Datgelu cynlluniau ar gyfer cofrestru statudol a chynllun trwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru
Plans unveiled for statutory registration and licensing scheme for visitor accommodation in Wales
Mae cynlluniau i gyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer pob llety ymwelwyr yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden heddiw (dydd Mawrth, 9 Ionawr) gyda disgwyl i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno i'r Senedd cyn diwedd y flwyddyn.
Bwriad y cynllun cofrestru a thrwyddedu yw cyflwyno cofrestr o fathau o lety i ymwelwyr a galluogi darparwyr i ddangos cydymffurfiaeth â gofynion diogelwch ac ansawdd.
Y bwriad yw gwella profiad ymwelwyr a'r disgwyliadau o ran diogelwch ymwelwyr yng Nghymru drwy sicrhau bod unrhyw un sy'n gosod llety ymwelwyr yn bodloni cyfres berthnasol o safonau.
Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, ymgysylltu'n helaeth â'r sector, yn ogystal ag arolwg a gyhoeddwyd yn ddiweddar a ganfu fod 89% o ymwelwyr o'r farn ei bod yn bwysig bod y llety y maent yn aros ynddo yn gweithredu'n ddiogel.
Mae sawl rhan o'r byd eisoes wedi mabwysiadu cynlluniau trwyddedu, ardystio neu gofrestru ar draws eu sectorau llety ymwelwyr ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried yr arferion gorau i greu un sy'n syml ac yn hawdd ei ddefnyddio ar gyfer darparwyr llety yng Nghymru.
Ar draws y DU, mae cynllun ardystio Gogledd Iwerddon wedi'i sefydlu ar gyfer pob llety i ymwelwyr ers 1992, gyda'r Alban wedi cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer gosod tymor byr yn ddiweddar. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu dilyn dull cofrestru ar gyfer gosod tymor byr.
Yng Nghymru, bydd y cam cyntaf yn gynllun cofrestru statudol ar gyfer pob darparwr llety, a fydd - am y tro cyntaf - yn darparu cofrestr ar yr ystod eang o lety i ymwelwyr sydd ar gael ledled y wlad a bydd yn cynnwys manylion am bwy sy'n gweithredu yn y sector, ble maent yn gweithredu, a sut maent yn gweithredu.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: "Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru ac i fywyd Cymru felly bydd yr wybodaeth hon yn hanfodol i'n helpu i ddeall y sector yn well, yn ogystal â helpu i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol ar lefel leol a chenedlaethol.
"Mae'r economi ymwelwyr yn newid yn gyflym, ac er bod twf llwyfannau archebu ar-lein wedi dod â llawer o fanteision, mae pryderon ynghylch cydymffurfio â'r gofynion presennol ac effaith gosod tai yn y tymor byr ar y stoc tai a'n cymunedau.
"Hoffwn ddiolch i fusnesau ar draws yr economi ymwelwyr am y gwytnwch enfawr y maent wedi'i ddangos trwy heriau digynsail y blynyddoedd diwethaf. Mae'r mewnbwn gan y sector, gan ymwelwyr a gan gymunedau wedi bod yn amhrisiadwy i'n gwaith hyd yn hyn. Byddwn yn parhau â'r gwaith ymgysylltu hwn wrth i ni ddatblygu'r cynllun."
Unwaith y bydd cynllun cofrestru wedi'i sefydlu'n llawn, y bwriad yw dilyn cynllun trwyddedu ar gyfer pob llety i ymwelwyr. I ddechrau, bydd hyn yn canolbwyntio ar gadarnhau cydymffurfiaeth â gofynion diogelwch y dylai darparwyr llety ymwelwyr fod yn eu bodloni eisoes, cyn ystyried cyflwyno safonau ansawdd yn nes ymlaen.
O dan y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, rydym yn ymrwymo i gynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau fel rhan o becyn o fesurau i fynd i'r afael â'r effaith negyddol y gall ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ei chael ar argaeledd a fforddiadwyedd tai i bobl leol yn ein cymunedau.
Dywedodd yr Aelod Dynodedig Siân Gwenllian: “Bydd ein cynlluniau ar gyfer cynllun cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer pob llety ymwelwyr yng Nghymru yn helpu i sicrhau diogelwch ymwelwyr ac yn ceisio gwella profiad yr ymwelwyr.
"Bydd y cynlluniau hefyd yn creu cynnig twristiaeth mwy cynaliadwy - wedi'i ddarparu yn unol ag anghenion a phryderon cymunedau, yn enwedig o ran tai.
"Bydd hyn yn arwain at reolaethau cryfach ar eiddo preswyl sy’n gweithredu fel llety gwyliau tymor byr, gan arwain at fwy o degwch i bawb."