Y Dirprwy Weinidog yn ymuno â phlant mewn sesiwn ysgrifennu creadigol fel rhan o weithgareddau'r haf
Deputy Minister joins children for creative writing as part of summer activities
Cafodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon y cyfle i ymuno â gweithgareddau Sialens Ddarllen yr Haf a Haf o Hwyl yn Llyfrgell Merthyr yr wythnos hon.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf, sydd yn cael ei arwain gan yr Asiantaeth Ddarllen, yn fenter boblogaidd iawn i sicrhau bod plant yn parhau i ddarllen yn ystod gwyliau'r haf. Eleni mae wedi'i adeiladu o amgylch dysgu STEM o dan y thema Gadgeteers.
Mae llyfrgelloedd ledled Cymru wedi ymuno â rhaglen Hwyl o Haf Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gyfleoedd a gweithgareddau byth ar gyfer plant dros gwyliau'r haf. Yn rhedeg bob dydd o'r gwyliau hyd at fis Medi, maent i gyd wedi'u cynllunio i agor llygaid a dychymyg plant i'r wyddoniaeth o'u cwmpas drwy ddewis eang o weithgareddau wedi'u hysbrydoli gan STEM, hwyl a gemau am ddim a rhaglen o dros 50 o ddigwyddiadau am ddim dan arweiniad hoff awduron plant.
Yr wythnos hon ymunodd Dirprwy Weinidog Dawn Bowden gyda rhieni a phlant am sesiwn gan Karla Brading - yr awdur a'r artist o Ferthyr Tudful.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: "Ces i lawr o hwyl yn y sesiwn heddiw, a gwnes i fwynhau mireinio fy sgiliau ysgrifennu creadigol gyda Karla Barding a'r teuluoedd a oedd yno. Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cefnogi llyfrgelloedd ledled Cymru i wneud darllen yn weithgaredd llawn hwyl ar gyfer plant yng Nghymru – ac i'w dysgu faint o bleser yw darllen ac i sbarduno eu dychymyg."
"Mae teuluoedd ledled Cymru yn teimlo effeithiau'r argyfwng costau byw, a'u llyfrgell yw'r lle perffaith, sydd ar gael am ddim, i fynd iddo i gael antur haf," medd Nicola Pitman, Cadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru a llyfrgell arweiniol yr ymgyrch.
"Rydyn ni wedi darparu rhaglen enfawr o weithgareddau ledled Cymru i helpu i ryddhau dychymyg plant dros fisoedd yr haf. Ac wrth gwrs, llyfrgelloedd yw'r stop cyntaf gorau ar gyfer teuluoedd sydd am ddysgu a chael cyngor ynghylch pethau eraill i'w gwneud yn ystod y gwyliau – a byddan nhw'n parhau i fod. Ac maen nhw'n cael mynd â llyfrau am ddim i'w ddarllen gartref!
Yn ystod 2021, cyrhaeddodd Sialens Ddarllen yr Haf 21,148 o blant ledled Cymru, mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus. Parhaodd yr Her i gyrraedd cryn dipyn dros hanner miliwn o blant ledled y DU wrth i gyfyngiadau symud gael eu llacio, gan annog plant i barhau i ddarllen yn ystod cyfnod anodd. Dywedodd teuluoedd wrth yr Asiantaeth Ddarllen fod cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf wedi helpu eu plant i fwynhau darllen mwy, i deimlo'n fwy cyfforddus ynghylch darllen ac i deimlo'n well yn ystod cyfnod anodd. Cynyddodd nifer y teuluoedd a oedd yn defnyddio llyfrgelloedd ymhlith a rhai a gymerodd ran yn yr Her hefyd, gyda dros 1779 o blant yn ymuno â llyfrgell fel aelodau newydd.
Mae rhagor o wybodaeth am yr Haf o Hwyl ar gael yma https://summerreadingchallenge.org.uk/summer-of-fun