Ymunwch â'r Teclynwyr ar gyfer her ddarllen yr haf
Join the Gadgeteers for a summer reading challenge
Y penwythnos hwn (9 Gorffennaf) bydd Her Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio yng Nghymru - menter boblogaidd iawn i gadw plant i ddarllen dros wyliau'r haf.
Yr haf hwn, gall plant 4-11 oed ymweld â'u llyfrgell leol i gwrdd â'r Teclynwyr ac i gymryd rhan mewn Her Ddarllen yr Haf ar thema gwyddoniaeth ac arloesi.
Drwy gymryd rhan yn yr Her, gyda deunyddiau am ddim o lyfrgelloedd ledled Cymru ac ar-lein drwy wefan yr Her, bydd plant yn gallu ymuno â chwe Teclynwyr ffuglennol. Mae'r cymeriadau – a ddaeth yn fyw gan yr awdur a'r darlunydd plant Julian Beresford – yn defnyddio eu chwilfrydedd a'u hawydd i ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i ystod eang o ddiddordebau, o ffasiwn a thechnoleg i goginio a cherddoriaeth.
Drwy gasgliad o lyfrau cyffrous a gweithgareddau cysylltiedig, bydd y Teclynwyr yn helpu i sbarduno chwilfrydedd plant am y byd o'u cwmpas, ac yn eu hannog i fwydo eu dychymyg dros wyliau'r haf. Byddant yn cael digonedd o ffeithiau gwych, yn syllu ar y sêr, ac yn cael eu hysbrydoli gan hanesion o greadigrwydd a dyfeisiadau. Gyda digon o opsiynau gwych ar draws llyfrau lluniau, darllenwyr cynnar a llyfrau gradd ganolig.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru i ddod â Her Ddarllen yr Haf i lyfrgelloedd a chymunedau ledled Cymru.
Meddai Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon; "Does dim byd gwell na diflannu i mewn i lyfr neu ddau da dros wyliau'r haf, ac rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi llyfrgelloedd ledled Cymru i wneud darllen yn weithgaredd llawn hwyl i blant ledled Cymru – ac i'w helpu i ddarganfod y llawenydd o ddarllen a sbarduno eu dychymyg.
"Hoffwn ddiolch i holl staff y llyfrgell a fu'n rhan o'r gwaith o wneud Her Ddarllen yr Haf yn gymaint o lwyddiant yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: "Mae gwyliau'r haf yn amser gwych i ddarganfod straeon newydd a mwynhau eu rhannu gyda theulu a ffrindiau. Mae Her Ddarllen yr Haf yn gyfle gwych i danio angerdd dros ddarllen mewn plant fel y gallant ddatblygu'r sgiliau pwysig sydd eu hangen arnynt yn ddiweddarach mewn bywyd. Rwy'n annog plant ledled Cymru i ymweld â'u llyfrgell leol a derbyn yr her."
Yn ystod 2021, cyrhaeddodd Her Ddarllen yr Haf 21,148 o blant ledled Cymru mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus. Parhaodd yr Her i gyrraedd ymhell dros hanner miliwn o blant ledled y DU yn 2021 wrth i'r cyfyngiadau symud leddfu, gan gymell plant i barhau i ddarllen yn ystod cyfnod anodd. Dywedodd teuluoedd wrth yr Asiantaeth Ddarllen fod cymryd rhan yn Her Ddarllen yr Haf wedi helpu eu plant i fwynhau darllen mwy, teimlo'n fwy hyderus am ddarllen a 'theimlo'n well' yn ystod cyfnod anodd. Cynyddodd defnydd teuluol o lyfrgelloedd hefyd ymhlith cyfranogwyr yr Her, gyda mwy na 1779 o blant o Gymru yn ymuno â'r llyfrgell fel aelodau newydd.
Dywedodd Angharad Sinclair, Cyngor Llyfrau Cymru:
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o weithio ochr yn ochr â'r Asiantaeth Ddarllen a llyfrgelloedd cyhoeddus i gefnogi'r fenter werthfawr a phwysig hon eto eleni. Credwn fod cariad at ddarllen yn arf wych a phwerus, sydd nid yn unig yn rhoi sgil bywyd pwysig iddynt, ond sydd hefyd yn agor posibiliadau ac anturiaethau niferus. Pa ffordd well o fwynhau gwyliau'r haf na darllen y cyfoeth o lyfrau sydd ar gael drwy eich llyfrgell leol a chael hwyl gyda'r Teclynwyr ar yr un pryd!