English icon English
#2 (L-R) Kate Crowther, Jane Tranter, Deputy Minister and Dan McCulloch from Bad Wolf on set of Bad Wolf's Dope Girls sm-2

Cytundeb pedair blynedd yn sicrhau twf a sefydlogrwydd i Bad Wolf yng Nghymru.

Four-year deal delivers growth and stability for Bad Wolf in Wales.

Bydd cytundeb newydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni cynhyrchu arobryn o Gaerdydd, Bad Wolf, yn sicrhau y bydd nifer o ddramâu teledu o safon uchel yn cael eu gwneud yng Nghymru dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd y fargen gwerth £4m, a gafodd ei threfnu gan Cymru Greadigol, asiantaeth Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gefnogi a datblygu diwydiannau creadigol Cymru, yn galluogi Bad Wolf i atgyfnerthu ei safle yn y diwydiant a pharhau i dyfu yng Nghymru. Bydd Bad Wolf yn cadw ei brif ganolfan yn Stiwdios Blaidd Cymru yng Nghaerdydd ac yn adeiladu ar y llwyddiant byd-eang y mae wedi'i gael gyda sioeau llwyddiannus iawn fel Doctor Who, Industry, I Hate Suzie, The Winter King, His Dark Materials a A Discovery of Witches.

Bydd yn sicrhau bod rhwng pedwar a naw cynhyrchiad Bad Wolf yn cael eu ffilmio a'u cynhyrchu yng Nghymru yn y cyfnod hyd at fis Mawrth 2027, gan roi parhad i ddiwydiant sgrin Cymru a sicrhau diogelwch tymor hwy i griwiau a chwmnïau y gadwyn gyflenwi sy'n gweith yng Nghymru.

Rhagwelir y bydd y fargen yn sicrhau enillion ar fuddsoddiad o 15:1, sy'n sylweddol uwch na phrosiectau a ariennir yn unigol. Bydd yn helpu i ysgogi twf pellach yn niwydiant teledu ffyniannus Cymru, gan ymrwymo Bad Wolf i isafswm gwariant yng Nghymru o £60m dros y cyfnod o bedair blynedd, gan ddarparu o leiaf 42 o leoliadau â chyflog i hyfforddeion ar gynyrchiadau o safon uchel, a 748 o swyddi cyfwerth ag amser llawn trwy gyfleoedd gwaith tymor hir i griwiau a chwmnïau cadwyni cyflenwi yng Nghymru.

Bydd Bad Wolf yn parhau i flaenoriaethu ac ymrwymo i weithio gyda thalent o Gymru yn ystod y pedair blynedd, gyda llawer o actorion, cyfarwyddwyr ac awduron eisoes yn cymryd rhan mewn sawl prosiect.

Ymwelodd y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden â'r ffilmio ar gyfer cynhyrchiad diweddaraf Bad Wolf 'Dope Girls', gan gyfarfod y cast, y criw a'r hyfforddeion oedd yn gweithio ar y sioe.

Mae Dope Girls yn ddrama newydd bwysig chwe rhan a gomisiynwyd gan y BBC ac a gynhyrchwyd gan Bad Wolf mewn cydweithrediad â Sony Pictures Television.  Fe'i crëwyd gan yr awdur arobryn Polly Stenham (That Face, Julie, Neon Demon) ac Alex Warren (Eleanor) ac fe'i hysbrydolir gan gyfnod sydd wedi ei anghofio mewn hanes pan oedd merched, wedi colledion y Rhyfel Byd Cyntaf, yn rhedeg clybiau Soho.

Meddai y Dirprwy Weinidog: "Mae'r cytundeb pedair blynedd hwn yn newyddion ardderchog i'r sector creadigol yng Nghymru.  Bydd y niferoedd uchel o gwmnïau criwiau a’r gadwyn gyflenwi o Gymru sy'n gweithio ar y cynyrchiadau yn sicrhau credydau cynhyrchu amhrisiadwy a fydd ond yn cryfhau enw da Cymru fel lleoliad ffilmio o'r safon uchaf gyda chriw talentog a medrus sy'n gallu gwasanaethu cynhyrchu o safon uchel.

"Mae'r diwydiant yn llwyddiant ysgubol gyda chyrhaeddiad byd-eang sy'n helpu pobl ifanc i gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. Mae'r nod hwnnw wrth wraidd ein Cenhadaeth Economaidd ac mae'r sector creadigol yn profi'r hyn sy'n bosibl diolch i bartneriaeth barhaus gyda Llywodraeth Cymru."

Meddai Jane Tranter, Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Bad Wolf: "Mae'r gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi bod yn amhrisiadwy i dwf cynhyrchu teledu yma. Pan wnaethon ni leoli Doctor Who yng Nghymru am y tro cyntaf bron i 20 mlynedd yn ôl, prin y gallem fod wedi meiddio gobeithio y byddem wedi gweld cymaint o amrywiaeth o ddramau teledu yn cael ei gwneud gan lu o wahanol gwmnïau.  Mae'n anrhydedd i Bad Wolf fod yn rhan o ddiwydiant egnïol a bywiog fydd rydym yn siwr yn parhau i ddod â buddsoddiad a chyflogaeth i Gymru am flynyddoedd lawer."

Bydd y cyllid yn sicrhau mwy o gyfleoedd i griwiau gyda dilyniant a gwella sgiliau ar draws sawl cynhyrchiad. Prif ffocws y cyllid yw rhaglen dan hyfforddiant ar draws y cyfnod o bedair blynedd i gynnwys o leiaf 42 o leoliadau dan hyfforddiant cyflogedig ac o leiaf 1 prentis Criw Cymru ar bob cynhyrchiad.

Bydd 25 o leoliadau cysgodi gwaith hefyd yn cael eu darparu yn ogystal â menter Wolf Cub newydd sy'n canolbwyntio ar gynyddu amrywiaeth a hygyrchedd y diwydiant. Bydd y cynyrchiadau hefyd yn darparu llwyfan parhaus ar gyfer allgymorth a gweithdai ymarferol Screen Alliance Wales (SAW), gyda'r sefydliad dielw yn cadarnhau'n ddiweddar ei fod wedi cyrraedd dros 50,000 o unigolion ers 2018.