Mae Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru wedi bod yn llinell fywyd i'r sector, yn ôl adroddiad newydd
Wales’ Cultural Recovery Fund provided a lifeline to the sector – new report
- Dywedodd 94% o sefydliadau diwylliannol Cymru a holwyd fod y Gronfa Adferiad Diwylliannol, gwerth £108 miliwn, wedi chwarae rhan yn eu gallu i oroesi
- Helpodd y Gronfa i ddiogelu 2,700 o swyddi
- Chwaraeodd Cronfa Gweithwyr Llawrydd gyntaf y DU rôl hanfodol wrth gefnogi gweithwyr llawrydd i barhau i weithio yn eu sector.
Roedd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, a oedd yn werth £108 miliwn, yn hanfodol i allu llawer o sefydliadau diwylliannol yng Nghymru i oroesi yn ystod pandemig COVID, a helpodd i ddiogelu 2,700 o swyddi cyfwerth â llawnamser, yn ôl adroddiad newydd.
Yn ystod pandemig COVID yn 2020–2021 lansiodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Adferiad Diwylliannol, cronfa a oedd yn rhoi cymorth ariannol i'r sectorau diwylliannol, creadigol a digwyddiadau ledled Cymru.
Dywedodd 94% o'r sefydliadau a holwyd ar gyfer adroddiad gwerthuso a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod y Gronfa wedi chwarae rhan yn eu gallu i oroesi – gyda 57% yn dweud ei bod wedi bod yn hanfodol iawn i’w gallu i oroesi.
Gyda'r arian a gawson nhw, datblygodd dros hanner y sefydliadau creadigol a diwylliannol weithgareddau neu wasanaethau newydd mewn ymateb i'r pandemig, gan olygu bod y Gronfa wedi galluogi dyfeisgarwch yn ogystal â chefnogi sefydliadau i ddatblygu meysydd busnes newydd ac arallgyfeirio eu ffrydiau refeniw. Mae gan hyn y potensial i wella cadernid y sector i reoli tarfu a chyfyngiadau gweithredol sy'n gysylltiedig â'r pandemig yn y dyfodol.
Byddai ychydig llai na hanner y sefydliadau wedi gorfod defnyddio eu cronfeydd wrth gefn, a gallai hyn fod wedi rhoi llawer mewn sefyllfa weithredu ansicr, neu mewn perygl o orfod cau neu fynd i’r wal oherwydd dylanwadau economaidd yn y dyfodol.
Dywedodd llawer o weithwyr llawrydd fod y cyllid wedi rhoi amser iddyn nhw ystyried eu harferion creadigol a nodi cyfleoedd yn y dyfodol. Ar gyfer rhai, roedd y Gronfa yn caniatáu iddyn nhw brynu offer newydd neu ddiweddaru eu cyfleusterau.
Dywedodd tua thraean o weithwyr llawrydd a holwyd y bydden nhw wedi gadael y sector yn llwyr pe na baen nhw wedi cael y cyllid, gyda chyfran debyg yn dweud y bydden nhw wedi chwilio am gyflogaeth arall dros dro y tu allan i'r sector. Dim ond un o bob saith a gafodd swydd arall, sy'n dangos bod yr arian wedi helpu i atal ymadawiad torfol o’r sector.
Mae Angharad Jenkins o Abertawe yn gerddor llawrydd ac yn aelod o'r grŵp gwerin Cymraeg Calan. Collodd ei holl waith byw dros nos ac mae wedi defnyddio'r cyllid i addasu ei harferion ac i ddatblygu sgiliau newydd y bydd hi’n parhau i'w defnyddio yn y dyfodol.
Dywedodd Angharad: "Yn ystod y pandemig, ro'n i'n canolbwyntio ar ddatblygu a symud fy ymarfer addysgu preifat ar-lein, ac ro’n i’n cynnal sesiynau cerddoriaeth gyfranogol 1:1 i blant ag anghenion dysgu arbennig drwy Gerddoriaeth Fyw Nawr.
"Y gromlin ddysgu fwyaf i mi oedd dysgu recordio o bell. Ro’n i’n gallu gweithio gyda cherddorion yng ngogledd Cymru, yr Alban, Rhydychen ac mor bell i ffwrdd â Melbourne, Awstralia. Ro’n i hefyd yn gallu cynnig fy sgiliau fel cerddor sesiwn, yn ogystal â chymryd comisiynau cyfansoddi preifat, heb angen gadael y tŷ.
"Dechreuais i ganu ac ysgrifennu caneuon yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Roedd y ffordd arafach o fyw yn fy ngalluogi i feddwl am fy ngwaith mewn modd mwy creadigol. Ro’n i'n wirioneddol ddiolchgar am y llinell fywyd hon, ar adeg mor bryderus. O ganlyniad ro’n i’n gallu parhau i weithio yn y sector creadigol ac erbyn hyn rwy'n mwynhau dychwelyd i ddigwyddiadau byw!".
Roedd yr arian hefyd yn galluogi sefydliadau i gadw mewn cysylltiad â'u gwirfoddolwyr. Amcangyfrifir bod tua 77,000 o rolau gwirfoddol wedi cael eu diogelu drwy'r Gronfa, yn amrywio o gyfleoedd i wirfoddoli unwaith, er enghraifft mewn digwyddiadau cyfranogol mawr, i gyfleoedd gwirfoddoli mwy hirdymor.
Mae'r Gronfa wedi cyfrannu’n uniongyrchol at gefnogi ymdrechion i gynyddu gwirfoddoli ledled Cymru, gan sicrhau amrediad o ganlyniadau cadarnhaol i'r gwirfoddolwyr eu hunain a'r cymunedau maen nhw'n eu cefnogi.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: "Cafodd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru ei lansio fel rhan o ymdrechion i sicrhau ein bod wedi gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod ein sectorau celfyddydol, diwylliant, treftadaeth, digwyddiadau a chreadigol yn goroesi pandemig COVID.
"Aeth y £108 miliwn o gyllid gan y Gronfa Adferiad Diwylliannol ymhell y tu hwnt i'r cyllid canlyniadol a gawsom gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn tynnu sylw at y gwerth sylweddol rydyn ni'n ei roi ar gyfraniad y sector i fywyd Cymru ac i'r economi ehangach.
"Gwnaethon ni hefyd lansio'r Gronfa Gweithwyr Llawrydd cyntaf yn y DU. Roedd y penderfyniad i gynnwys gweithwyr llawrydd fel rhan allweddol o'r Gronfa Adferiad Diwylliannol i gydnabod y rôl hanfodol maen nhw’n ei chwarae yn ein heconomi ac wrth greu a chyflwyno profiadau diwylliannol.
"Roedden ni’n yn cydnabod y bydd angen proffesiynoldeb, profiad, brwdfrydedd a gweledigaeth y gweithwyr proffesiynol hyn yn y sector creadigol a diwylliannol i'n helpu i ddod at ein gilydd ac ailadeiladu ar ôl i'r argyfwng iechyd cyhoeddus ddod i ben. Rwyf wrth fy modd yn gweld bod pobl nawr yn cael y cyfle i weithio yn y sectorau hyn unwaith yn rhagor – ac yn ein helpu ar y daith i adfer."