreiddio yng Nghymru
Bydd Tocyn Croeso yn galluogi ffoaduriaid a phobl o Wcráin i deithio yn rhad ac am ddim ar fysiau a byddant hefyd yn cael mynediad rhad ac am ddim i safleoedd Cadw ar draws Cymru.

Dirprwyaeth Cymru Greadigol wrthi’n llwytho... yn barod ar gyfer Cynhadledd fyd-eang ar Ddatblygu Gemau
Diolch i gymorth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, mae dirprwyaeth o wyth sy’n cynrychioli’r prif gwmnïau datblygu gemau a meddalwedd yng Nghymru yn mynd i San Francisco gyda Cymru Greadigol ar gyfer cyfarfod blynyddol mwyaf y diwydiant gemau.

Llywydd ac Is-lywydd newydd wedi’u Penodi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi penodiad Llywydd ac Is-lywydd newydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

£22m o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ailddatblygiad Theatr Clwyd
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau hyd at £22m o gyllid cyfalaf ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu Theatr Clwyd.

Penodi'r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru
Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden bod y Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi'i phenodi'n Gadeirydd newydd Chwaraeon Cymru.

Gaeaf Llawn Lles – Gweithgareddau chwaraeon i helpu pobl ifanc i gadw’n heini yn y gaeaf.
Fel rhan o’r rhaglen Gaeaf Llawn Lles, rhoddwyd cyfle i blant ledled Cymru i roi tro ar weithgareddau chwaraeon dros wyliau’r hanner tymor.