Wythnos Lleoliadau Annibynnol: Cyllid i leoliadau cerdd llawr gwlad ledled Cymru
Independent Venues Week: Funding announced to music venues across Wales
Mae Porters, y lleoliad adnabyddus a phoblogaidd yng Nghaerdydd, newydd gael bywyd newydd ar ôl symud i adeilad newydd yng nghanol y ddinas.
Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden wedi cyhoeddi yn ystod Wythnos y Lleoliadau Annibynnol bod £718,000 wedi'i gynnig i 17 o leoliadau cerdd llawr gwlad ledled Cymru o Gronfa Cyfalaf Cerdd Cymru Greadigol
Mae Porters yn un o 17 lleoliad fydd yn elwa o'r gronfa gan eu helpu gyda'r gwaith datblygu a symud diweddar.
Dywedodd Dan Porter: “Alla i ddim dweud digon pa mor anodd yw hi i leoliadau cerdd ar y funud – mae popeth yn ein herbyn mewn storm berffaith. Does gen i ddim amheuaeth heb gymorth fel hwn y byddai hi wedi bod yn amhosib i ni gario ‘mlaen, a byddai artistiaid a chynulleidfaoedd wedi colli lleoliad arall. Diolch i bawb sy y tu ôl i’r gronfa am eu gweledigaeth ac am ein helpu i fwrw ‘mlaen â’r hyn ddechreuon ni yn 2012 ac am roi llwyfan i ni ar gyfer datblygu a thyfu yn y dyfodol.”
Mae'r cyllid wedi eu helpu hefyd i wneud eu lleoliad newydd yn fwy hygyrch i gwsmeriaid anabl.
Aeth Dan yn ei flaen: “Mae’n gigs wastad wedi bod am ddim, a ninnau nawr diolch i’r gronfa yn fwy hygyrch nag erioed, does dim i rwystro’n cynulleidfaoedd rhag ymuno â ni.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: "Mae'r Gronfa Cyfalaf Cerdd wedi creu newid mawr yn y diwydiant cerddoriaeth. Bydd cyfleusterau gwell yn ychwanegu at y defnydd o leoliadau, yn denu artistiaid gwell ac yn cynyddu maint y cynulleidfaoedd. Bydd hyn i gyd yn dod â budd economaidd uniongyrchol i fusnesau cerddoriaeth, eu cadwyni cyflenwi a'r diwydiant cyfan.
"Er gwaethaf yr hinsawdd economaidd anodd, rydym wedi gweld nifer o leoliadau newydd yn agor yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf. Rwy’n dymuno’r gorau i Dan a’i dîm yn Porters yn eu cartref newydd."
Mae Llywodraeth Cymru am y bumed flwyddyn o'r bron wedi helpu busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch â'u biliau trethi busnes, am gost o £78m. Mae hynny ar ben y bron £1bn o gymorth ardrethi oedd eisoes wedi'i roi i'r sectorau hyn ers 2020-21. Hefyd, mae cronfa gyfalaf newydd gwerth £20m yn cael ei datblygu ar gyfer 2024/25 i helpu busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch i ddiogelu eu busnesau i'r dyfodol.
Mae'r cyllid diweddaraf hwn yn codi cyfanswm cefnogaeth Cymru Greadigol i leoliadau cerddoriaeth a busnesau i ragor na £9.6 miliwn ers 2020.
Nodiadau i olygyddion
Dyma'r lleoliadau eraill fydd yn derbyn arian:
|
Le Public Space, Casnewydd |
|
Stiwdio Acapela Caerdydd |
|
Claddgell y Banc, Aberystwyth |
|
Bar Caffi Cerddoriaeth Fyw Bourton, Bargod |
|
Merthyr Labour Club and Institute Ltd |
|
Misfits Social Clwb, Caerdydd |
|
The Cab, Casnewydd |
|
Gwesty'r Cwmcarn / The Fork &Tune |
|
Patriot Home of Rock, Crymlyn |
|
Clwb y Bont, Pont-y-pridd |
|
Afan Ales and Fine Wines, Port Talbot |
|
Canolfan Gymraeg Saith Seren Wrecsam |
|
CWRW Caerfyrddin |
|
CellB, Blaenau Ffestiniog |
|
ROC2 Studios, Wrecsam |
|
The Bunkhouse, Abertawe |