English icon English

Hunanbortread Van Gogh yn dod i Gymru am y tro cyntaf

Van Gogh self-portrait comes to Wales for the first time

  • Bydd y gwaith celf yn rhan o arddangosfa newydd sbon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Mae’r benthyciad yn nodi diwedd Blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru, sydd wedi cryfhau cysylltiadau diwylliannol, chwaraeon a busnes drwy fwy na 40 o ddigwyddiadau
  • Bydd La Parisienne yn teithio i Musée D’Orsay, Paris yn rhan o’r gyfnewidfa gelf

O 16 Mawrth – 24 Ionawr 2025, bydd hunanbortread Van Gogh, Portread o’r Artist (1887) i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, diolch i fenthyciad dwyochrog gyda’r Musée D’Orsay, Paris.

Dyma’r tro cyntaf i’r hunanbortread hwn ddod i Gymru. Yn gyfnewid am y gwaith celf hwn, bydd un o’r paentiadau enwocaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, La Parisienne gan Renoir (sef y Fenyw Las), yn teithio dros y Sianel.

Mae’r benthyciad yn cau Blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru, sydd wedi creu cysylltiadau rhwng y ddwy wlad ym meysydd masnach, diwylliant a chwaraeon.

Bydd y paentiad gan Van Gogh i’w weld yn rhan o arddangosfa newydd, Drych ar yr Hunlun, sy’n gofyn y cwestiwn ‘Ai’r hunanbortread oedd yr hunlun cyntaf?’ ⁠

Yn cadw cwmni i Van Gogh bydd detholiad o artistiaid yng nghasgliad cenedlaethol Cymru, gan gynnwys Rembrandt, Brenda Chamberlain, Francis Bacon, Bedwyr Williams ac Anya Paintsil.

Gyda’i gilydd, maen nhw’n arddangos amrywiaeth eang o wahanol ddulliau artistig o greu hunanbortreadau. Mae tocynnau ar gael i’w prynu o ddydd Llun 12 Chwefror yma www.amgueddfa.cymru/hunlun

Drwy hanes, mae llawer o artistiaid wedi defnyddio hunanbortreadau fel ffyrdd o archwilio a mynegi eu hunaniaeth. Paentiodd Van Gogh (1853-1890) 35 o hunanbortreadau, a gellir dadlau ei fod yn un o’r wynebau mwyaf cyfarwydd yng nghelf y Gorllewin.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Am ffordd arbennig o ddod â blwyddyn Cymru yn Ffrainc i ben, blwyddyn o gryfhau ein cysylltiadau ym maes y celfyddydau, chwaraeon, addysg a masnach. Yn ystod y flwyddyn, mae Ffrainc wedi dod yn gyrchfan mwyaf poblogaidd Cymru ar gyfer allforio bwyd a diod; mae grwpiau dawns, cerddoriaeth a chwaraeon wedi teithio’r ddwy wlad yn hyrwyddo ein gwerthoedd fel cenedl agored a chroesawgar; a nawr rydyn ni’n croesawu’r hunanbortread eiconig hwn gan Van Gogh i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, diolch i’r partneriaethau rydyn ni wedi’u creu dros y Sianel.

“Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at fod yn un o ymwelwyr niferus Amgueddfa Cymru, a chael cyfle i archwilio hanes yr hunlun yn y casgliad godidog hwn.”

⁠Dywedodd Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:

“Rydyn ni wrth ein boddau i groesawu hunanbortread Van Gogh i Gymru i ddathlu partneriaeth Cymru yn Ffrainc.

“Rwy’n siŵr y bydd ymwelwyr â’r Amgueddfa yn mwynhau gweld y gwaith hwn gan un o baentwyr enwocaf y byd, ochr yn ochr â phaentiadau gan artistiaid yn ein casgliad yma yng Nghymru.

Mae’r detholiad o hunanbortreadau yn dangos y gwahanol ffyrdd y mae artistiaid wedi mynd ati i fynegi eu hunain, fel y byddwn ni’n cyflwyno ac yn rhannu lluniau o’n hunain heddiw.”

Ar gyfer arddangosfa Drych ar yr Hunlun, mae Amgueddfa Cymru yn annog ymwelwyr i dalu beth allan nhw ar gyfer tocynnau.

Mae Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, yn esbonio:

“Eiddo pobl Cymru yw’r casgliad cenedlaethol. Rydyn ni’n gofalu amdano, gwneud gwaith cadwraeth ac, yn bwysicaf oll, yn ei rannu ar eich rhan chi. Ond mae’r gwaith yn mynd yn anoddach. Mae costau’n cynyddu i bawb – gan gynnwys ni.

“Bydd cyn lleied â £1 yn ein helpu i greu ffyrdd newydd i bobl weld, mwynhau a chael eu hysbrydoli gan y casgliad cenedlaethol ac artistiaid mwya’r byd.”

I archebu tocynnau ar gyfer arddangosfa Drych ar yr Hunlun (16 Mawrth – 24 Ionawr 2025), ewch i www.amgueddfa.cymru/hunlun

Bydd La Parisienne gan Renoir ar gael i’w weld yn y Musée D’Orsay o 26 Mawrth yn rhan o arddangosfa Paris 1874: Inventing Impressionism.

Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn cynnig mynediad arbennig i’r arddangosfa hon drwy ddetholiad o opsiynau llogi cyfleusterau i’w teilwra, gan gynnwys derbyniadau diodydd, ciniawau ffurfiol a sgyrsiau preifat gan guraduron. Cysylltwch â’r tîm masnachol, llogi@amgueddfacymru.ac.uk am ragor o wybodaeth.