English icon English
Ysgol y Castell visit the castle-2

Ysgol y Castell yn ymweld â'r castell

Ysgol y Castell visit the castle

Cafodd plant o Ysgol y Castell brofiad arbennig ychydig cyn y Nadolig wrth iddyn nhw ymweld â Chastell Caerffili i weld y gwaith cadwraeth sy'n cael ei wneud yn Neuadd Fawr y castell.

Dechreuodd Cam I y gwaith, sy'n cynnwys adnewyddu'r Neuadd Fawr ganoloesol, gosod llwybrau a rampiau mynediad i ymwelwyr, dehongli newydd cynhwysfawr, a chreu gardd flodau gwyllt, ar 7 Awst 2023 a bydd yn parhau tan yr haf y flwyddyn nesaf.

Bydd gwaith cadwraeth ac agor mynediad i ymwelwyr hefyd yn cael ei wneud ar y porth dŵr canoloesol, a oedd unwaith yn darparu mynediad o ymyl y dŵr i'r Neuadd Fawr.  Nid yw'r fynedfa atmosfferig hon gyda'i thramwyfa hir dan orchudd wedi cael ei defnyddio ers y canol oesoedd.

Mae Castell Caerffili wedi elwa o fuddsoddiad o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy Cadw, i ddiogelu'r gaer ganoloesol a gosod cyfleusterau ymwelwyr newydd sy'n addas ar gyfer ymwelwyr yr 21ain ganrif. Bydd y rhain yn cynnwys canolfan groeso newydd i ymwelwyr gyda chaffi, toiledau, ac ystafell addysg fel y bydd llawer mwy o ysgolion yn gallu elwa o ymweld â'r castell yn y dyfodol i ddysgu am hanes Cymru a digwyddiadau sydd wedi siapio stori ein cenedl.

Dywedodd Mrs Callyn Bovington o Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell am yr ymweliad,

“Mae’r plant wedi mwynhau dysgu am y castell yn yr ysgol yn fawr, felly roedd yn wych gweld y gwaith sy’n cael ei wneud ar y safle.”

“Roedden nhw wrth eu boddau’n gweld y gwahanol straeon o wahanol rannau’r castell, ond yr uchafbwynt yn bendant oedd gweld y gwaith yn cael ei wneud yn y Neuadd Fawr. Bydd yn edrych yn anhygoel pan fydd wedi gorffen.”

Dywedodd Joan Tamlyn, Rheolwr Datblygu Busnes yn John Weaver Contractors,

"Mae Cadw a John Weaver Contractors yn awyddus iawn i ymgysylltu â'r cyhoedd ar gyfer y prosiect hwn, felly roedd yn bleser eu croesawu i'r castell a'u dangos o amgylch y Neuadd Fawr.

"Roedd y plant wedi ymddwyn yn arbennig o dda, ac roedd yn wych gweld y brwdfrydedd a'r diddordeb oedd ganddyn nhw yn y castell.”

 

 

 

Nodiadau i olygyddion

Capsiwn Llun:Plant o Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell yn mwynhau dysgu am Neuadd Fawr Castell Caerffili gyda John Smith, Rheolwr Contractau John Weaver Contractors.